Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaethau Sgiliau Cyfnewid Gwybodaeth (KESS 2)

Mae Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth, (KESS 2) yn cefnogi cymwysterau doethurol, MPhil a graddau meistr ymchwil ym mhob prifysgol Cymru ac yn cael eu noddi gan bartneriaid allanol yng Nghymru.

Mae KESS 2 yn fenter sgiliau lefel uwch dros Gymru gyfan, dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector Addysg Uwch yng Nghymru. Mae'r fenter wedi'i hariannu'n rhannol gan raglen Cronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cymru.

Meini prawf allweddol

  • Rhaid datblygu prosiectau ymchwil ar y cyd gyda phartner allanol sydd wedi'i leoli yng Nghymru ac sy'n gallu dangos budd i'r rhanbarth hwnnw.
  • Rhaid i brosiectau fod yn gysylltiedig â sectorau economaidd sy'n cael eu blaenoriaethu gan Lywodraeth Cymru:
    • TGCh a'r economi ddigidol
    • carbon isel, egni a'r amgylchedd
    • gwyddorau bywyd ac iechyd
    • uwch beirianneg fecanyddol a deunyddiau
  • Os byddwch yn derbyn ysgoloriaethau KESS2 mae'n rhaid ichi gael cyfeiriad gartref neu waith mewn ardal berthnasol yng Nghymru (Gorllewin neu Dwyrain) pan fyddwch yn gwneud cais a chofrestru.

Gwybodaeth ar gyfer partneriaid a goruchwylwyr

Sut gall eich busnes fanteisio o KESS II, gan gynnwys cymhwysedd a sut i wneud cais.

Sut i ymgeisio

Nid oes rhagor o leoedd PhD ar gael ar gyfer Dwyrain a Gorllewin Cymru.

Gellir cyflwyno ceisiadau MPhil ac MRes Dwyrain ar unrhyw adeg a chaiff eu prosesu ar sail y cyntaf i'r felin.
Rhoddir blaenoriaeth i gynigion MRes ac MPhil gyda micro-gwmnïau, busnesau bach a chanolig, sefydliadau elusennol a phartneriaid sector mawr.

Rhaid i oruchwylwyr academaidd gysylltu â swyddfeydd Ymchwil Ôl-raddedig / Ymchwil eu hysgol wrth baratoi ceisiadau - dylid cyflwyno ceisiadau drwy swyddfa'r Ysgol Academaidd i KESS2 drwy ebostio kess@caerdydd.ac.uk gyda chymeradwyaeth yr Ysgol.

Lleoedd gwag KESS2 cyfredol.

Cysylltwch â ni

Esther Meadows

Rheolwr Proseict Cyllid a Chydymffurfio

Ein harianwyr

Mae Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth yn fenter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan dan arweiniad Prifysgol Bangor ar ran y sector Addysg Uwch yng Nghymru. Mae'r fenter wedi'i hariannu'n rhannol gan raglen Cronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd.