Eich ymweliad rhithwir â'r Ysgol Meddygaeth
Diddordeb mewn bod yn feddyg? Mae gennym lawer o wybodaeth ddefnyddiol am astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd i’ch rhoi ar ben ffordd.
- Rydych yn dod i gysylltiad cynnar â chleifion ac yn gweithio gyda nhw o flwyddyn gyntaf eich gradd Meddygaeth.
- Mae 100% o'n myfyrwyr Meddygaeth a 95% o'n myfyrwyr Ffarmacoleg Feddygol mewn swyddi a/neu'n gwneud astudiaethau pellach chwe mis ar ôl graddio.
- Gwobr Busnes y Flwyddyn Admiral 2018 - Addysgu Sgiliau Cyfathrebu
Sut rydyn ni'n addasu i COVID-19
Mae'r pandemig yn gofyn am newid cwricwlwm ar gyfer pob ysgol feddygol ond rydym wedi arfer â hynny: fel rhaglen Meddygaeth arloesol rydym wastad yn ymateb i her ac rydym yn gwneud hynny nawr.
Rydym yn optimistaidd ond yn ymarferol, felly rydym yn cynllunio ar gyfer sawl senario. Gallwn addo i chi y byddwch yn cyflawni eich deilliannau dysgu trwy gydol eich cwrs. Ym Mlynyddoedd 1-2, rydym yn disgwyl i chi fod yn dysgu yng Nghaerdydd neu ar leoliad, gyda chyfuniad o gyfleoedd dysgu wyneb yn wyneb ac e-Ddysgu. Bydd myfyrwyr yn cael eu hystyried yn weithwyr allweddol a bydd myfyrwyr ym Mlynyddoedd 3-3 yn parhau i fod ar leoliad ledled Cymru.
Mae eich diogelwch yn hollbwysig ac rydym yn gweithio'n agos gyda llywodraeth Cymru a'r GIG i sicrhau hyn. Lle mae risg yn annerbyniol, byddwn yn trafod gohirio astudiaethau (seibiant dysgu) gyda chi. Rydym hefyd yn gwybod y bydd y sefyllfa hon yn newid dros amser, felly rydym yn barod i newid ein cynlluniau hefyd.
Rhagor o wybodaeth am astudio gyda ni
Croeso i Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd
Rhagor o wybodaeth am astudio gyda ni gan Sara Whittam.
Ymgeisio i'n Ysgol Meddygaeth
Dyma ein rheolwr recriwtio yn rhannu cyngor am sut i ymgeisio i'n Ysgol Meddygaeth.
Dysgu ar Sail Achosion (CBL) yn ein Hysgol Meddygaeth
Mae ein dull CBL yn sicrhau mai’r claf yw ganolbwynt eich astudiaethau. Mae astudio Meddygaeth gyda ni yn eich paratoi chi ar gyfer gweithio, a meddwl, fel clinigwr wrth ei waith o flwyddyn gyntaf eich gradd.
Bywyd fel myfyriwr meddygaeth yng Nghaerdydd
Sut brofiad yw astudio Meddygaeth yng Nghaerdydd mewn gwirionedd? Cewch wybod beth sydd gan y myfyriwr meddygaeth Owain Williams i'w ddweud.
Sut byddaf i'n dysgu?
Dewch i gael cipolwg ar sut beth yw bod yn fyfyriwr yn yr Ysgol Meddygaeth.
Dysgu ar Sail Achosion (DSA)
Dewch i weld buddiannau DSA a datblygu eich dealltwriaeth o sut beth yw astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cwrs hyblyg
Mae ein rhaglen MBBCh Meddygaeth, o’r enw C21, yn cynnig hyblygrwydd a dewis i chi, nid yn unig mewn sut rydych yn cyflwyno cais, ond ble rydych yn bwriadu astudio.
Ein rhaglen Llwybr Addysg Gymunedol a Gwledig (CARER)
Un o’n hopsiynau tra eich bod yn astudio gyda ni yw ein rhaglen CARER, gan dreulio’r drydedd flwyddyn yn rhan o Bractis Cyffredinol yng Ngorllewin neu Ogledd Cymru.
Gadewch i un o’n myfyrwyr CARER presennol ddweud rhagor wrthych.
Meddygaeth: gogledd Cymru (MBBCh)
Gan ddibynnu ar ba lwybr a ddewiswch wrth gyflwyno cais, mae C21 yn eich galluogi i ddewis opsiwn o fod yng ngogledd Cymru am eich holl raglen neu’n rhan ohoni, gan raddio o hyd gyda gradd MBBCh uchel ei bri o Brifysgol Caerdydd.
Gweler sut mae Prifysgol Bangor yn cyflwyno rhaglen pedair blynedd mynediad at feddygaeth i raddedigion C21 yng ngogledd Cymru, ar y cyd ag Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.
Cwrdd â'n myfyrwyr
Astudio yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd
Sut brofiad yw astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd mewn gwirionedd? Gadewch i rai o'n myfyrwyr presennol ddweud wrthych chi...
Pam ddewis meddygaeth fel gyrfa?
Ystyried meddygaeth fel gyrfa? Mae myfyrwyr a graddedigion meddygaeth o Brifysgol Caerdydd, ynghyd â doctoriaid, yn rhannu eu cyngor a’u profiadau.
Ein rhaglen radd a'n llwybrau at Feddygaeth
Ysgol Meddygaeth Rhaglenni Gradd Israddedig - Mynediad 2021
Ysgol Meddygaeth Rhaglenni Gradd Israddedig - Mynediad 2021
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Llwybrau at Feddygaeth
Pa lwybr i feddygaeth yw’r un iawn i chi a pha mor hir y bydd yn ei gymryd?
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Ystyried gwneud cais i astudio Meddygaeth?
Adnoddau i ddarpar fyfyrwyr.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
UCAT 2020 - Important Information
This leaflet gives a summary of the key information that applicants to Medicine and Dentistry need to know about sitting the UCAT this year for entry in 2021.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.