Ewch i’r prif gynnwys

Cynllun Sabothol Cenedlaethol

Mae’r Cynllun Sabothol ar gyfer hyfforddiant iaith Gymraeg yn cynnig cyrsiau iaith i athrawon cynradd ac uwchradd, cynorthwywyr dosbarth a darlithwyr.

Nod y cyrsiau, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw cynyddu'r nifer o ymarferwyr sy'n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. Mae’r cyrsiau yn cynnig cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus arbenigol ym maes addysg.

Mae’r cyrsiau yn cael eu cynnig ar sawl lefel ieithyddol mewn sawl lleoliad ar draws Cymru. Yma yng Nghaerdydd, rydym yn cynnig cyrsiau sabothol ar lefel sylfaen, ac uwch yn ogystal â chwrs arloesol newydd Cymraeg mewn Blwyddyn.

Mae'r cyrsiau yn rhad ac am ddim ac mae Llywodraeth Cymru yn darparu grant er mwyn talu costau cyflenwi yn ogystal â chostau teithio.

Mae'r cwrs hwn wedi ei anelu at gynorthwywyr dosbarth sy’n dysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg sydd â gwybodaeth gyfyngedig o'r iaith Gymraeg. Nod y cwrs yw creu cynorthwywyr fydd yn hyderus i siarad â dysgwyr ifanc, gan ddatblygu eu hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn yr ysgol mewn ystod eang o gyd-destunau. Mae’n gwrs dwys sy'n cael ei ddysgu yn y Brifysgol am 5 wythnos.

Addas ar gyfer: Cynorthwywyr dysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg.

Mae’r cwrs hwn ar gyfer athrawon cynradd sy’n dysgu yn y sector cyfrwng Saesneg. Nod y cwrs yw datblygu sgiliau ymarferwyr i  ddefnyddio'r Gymraeg  yn hyderus yn yr ysgol mewn ystod eang o gyd-destunau. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddysgu patrymau perthnasol, ehangu geirfa, datblygu methodolegau addysgu iaith a datblygu adnoddau addysgu.  Mae'n gwrs dwys sy'n cael ei ddysgu yn y Brifysgol am 11 wythnos.

Addas ar gyfer: Athrawon cynradd sy’n dysgu yn y sector cyfrwng Saesneg gyda rhywfaint o wybodaeth o’r iaith Gymraeg.

Nod y cwrs yw cynyddu hyder a sgiliau ymarferwyr wrth ddefnyddio'r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig wrth addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. Mae’r cwrs yn datblygu hyder a chywirdeb ymarferwyr wrth addysgu, asesu ac ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol. Canolbwyntir ar ddatblygu gwybodaeth ieithyddol fydd yn galluogi ymarferwyr i ddatblygu iaith disgyblion a chodi safonau yn eu hysgolion.

Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at siaradwyr Cymraeg rhugl, naill ai siaradwyr iaith gyntaf neu ddysgwyr rhugl sy'n dymuno cynyddu eu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destun proffesiynol.

Addas ar gyfer: Athrawon mewn ysgolion cynradd neu uwchradd cyfrwng Cymraeg neu ddarlithwyr addysg bellach.

Nod y cwrs hwn yw datblygu sgiliau Cymraeg cynorthwywyr dysgu a’u hyder i ddefnyddio’r iaith yn gywir ac yn effeithiol yn yr ysgol mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae’r cwrs yn datblygu dealltwriaeth o strwythur yr iaith a’r gallu i fodelu iaith yn gywir i’r disgyblion.

Drwy ddilyn y cwrs hwn bydd cynorthwywyr yn gallu cefnogi athrawon i ddatblygu llythrennedd disgyblion yn effeithiol.
Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at siaradwyr Cymraeg rhugl, naill ai siaradwyr iaith gyntaf neu ddysgwyr rhugl sy'n dymuno cynyddu eu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destun proffesiynol.

Cwrs 20 diwrnod yn y Brifysgol.

Addas ar gyfer: Cynorthwywyr dysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg.

Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle unigryw i ymarferwyr ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Bydd athrawon yn treulio blwyddyn gyda ni yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn datblygu eu sgiliau Cymraeg fydd yn eu galluogi i gyfrannu at godi safonau yn eu hysgolion. Nod y cwrs yw datblygu hyder a gallu ymarferwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm ynghyd â rhoi cyfle i ymarferwyr weithio yn strategol er mwyn datblygu dwyieithrwydd yn eu hysgolion.

Rhoddir cyfle i ymarferwyr ddatblygu eu gwybodaeth am fethodolegau addysgu iaith a datblygu adnoddau a gwersi trawsgwricwlaidd.

Yn ystod y flwyddyn bydd ymarferwyr yn treulio cyfnod yn eu hysgolion yn gweithio ar brosiectau fydd yn hyrwyddo’r Gymraeg yn yr Ysgol ac yn treulio cyfnod mewn ysgol gynradd Gymraeg.

Strwythur y cwrs

TymorFfurf
HydrefLlawn-amser yn y Brifysgol
Gwanwyn4 diwrnod yr wythnos yn y Brifysgol
1 diwrnod yr wythnos yn eich ysgol
Haf

4 diwrnod yr wythnos yn y Brifysgol
1 diwrnod yr wythnos yn eich ysgol
8 diwrnod mewn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg (ar ôl hanner tymor)

Cysylltu

Cynllun Sabothol