Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleusterau

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

A student operating nanoscience research equipment in the School of Physics and Astronomy.

Rydym yn gallu cynnal gweithgareddau ymchwil cyffrous ar draws ein Hysgol am fod gennym ystod o labordai a thechnolegau rhagorol.

Ffowndri Diemwnt Caerdydd

Mae gennym ddwy ystafell lân dosbarth-1000, sydd â gallu arbrofol a damcaniaethol helaeth, gan gynnwys microsgopeg electron ynni isel, micro-sbectrosgopeg optegol aflinol cyflym iawn, a strwythuro, gwneud a phrofi dyfeisiau. Mae cyfleusterau Dyddodi Anwedd Cemegol (CVD) Plasma Microdon ar gael ar ein cyfer hefyd yn Ffowndri Diemwnt Caerdydd.

Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

Mae ein perthynas agos gyda’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn golygu bod rhai o’n hymchwilwyr yn rhannu eu cyfleusterau, gan gynnwys cyfarpar o’r radd flaenaf i greu lled-ddargludyddion cyfansawdd. Cyn bo hir, bydd y Sefydliad yn symud i’r Ganolfan Ymchwil Drosiadol newydd sbon a adeiladwyd i’r diben yn rhan o Gampws Arloesedd £300 miliwn Prifysgol Caerdydd.

Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd, Prifysgol Caerdydd

Mae ymchwilwyr yn ein Grŵp Delweddu’r Ymennydd a sefydlwyd yn ddiweddar yn elwa ar gael mynediad at Ganolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC), cyfleuster gwerth £44 miliwn a agorodd yn 2016. Mae ei hystod trawiadol o gyfarpar niwroddelweddu eisoes wedi arwain at ymchwil o safon fyd-eang mewn meysydd eraill, ac mae bellach yn ein helpu ni i wneud yr un fath wrth gymhwyso egwyddorion ffiseg i brosesau biolegol yr ymennydd.

Sefydliad Archwilio Disgyrchiant

Mae ein Sefydliad Archwilio Disgyrchiant yn rhan o brosiect Arsyllfa Tonnau Disgyrchiant Ymyriadau Laser (LIGO), ac mae’n un o gyd-sylfaenwyr Synhwyrydd Tonnau Disgyrchiant GEO600 yn yr Almaen. Mae’r partneriaethau rhyngwladol hyn wedi galluogi ein hymchwilwyr i ddefnyddio cyfarpar gwyddonol gorau’r byd; dyma’r cyfarpar a arweiniodd at ganfyddiad hanesyddol tonnau disgyrchiant am y tro cyntaf yn 2015.

Buddsoddi mewn isadeiledd

Rydym wedi gweld llawer iawn o arian ymchwil a buddsoddiad mewn isadeiledd gan gynnwys labordy arbrofol ar gyfer tonnau disgyrchiant, system dyddodi anwedd cemegol diemwnt, lithograffeg laser dau ffoton (i greu strwythurau i edrych ar fonopolau magnetig), ac isadeiledd ar gyfer y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol (CDT) mewn Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

Datblygiadau newydd

Bydd seilwaith ein hysgol, sydd wedi’i lleoli ym Mhrif Adeilad eiconig Prifysgol Caerdydd ers 1927, yn cael ei newid yn gynnar yn 2022 pan fydd Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn symud i'r Ganolfan Ymchwil Drosiadol gerllaw ar y Campws Arloesedd newydd gwerth £300 miliwn.

Bydd y Ganolfan Ymchwil Drosiadol yn dod ag ymchwilwyr at ei gilydd mewn labordai pwrpasol er mwyn ysgogi ymchwil ryngddisgyblaethol.

Translational Research Facility building
Translational Research Facility building