Y Gyfraith
Yn cael ein hadnabod am ein hymchwil cyfreithiol-gymdeithasol a'n hacademyddion sydd ag enw da yn rhyngwladol, bydd dewis y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd yn eich rhoi chi yng nghanolfan dinesig a chyfreithiol prifddinas Cymru.
Mae'r Gyfraith yn bwnc heriol a gwerth chweil sy'n rhoi amrywiaeth o sgiliau i chi sy'n addas ar gyfer ystod eang o yrfaoedd. Dyluniwyd ein cyrsiau i'ch galluogi chi i gyflawni eich potensial academaidd a galwedigaethol. Mae astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn dangos eich ymrwymiad i ragoriaeth a byddwch yn derbyn cefnogaeth ein staff cyfeillgar sy'n barod i'ch helpu chi i greu eich dyfodol.
Rydym yn denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd ac yn cynnig amgylchedd cymwynasgar, cefnogol ac sy'n amrywiol yn ddiwylliannol i chi astudio ynddo.
Hefyd, ni yw’r unig Brifysgol yng Ngrŵp Russell yn y Du i gynnig hyfforddiant cyfreithiol proffesiynol cyflawn: y Diploma Graddedig yn y Gyfraith (GDL), Y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) a Chwrs Hyfforddiant y Bar (BTC).
Rydym ni'n cynnig y cyfle i fyfyrwyr helpu aelodau'r gymuned gyda materion cyfreithiol, yn hollol rhad ac am ddim.