Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrannu cofnodion i'r Archif

Mae’r Archif Sefydliadol yn croesawu rhoddion o ddeunydd archifol sy’n ymwneud â hanes Prifysgol Caerdydd.

Rydym yn mynd ati i geisio casglu cofnodion sy’n gwneud cyfraniad sylweddol at ddealltwriaeth o hanes y Brifysgol, yr amgylchedd y mae wedi gweithredu o’i fewn a’r effaith y mae hi a’i chyn-fyfyrwyr wedi ei chael ar y byd ehangach. Mae’r enghreifftiau'n cynnwys:

  • cofnodion a gynhyrchwyd gan Ysgolion ac Is-adrannau wrth gynnal eu gwaith o ddydd i ddydd
  • cofnodion a gynhyrchwyd gan brosiectau ymchwil y Brifysgol
  • cofnodion a gynhyrchwyd gan aelodau unigol o staff a myfyrwyr
  • cofnodion a gynhyrchwyd gan rannau eraill o gymuned y Brifysgol, fel cymdeithasau a chlybiau myfyrwyr.

Derbynnir cofnodion ym mhob fformat. Gellid cadw cyfryngau digidol fel fersiwn analog gyfatebol at ddibenion cadwraeth.