Defnyddio eich Cymraeg
Mae’n bwysig eich bod yn manteisio i’r eithaf ar bob cyfle i ddefnyddio eich Cymraeg.
Mae eich siwrnai tuag at ddod yn rhugl yn bwysig i ni, ac rydym eisiau eich helpu chi i wella. Po fwyaf y byddwch yn ymarfer, y cyflymaf y bydd eich siwrnai ddysgu i ruglder.
Rydym yn cynnal llawer o ddigwyddiadau megis Coffi a Chlonc a Siop Siarad lle gall dysgwyr ymlacio’n gymdeithasol ac ymarfer eu Cymraeg y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i fwynhau siarad Cymraeg a chwrdd â dysgwyr eraill o bobl lefel.
Edrychwch ar Galendr Google – Dysgu Cymraeg Caerdydd i weld ble a phryd mae ein digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal. Cynhelir y rhan fwyaf o’n digwyddiadau bob wythnos.
Yn ogystal, mae gan Gaerdydd ei chymuned fywiog o ddysgwyr Cymraeg, a byddem hefyd yn eich annog chi i gymryd rhan yn y digwyddiadau hyn.
Cysylltwch â ni
Dysgu Cymraeg Caerdydd
Rydym yn cynnig cyrsiau i ddechreuwyr llwyr hyd at gyrsiau i siaradwyr Cymraeg rhugl a fyddai’n hoffi gwella eu Cymraeg.