Ewch i’r prif gynnwys

Opsiynau cyrsiau

Gallwn deilwra ein cyrsiau i gyd-fynd ag anghenion eich gweithle.

Mae pob un o’n pecynnau y Gymraeg yn y Gweithle’n cynnwys addysgu a pharatoi, costau teithio’r tiwtor, sesiwn ymgynghori gychwynnol a sesiwn ymwybyddiaeth iaith ddewisol.

Ymwybyddiaeth Iaith

Gellir cynnig Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o’r Gymraeg pwrpasol i’ch sefydliad. Bydd cyrsiau o’r fath yn rhoi dealltwriaeth well i chi o faterion sy’n ymwneud â’r Gymraeg megis y ddeddfwriaeth a fframwaith polisi yn ogystal â sail resymegol dwyieithrwydd.

Mae’n bwysig nodi nad yw hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith yn ymwneud â sgiliau iaith. Mae’n gysylltiedig â gwerthfawrogi dewis iaith fel rhan annatod o gyfathrebu effeithiol a chynnig y gwasanaeth gorau posibl i gwsmeriaid.

Cwrdd a chyfarch

Cwrs byr i ddechreuwyr allu cwrdd a chyfarch cwsmeriaid, ymdrin ag ymholiadau syml, gweithio mewn derbynfa, ebyst syml ac ati yn y gweithle.

Mae’r cwrs hefyd yn cyflwyno elfennau sylfaenol eraill ar y Gymraeg a gellir ei ystyried naill ai fel cwrs ‘blasu’ neu fel opsiwn unigol oherwydd ei fod yn cynnig sgiliau penodol a mesuradwy sy’n berthnasol i’r gweithle.

Cyrsiau i ddechreuwyr

Cwrs 60 – 120 awr (Lefel Mynediad neu Sylfaenol) y gellir ei gyflwyno i weddu i argaeledd/gallu eich sefydliad h.y. unwaith neu ddwywaith yr wythnos dros flwyddyn neu mewn cyfnodau mwy byr.

Dyma ein cyrsiau byr:

  • Yr hanfodion (60 awr)
  • Adeiladu ar yr hanfodion (60 awr)
  • Gwella eich sgiliau sgwrsio (60 awr)
  • Dod â phob dim ynghyd (60 awr)

Cyrsiau lefel canolradd hyd at hyfedredd

Efallai y cafodd rhywfaint o’ch staff eu magu mewn amgylchedd lle siaradwyd Cymraeg, eu bod wedi sefyll Safon Uwch Cymraeg, mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg neu nad ydynt yn defnyddio eu Cymraeg oherwydd prinder ymarfer a/neu ddiffyg hyder.
Fel arfer mae’n fwy effeithiol o ran cost ac amser i loywi sgiliau’r unigolyn hyn yn hytrach na chanolbwyntio ar ddechreuwyr yn unig.

Dysgu cyfunol

Gyda phwysau cynyddol ar amser yn y gwaith, mae dysgu cyfunol (50% yn yr ystafell ddosbarth a 50% astudio ar eich pen eich hun ar-lein) yn opsiwn deniadol. Mae’r cyrsiau hyn yn golygu bod y gwaith yn cael ei gyflwyno ar-lein ac yn cael ei adolygu yn yr ystafell ddosbarth.

Cysylltwch â ni

Dysgu Cymraeg Caerdydd