Ewch i’r prif gynnwys

Dulliau talu blaendal

Os bydd gofyn i chi dalu blaendal fe'ch hysbysir o hyn yn eich cynnig.

Gallwch dalu ar-lein gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd drwy’r Porth i Ymgeiswyr Ar-lein - union swm y blaendal yn unig. Dyma'r dull talu dewisol i'w ddefnyddio. Bydd derbynneb o'ch taliad ar-lein ar gael o fewn 5 diwrnod gwaith drwy'r Porth i Ymgeiswyr ar-lein.

Nid ydym yn derbyn taliadau arian parod.

Dylech gymryd gofal wrth dalu'r ffioedd dysgu, dylech ddidynnu'r blaendal o gyfanswm y ffi a thalu'r balans sy'n weddill yn unig. Er enghraifft, y ffioedd dysgu sydd angen eu talu yw £20,000 a'r blaendal sydd angen ei dalu yw £2,000 felly mae hyn yn gadael balans o £18,000 i dalu wrth gofrestru.

Os na allwch dalu drwy ddefnyddio cerdyn credyd/debyd, cewch ddefnyddio’r dulliau talu isod.

Trosglwyddo o gyfrif banc

Trosglwyddwch y swm gofynnol i'r cyfrif banc canlynol:

Lloyds Bank, 1 Heol y Frenhines, Caerdydd, CF10 2AF
Cyfrif: Ffioedd Dysgu Prifysgol Caerdydd
Rhif y Cyfrif: 17852568
Côd Didoli: 30-67-64
BIC: LOYDGB21707
Rhif IBAN: GB53 LOYD 3067 6417 8525 68

Fformat y cyfeirnod: Rhif y Cais a Chôd y Rhaglen, e.e. 2312345-PFDCPLMA. Mae côd y rhaglen ar gael yn y Porth i Ymgeiswyr Ar-lein.

Gall gymryd hyd at 15 diwrnod gwaith i drosglwyddiadau banc gael ei glirio a'i dderbynebu. Os yw trosglwyddiadau heb gael eu cyfeirio yn gywir, gall hyn achosi oedi derbynebu'r blaendal.

Manylion cyswllt

Os oes gennych ymholiad am dalu eich blaendal, cysylltwch â’r Swyddfa Ffioedd - studentconnect@caerdydd.ac.uk / + 44 (0) 29 2087 79262. Rhaid i chi nodi ID eich cais wrth gysylltu â'r Swyddfa Ffioedd.