Ewch i’r prif gynnwys

Cynllun cyhoeddi

Rydym wedi mabwysiadu, heb ei addasu, gynllun cyhoeddi enghreifftiol y Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer y sector addysg uwch.

Rydym wedi ymrwymo i wneud i'r dosbarthiadau gwybodaeth canlynol fod ar gael i'r cyhoedd. Pe hoffech chi'r wybodaeth hon yn Gymraeg, cysylltwch â ni a byddwn ni'n falch o gael bod o gymorth.

Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

Gwybodaeth, strwythurau, lleoliadau a chysylltiadau cyfundrefnol.

Beth rydym yn ei wario a sut rydym yn ei wario

Gwybodaeth ariannol sy'n ymwneud ag incwm a gwariant rhagamcanol, caffael, contractau ac archwilio ariannol.

Beth yw ein blaenoriaethau a sut hwyl rydym yn ei chael arni

Strategaethau a chynlluniau, dangosyddion perfformiad, archwiliadau, arolygiadau ac adolygiadau.

Sut rydym yn gwneud penderfyniadau

Prosesau gwneud penderfyniadau a chofnodion penderfyniadau.

Ein polisïau a’n gweithdrefnau

Protocolau, polisïau a gweithdrefnau ysgrifenedig cyfredol ar gyfer cyflawni ein gwasanaethau a'n cyfrifoldebau.

Rhestri a chofrestri

Gwybodaeth sydd mewn rhestri a chofrestri sy'n cael eu cadw ar hyn o bryd.

Y gwasanaethau rydym yn eu cynnig

Gwybodaeth am y gwasanaethau rydym yn eu cynnig, yn cynnwys taflenni, arweiniad a llythyrau newyddion.

Gwybodaeth eithriedig

Ni fydd y dosbarthiadau gwybodaeth fel arfer yn cynnwys:

  • gwybodaeth y mae'r gyfraith yn atal iddi gael ei datgelu, neu wybodaeth sydd wedi'i hesemptio o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, neu yr ystyrir yn briodol fel arall i'w diogelu rhag cael ei datgelu
  • gwybodaeth ar ffurf ddrafft
  • gwybodaeth nad yw bellach ar gael yn rhwydd gan ei bod wedi'i chynnwys mewn ffeiliau a storiwyd  mewn archif, neu sy'n anodd cael mynediad iddi am resymau tebyg.