Ewch i’r prif gynnwys

Ffioedd Ymchwil Ôl-raddedig

Dewch o hyd i'r ffioedd ar gyfer cyrsiau ymchwil ôl-raddedig 2023/24.

Cyrsiau amser llawn

Mae'r ffioedd a restrir fesul blwyddyn astudio.

CwrsFfioedd y DUFfioedd rhyngwladol
Rhaglenni’r Celfyddydau - ffi safonol£4,712£19,450
Rhaglenni Gwyddoniaeth - ffi safonol
(MPhil, PhD, MD, MCh)
£4,712£24,450
Cyrsiau clinigol - ffi safonol
(MPhil, MScD, PhD, MD, MCh)
£4,712£38,200
DEdPsy Seicoleg Addysgol£10,950Ddim yn berthnasol
Meistr Ymchwil Biowyddoniaeth£10,950£24,450
PhD gyda Chydran Glinigol  (Deintyddiaeth)£52,200£52,200

Hwyrach y bydd yn rhaid talu ffi cymorth ymchwil ychwanegol ar gyfer rhai meysydd astudio gwyddoniaeth, ond cewch wybod am hyn cyn dechrau eich astudiaethau.

Cyrsiau rhan-amser

Oni nodir yn wahanol, y ffioedd rhan-amser a welir yma yw cost blwyddyn astudio, a bydd y ffioedd yn daladwy ar gyfer pob blwyddyn astudio ddilynol.

CwrsFfioedd y DU
Rhaglenni’r Celfyddydau - ffi safonol£2,356
Rhaglenni Gwyddoniaeth - ffi safonol
(MPhil, PhD, MD, MCh)
£2,356
Cyrsiau clinigol - ffi safonol
(MPhil, MScD, PhD, MD, MCh)
£2,356
Ysgol Busnes MPhil a PhD£2,356
Doethuriaeth Broffesiynol mewn Gwyddorau ac Ymarfer Gofal Iechyd Uwch (6 modiwl)£2,356

Mae cyfleoedd rhan-amser ar gael i fyfyrwyr mewn rhai meysydd pwnc, ond bydd angen trafod y rhain gyda'r ysgol academaidd unigol. 50% o'r ffi amser llawn ar gyfer pob blwyddyn astudio yw'r ffi safonol ar gyfer y rhaglenni hyn, ond hwyrach y bydd hyn yn amrywio yn ôl yr Ysgol.

Statws ffioedd

Bydd y Brifysgol yn pennu statws ffioedd dysgu wrth brosesu ceisiadau, felly ni allwn gadarnhau hyn ymlaen llaw. Os nad ydych yn siŵr ynghylch statws eich ffioedd, hwyrach y bydd cyfeirio at ganllawiau Cyngor Addysg Ryngwladol (UKCISA) y DU o ddefnydd.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiynau am eich ffioedd dysgu, cysylltwch â ni:

Ymholiadau ffioedd dysgu