Ewch i’r prif gynnwys

Ensemble Gorllewin Affrica Lanyi

Sefydlwyd Ensemble Gorllewin Affrica Lanyi yn 2013 i roi cyfle i fyfyrwyr Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd astudio amrywiaeth o draddodiadau offerynnol, lleisiol a dawns.

Ystyr “Lanyi” yw “ymgynnull” yn Susu, iaith a siaredir yng Ngini, Gorllewin Affrica, ac mae'n cyfleu'r bondio cymunedol a gynhyrchir trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau cerddorol.

Mae'r ensemble yn ymdrin â repertoire o amrywiaeth o ddiwylliannau Gorllewin Affrica. Bydd y rhai sy'n newydd i'r gerddoriaeth yn derbyn hyfforddiant mewn technegau offerynnol a dawns sylfaenol tra bydd aelodau mwy profiadol o'r grŵp yn symud ymlaen i dechnegau mwy datblygedig, patrymau polyrhythmig, a sgiliau unigol.

Trwy ddysgu rhythmau a dawnsfeydd sy'n gyffredin ym mywyd cymdeithasol a pherfformiad llwyfan Gorllewin Affrica, bydd myfyrwyr yn datblygu galluoedd clywedol, arsylwi a dysgu newydd. Mae myfyrwyr yn dysgu caneuon mewn sawl iaith ac yn astudio amrywiaeth o offerynnau gan gynnwys drymiau (djembe, dundun, bugarabu) ac offerynnau taro llaw. Dylai myfyrwyr ddisgwyl cael hwyl, cael eu herio mewn ffyrdd newydd a datblygu eu dawn gerddorol gyffredinol.

Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, perfformiodd yr Ensemble gyda Pop Collective Prifysgol Caerdydd yn Undeb y Myfyrwyr ac yng Ngerddi Dyffryn, safle'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Dim ond myfyrwyr Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd all ymuno â Lanyi. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Elin Jones - JonesE159@caerdydd.ac.uk

Arweinydd yr Ensemble: Landing Mané

Landing Mané
Landing Mané.

Ers cyrraedd y DU ym 1998, mae Landing Mané wedi dod yn un o arweinwyr cerddoriaeth a dawns offerynnol Senegalaidd y wlad. Gan ddysgu ers yn bedair oed, mae hefyd yn hyddysg mewn traddodiadau o Gini, Mali a’r Traeth Ifori ac mae wedi astudio a derbyn hyfforddiant ffurfiol mewn jazz Affro a bale clasurol yn Conservatoire Genedlaethol Dakar yn Senegal. Am bum mlynedd bu’n Gyfarwyddwr Artistig ac yn Goreograffydd Bakalama o Thionck-Essyl yn Dakar, grŵp o fri rhyngwladol a sefydlwyd gan ei dad. Yn y DU mae Landing yn arwain ei gwmni perfformio ac addysgol ei hun, sef Jamo Jamo Arts.

Mae Landing hefyd yn athro offerynnol a dawns profiadol ac yn gweithio gyda dechreuwyr pur mewn ysgolion, prifysgolion a gwyliau fel WOMAD drwodd i goreograffu perfformwyr â sgiliau datblygedig o Affrica. Yn 2005 roedd yn fentor ac yn goreograffydd ar gyfer enillydd a’r dawnsiwr ail gorau yng nghynhyrchiad y BBC o Strictly African Dance, a ffilmiwyd yn Ne Affrica.