Ewch i’r prif gynnwys

Doethur Meddygaeth

Mae Doethur Meddygaeth (MD) yn radd doethuriaeth ymchwil sydd ar gyfer graddedigion meddygol. Mae fel arfer wedi ei leoli'n y labordy er ei fod yn ffocysu ar bwnc ymchwil clinigol penodol.

Os ydych yn ymarferydd clinigol lleol, gallwch astudio gradd MD rhan amser a gweithio ar gwestiwn ymchwil sydd yn codi neu sy’n rhan o’ch dyletswyddau a’ch diddordebau clinigol.

Mae ein holl fyfyrwyr MD yn cael eu cefnogi gan dîm arolygol ac yn derbyn mynediad i hyfforddiant sgiliau ymchwil arbenigol.

Mae prosiect MD yn faes sy'n fwy cyfyng nag astudiaeth PhD ond mae o ddyfnder tebyg. Dylai’r gwaith wneud cyfraniad gwreiddiol i wybodaeth feddygol.

Mae’r Ysgol Meddygaeth ac Ysgol y Biowyddorau yn cynnig nifer o gyfleoedd gradd MD.

Ffeithiau allweddol

 HydTraethawd
Amser llawn2 blwyddynHyd at 60,000 o eiriau
Rhan-amser3-5 blwyddynHyd at  60,000 o eiriau