Prosiect Ysgolion Cymru Tsieina
- Ar gael ar gais
- Mwy nag un diwrnod
Mae prosiect Ysgolion Cymru Tsieina yn ceisio cyflwyno portffolio o weithgareddau allgymorth sy’n cynnwys sesiynau blas ar Dsieinëeg, Diwrnodau Tsieina, Wythnosau Tsieina, a sesiynau iaith. Cânt eu cyflwyno yn rhan o’r cwricwlwm a’r tu allan iddo, wedi’u hachredu a heb achrediad.
Mae ein rhaglen hefyd yn cynnwys nifer o gyfleodd datblygiad proffesiynol parhaus i athrawon yng Nghymru.
Er mwyn cynnal a datblygu safon uchel yr holl weithgareddau, mae’r prosiect hefyd yn cynnig hyfforddiant rheolaidd i bob un o’i diwtoriaid Tsieinëeg (Mandarin) yng Nghymru, yn ogystal ag yn cefnogi athrawon mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru gyda chyfleoedd i rwydweithio a datblygu’n broffesiynol.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgaredd hwn, ewch i'n gwefan.
Ynglŷn â'r trefnydd
Sefydliad Confucius Caerdydd (yn yr Ysgol Ieithoedd Modern) sy’n trefnu’r gweithgaredd hwn. Cysylltwch â Victoria Ucele yn ucelev@caerdydd.ac.uk neu +44 (0)29 2087 5216 i gael rhagor o fanylion.
Sut i gadw lle
Gallwn gyflwyno’r rhaglen hon yn unol â dyddiadau tymor ysgolion yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Rheolwr Prosiect Ysgolion Cymru Tsieina, Rachel Andrews drwy ebost.
Mae’r gost yn amrywio yn dibynnu ar y gweithgaredd. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
Rydym yn dod atoch chi
Rydym am ei gwneud yn hawdd i chi weithio gyda ni. Lle bynnag y bo modd, byddwn yn dod â'r gweithgaredd hwn i'ch ysgol neu'ch coleg.
Cynulleidfa
Mae angen goruchwyliaeth athrawon.