Y Gymraeg yn y gweithle
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Cymraeg y gellir eu haddysgu yn eich cwmni/sefydliad.
Gall y manteision o’u cynnal gynnwys:
- Creu pwynt gwerthu unigryw
- Meithrin ewyllys da a theyrngarwch ymhlith cwsmeriaid
- Rhoi mantais gystadleuol i’ch busnes
- Gwella ansawdd y gwasanaeth
- Gwella gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus
- Mae’n bosibl y bydd eich busnes yn dod o dan gylch gorchwyl Safonau’r Gymraeg – disgwyliad cyfreithiol o ran safonau a darparu gwasanaethau.
Rhesymau i'n dewis ni
Gellir teilwra cyrsiau er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol i anghenion eich cwmni/sefydliad a gallwch ddewis pryd i gynnal dosbarthiadau yn ystod eich wythnos waith.
- Gellir darparu ar gyfer grwpiau bach neu fawr yn ogystal â chynnig sesiynau unigol.
- Gellir asesu pob darpar ddysgwr ymlaen llaw i sicrhau ei fod yn mynd i’r cwrs ar y lefel gywir.
- Gellir monitro presenoldeb a chynnydd yn eich cwmni.
- Os oes siaradwyr Cymraeg yn eich gweithle ar hyn o bryd, gellir trefnu cwrs mentora i helpu dysgwyr i ddefnyddio eu Cymraeg o ddydd i ddydd.
- Bydd cynnal cwrs yn y gweithle yn sicrhau ei fod yn gwrs sy’n addas i’ch staff.
- Byddwch yn gallu noddi eich staff i ddod i gwrs prif ffrwd.
Ni yw un o’r darparwyr y Gymraeg yn y Gweithle mwyaf yng Nghymru – mae miloedd o bobl wedi dysgu a gwella eu sgiliau Cymraeg gyda ni ac rydym wedi arbenigo yn y maes hwn am dros 30 mlynedd.
Mae gennym dîm y Gymraeg yn y Gweithle pwrpasol sy’n gyfrifol am drefnu darpariaeth a sicrhau bodlonrwydd cwsmeriaid. Mae ein tiwtoriaid wedi’u hyfforddi’n dda, yn brofiadol ac yn wybodus iawn.
Gallwn gynnig sesiynau Ymwybyddiaeth Iaith a chyrsiau pwrpasol pellach ar gais.