Recriwtio ein graddedigion
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymroi i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer byd gwaith heddiw gyda'r sgiliau a'r rhinweddau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw.
Drwy recriwtio ein myfyrwyr a'n graddedigion, byddwch chi’n cyflogi unigolion talentog, brwdfrydig ac amrywiol sy'n awyddus i ddysgu a rhoi eu sgiliau ar waith.
Mae'r tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr yn cydweithio â sefydliadau ar draws pob sector, boed yn fusnesau bach a chanolig neu gorfforaethau rhyngwladol, i gynnig dull ymgynghorol sy'n seiliedig ar anghenion a gynlluniwyd i gefnogi eich ymgyrchoedd denu a recriwtio. P'un a oes gennych chi gynllun hyfforddi graddedigion, swyddi mynediad uniongyrchol, lleoliadau myfyrwyr neu gyfleoedd ar gyfer interniaeth, rydyn ni’n cynnig ystod gynhwysfawr a phwrpasol o wasanaethau a digwyddiadau i'ch helpu i ddatblygu eich brand a dod o hyd i dalent ar gyfer y dyfodol.
Recriwtio ein hymchwilwyr
Mae gennym ni dros 1,700 o fyfyrwyr PhD a thua 800 o staff ymchwil ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau. Mae gan bob un ohonyn nhw gyfoeth o ddoniau, gan gynnwys sgiliau dadansoddi, rheoli prosiectau a chyfathrebu rhagorol. Er y bydd cyfran o ymchwilwyr yn datblygu eu gyrfaoedd yn sector y prifysgolion, mae llawer yn awyddus i ystyried cyfleoedd gyda chyflogwyr eraill, mawr, mân, cyhoeddus a phreifat.
I gael rhagor o wybodaeth neu drafod Recriwtio Ymchwilwyr yn fanylach mae croeso ichi gysylltu â ni.
Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am recriwtio ein myfyrwyr a'n graddedigion