Ewch i’r prif gynnwys

Profi dŵr gwastraff i ganfod Covid-19 a chlefydau trosglwyddadwy

16 Ionawr 2023

Wastewater samples being collected at Dŵr Cymru Welsh Water treatment works
Wastewater samples being collected at Dŵr Cymru Welsh Water treatment works. ©Dan Struther

Mae monitro dŵr gwastraff i ganfod lefelau Covid-19 yng Nghymru wedi cael ei ehangu i gynnwys y gwaith o gadw golwg ar lefelau clefydau trosglwyddadwy ac ymwrthedd gwrthficrobaidd yn y dŵr gwastraff a gynhyrcha ysbytai.

Yn y lle cyntaf, datblygodd y rhaglen dan arweiniad Prifysgol Bangor – ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru, Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy – y broses o brofi dŵr gwastraff i ganfod COVID-19 a oedd yn rhan o’r broses gynnar o ganfod ton Omicron ledled Cymru.

Mae'r ymchwil hon yn cynnig data hollbwysig ar y graddau y mae’r coronafeirws yn bodoli yn y gymuned a bydd ychwanegu'r safleoedd allweddol hyn a chlefydau trosglwyddadwy ychwanegol at y monitro sydd eisoes ar waith ar draws byrddau iechyd ac awdurdodau lleol Cymru yn dyfnhau'r ddealltwriaeth a'r wybodaeth leol sydd eu hangen wrth wneud penderfyniadau sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd

Yn ogystal â phrofi am SARS-CoV-2 ac amrywolion eraill, mae'r tîm bellach wedi creu dulliau i brofi am feirysau eraill o ddiddordeb, gan gynnwys polio, norofeirws a bygiau eraill yn y stumog, y ffliw a'r feirws anadlol RSV ac ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Yn y cam nesaf yn natblygiad y rhaglen bydd partneriaid presennol y rhaglen yn gweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i fonitro dŵr gwastraff mewn naw ysbyty yng Nghymru ac ehangu’r gwaith o gadw golwg ar feirysau polio, a hynny yn sgîl canfod feirws polio sy'n deillio o frechlyn yn Llundain yn gynharach eleni.

“Rydyn ni’n gwneud hyn i wneud ein gorau i ddeall yr hyn sy'n digwydd. Mae cynnal profion mewn lleoliadau penodol megis ysbytai yn golygu ein bod yn gallu amddiffyn iechyd pobl ar y rheng flaen yn well yn ogystal â deall pa bathogenau newydd sydd hwyrach yn dod i mewn i'r wlad.

“Mae’n bosibl y bydd cynnal profion mewn cynulliadau torfol megis mewn gŵyl hefyd yn rhoi syniad inni o ba mor bwysig yw'r rhain wrth drosglwyddo clefydau.” Yr Athro David Jones, arweinydd datblygiad y rhaglen dŵr gwastraff, Ysgol y Gwyddorau Naturiol, Prifysgol Bangor.

Dyma a ddywedodd yr Athro Andy Weightman o Ysgol y Biowyddorau a Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd, sy'n cyd-arwain y rhaglen: “Mae ehangu Rhaglen Monitro Dŵr Gwastraff Cymru i fonitro ymwrthedd gwrthficrobaidd yn ddatblygiad newydd a hollbwysig.

“Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi datgan bod ymwrthedd gwrthficrobaidd yn un o'r 10 bygythiad byd-eang mwyaf sy’n wynebu iechyd y ddynoliaeth: mae'n bygwth y gwaith o atal a thrin ystod gynyddol o heintiau a achosir gan ficro-organebau mewn ffordd effeithiol.

Bydd ein rhaglen estynedig newydd yn helpu i wrthsefyll y bygythiad hwn drwy ganiatáu inni fonitro ymwrthedd gwrthficrobaidd er mwyn deall yn well sut mae genynnau ymwrthedd gwrthficrobaidd a'r microbau sy'n eu trosglwyddo yn ymledu yn ein cymunedau.

Yr Athro Andy Weightman Yr athro

“Mae dadansoddi dŵr gwastraff yn rhoi darlun gonest o iechyd y gymuned, ychwanegodd Joe Shuttleworth, Uwch-ymgynghorydd Digidol, Arup.  Mae'n ddarn arwyddocaol yn y gwaith o gefnogi iechyd y cyhoedd – os yw'r data a'r wybodaeth arbenigol yn cael eu rhoi i'r bobl gywir yn y ffordd gywir, ac ar yr adeg gywir.

“Y cam pwysig nesaf ar y daith yw edrych y tu hwnt i COVID-19, gan ddefnyddio'r dull hwn i helpu i baratoi Cymru ar gyfer heriau iechyd y cyhoedd yn y dyfodol.”

Dyma a ddywedodd Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn falch iawn o weithio gyda'n partneriaid i ehangu’r gallu i gadw golwg ar ddŵr gwastraff ledled Cymru. Bydd cadw golwg arno’n hollbwysig wrth inni fonitro ac ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau sy'n dod i'r golwg ac achosion o glefydau trosglwyddadwy, a bydd yn dyfnhau ein dealltwriaeth o ymwrthedd gwrthficrobaidd, gan ein helpu i ddiogelu a gwella iechyd a lles pobl yng Nghymru.

“Mae cadw golwg ar ddŵr gwastraff wedi bod yn hollbwysig o ran adnabod presenoldeb poliofeirws yn Llundain, a bellach bydd Cymru hefyd yn gallu adnabod y feirws hwn a chlefydau eraill sy'n dod i'r golwg er mwyn gweithredu'n gynnar.”

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol enw da ar lefel ryngwladol am ei haddysgu a’i hymchwil, ac mae’n cynnig rhai o’r cwricwla biowyddorau gorau yn y DU sy’n cael ei arwain gan ymchwil