Ewch i’r prif gynnwys

Y Taf

The Taf

Mae Y Taf yn dafarn lleol i fyfyrwyr, sy’n darparu diodydd oer a bwyd cynnes bob diwrnod o'r wythnos.

Cymrwch fantais o’r cynigion gwych yn ddyddiol boed yn wydryn o sudd oren a chinio ysgafn neu beint a stecen.

Mae rhywbeth gwahanol yn digwydd bob nos yn Y Taf, yn cynnwys Nosweithiau Cerddoriaeth Fyw ar nosweithiau Llun, noson gwis ar nos Iau a’r hen ffefryn, cinio dydd Sul swmpus rhwng 12.00-18.00 yn wythnosol.

Mae’r Taf yn defnyddio cynnyrch Cymreig lleol lle’n bosibl ac mae’r mwyafrif o’r fwydlen flasus wedi’i choginio ar y safle. Dewiswch o frecwastau, pizzas cartref, platiau i’w rhannu, tatws pob, prydiau ysgafn, brechdanau a phwdinau.

I ddysgu mwy ewch i dudalen gwe Saesneg yr Undeb.