Ffeiriau a digwyddiadau gyrfaoedd
Mae ein ffeiriau a'n digwyddiadau gyrfaoedd yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr gysylltu â chyn-fyfyrwyr a chyflogwyr, gan gynnig cipolwg gwerthfawr iddyn nhw ar swyddi i raddedigion, interniaethau a lleoliadau, yn ogystal â'u helpu i ddod o hyd i’w llwybrau gyrfaol yn y dyfodol.
Mae’n bleser gennym ni groesawu cyflogwyr i adeilad eiconig Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yng nghanol y brifysgol, yn ogystal â nodi lleoliadau eraill ar y campws lle gallwch chi gwrdd â myfyrwyr.

Ffair Gyrfaoedd a Lleoliadau Gwaith
Dydd Mawrth 14 Hydref 2025
Ffair Gyrfaoedd yr Hydref sydd ar agor i bob disgyblaeth gradd.
P'un a ydych yn hyrwyddo swyddi i raddedigion, lleoliadau gwaith neu interniaethau, dyma ddigwyddiad perffaith i arddangos eich sefydliad a'ch cyfleoedd i gynulleidfa o fyfyrwyr amrywiol ac uchelgeisiol. Dewch i ymgysylltu ag israddedigion, ôl-raddedigion, a graddedigion diweddar o ystod amrywiol o ddisgyblaethau gradd.
Ffair STEM a Gwyddorau Bywyd
Dydd Mawrth 28 Hydref 2025
Dewch i gysylltu â myfyrwyr talentog o ddisgyblaethau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a gwyddorau bywyd. P'un a ydych yn hyrwyddo swyddi i raddedigion, lleoliadau gwaith, neu interniaethau, mae’r digwyddiad yma’n gyfle i arddangos eich sefydliad a'ch cyfleoedd i gynulleidfa o fyfyrwyr uchelgeisiol a medrus ym mhob blwyddyn astudio.
Ffair y Gyfraith Prifysgol Caerdydd
Dydd Mercher 29 Hydref 2025
Dewch i ymgysylltu â myfyrwyr o'n rhaglenni LLB, LLM, BTC, LPC, GDL ac ôl-raddedig o bob blwyddyn astudio sy'n ymchwilio i yrfaoedd yn y sector cyfreithiol. P'un a ydych yn hyrwyddo interniaethau, contractau hyfforddi/profiad gwaith cymhwysol (QWE), cynlluniau dros y gwyliau a chyfleoedd eraill yn eich sefydliad, mae’r digwyddiad yma’n gyfle i arddangos eich sefydliad i'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith.
Ffair Gyrfaoedd y Gwanwyn
Dydd Mawrth 10 Mawrth 2026
Yr unig ffair gyrfaoedd sy'n digwydd yn nhymor y Gwanwyn, mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwerthfawr i gysylltu â chynulleidfa amrywiol ac uchelgeisiol o fyfyrwyr o bob blwyddyn a maes pwnc. P'un a ydych yn hyrwyddo swyddi ar ôl graddio, interniaethau neu gyfleoedd eraill, dyma gyfle delfrydol i arddangos eich sefydliad a'ch cyfleoedd.

Digwyddiadau gyda Chyflogwyr
Bydd ein tîm yn cyfarfod â chi i drafod y gweithgaredd gorau ar gyfer eich ymgyrch a’ch anghenion recriwtio, gan eich helpu i drefnu eich digwyddiad. Boed yn marchnata neu’n cadw lleoedd i fyfyrwyr, byddwn ni’n rheoli popeth ac yn rhoi cyngor cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad.
Rydyn ni’n argymell y canlynol:
- Cyflwyniadau gan Gyflogwyr gyda rhwydweithio a sesiwn holi ac ateb fyw
- Sesiynau sgiliau rhyngweithiol
- Trafodaethau Panel
- Digwyddiadau rhwydweithio ysgolion a’r rheiny sy’n sector-benodol
- Digwyddiadau Panel y Cyn-fyfyrwyr
- Stondinau gyda chyflogwyr
- Mewnwelediadau a theithiau o amgylch y Swyddfa
- Cyflwyno heriau yn y byd go iawn a phrosiectau sydd ar waith o fewn y cwricwlwm

Llongyfarchiadau i Wasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Caerdydd! Rydych chi'n dîm mor gyfeillgar a chroesawgar, ac mae pob un o'ch digwyddiadau wedi'i drefnu'n arbennig o dda. Rydych chi wir yn gofalu am eich cwmnïau pan ddôn nhw i’r digwyddiadau, ac mae hynny’n dipyn o gamp o’m profiad i.
Rhagor o wybodaeth
Mae croeso ichi gysylltu â'r tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr i drafod eich anghenion recriwtio.
Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr
I benderfynu ar y ffair yrfa fwyaf addas ar gyfer eich anghenion recriwtio, cymerwch olwg manylach ar ddata ar bresenoldeb myfyrwyr yn ein Ffeiriau Gyrfaoedd yn 2024/2025