Ewch i’r prif gynnwys

Hanes a Hanes Cymru

Byddwch yn mynd ar drywydd ymchwil gwreiddiol, ac yn cael eich goruchwylio gan haneswyr blaenllaw sydd ag arbenigedd mewn ystod gronolegol, daearyddol a thematig eang, sy'n cwmpasu’r cyfnod canoloesol i’r cyfnod modern ar draws y byd.

Nod ein graddau MPhil a PhD mewn Hanes a Hanes Cymru yw eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o opsiynau gyrfaol, gan gynnwys mewn ymchwil a'r byd academaidd, gwasanaeth cyhoeddus, addysgu, a'r sector preifat.

Mae gan ein haneswyr sydd â bri rhyngwladol ac yn arweinwyr yn eu maes yn rhyngwladol ystod eang o ddiddordebau ac arbenigedd, sy'n ein galluogi i'ch goruchwylio mewn amrywiaeth fawr o feysydd ymchwil. Mae ein cymuned ôl-raddedig yn cyfrannu’n allweddol i ddiwylliant ymchwil yr Ysgol ac i enw da rhyngwladol y Brifysgol am ymchwil.

Nodau'r rhaglen

Cynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd, ymchwil (masnachol ac ati), gwasanaethau cyhoeddus, addysgu a meysydd cysylltiedig, a’r cyfryngau.

Nodweddion unigryw

  • Ystod eang o arbenigedd ymchwil.
  • Rhaglen Hyfforddiant PhD arloesol i'ch helpu i gyflawni eich potensial o ran ymchwil, ac i'ch paratoi ar gyfer yr hyn sy'n dod nesaf.
  • Amgylchedd dysgu cyffrous, ysgogol a chefnogol sy'n mynd ati i geisio datblygu ei ymchwil a'i ddiwylliant ôl-raddedig.
  • Rydym yn ganolog i nifer o ganolfannau ymchwil a grwpiau astudio sy'n gweithredu o fewn y Brifysgol, gan gynnwys y Ganolfan Astudio Cymdeithas a Diwylliant yr Oesoedd Canol, a Grŵp Ymchwil Canol a Dwyrain Ewrop.

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD, MPhil
Hyd amser llawn PhD 3 mlynedd, MPhil 1 flwyddyn
Hyd rhan-amser Cyfleoedd ar gael

Hanes

Rydym yn cynnig amrywiaeth o arbenigedd cronolegol, daearyddol a hanesyddol. Mae diddordebau ymchwil ein haneswyr, a chryfderau ein hadran, yn meysydd canlynol: hanes Prydain a Chymreig, o’r canoloesol i'r cyfoes; hanes Gogledd America; hanes Ewropeaidd ac Ewrasiaidd modern, o Ffrainc a'r Almaen i Tsiecoslofacia, Rwsia a Chanol Asia; hanes Asiaidd modern, gan gynnwys India, Tsieina, a Siapan; hanes Affrica; hanes Iddewig; hanes amgylcheddol; y dyniaethau meddygol; hanes digidol; a dulliau damcaniaethol a methodolegol o astudio hanes a'r dyniaethau.

Mae ein rhaglenni ymchwil yn cynnig hyfforddiant a lefel uchel o gefnogaeth er mwyn eich galluogi i gwblhau eich gradd yn llwyddiannus, ac i’ch paratoi ar gyfer cam nesaf eich gyrfa. Byddwch yn elwa ar gyfres o raglenni hyfforddiant ôl-raddedig sydd gan y Coleg a'r Brifysgol. Rydym hefyd yn cynnig Seminar Hyfforddi PhD Hanes a fydd yn helpu i’ch integreiddio i ddiwylliant ymchwil ein hadran.

Hanes Cymru

Fel sy'n addas i brifddinas Cymru, mae'r Adran yn darparu rhaglen ffyniannus o ymchwil a chanolwyr ôl-raddedig ym meysydd Hanes Cymdeithasol, Diwylliannol a Chymdeithasol Cymru. Mae ymchwil yn y maes hwn yn cwmpasu

  • hanes cymdeithasol, trefol a gwleidyddol Cymru yn y cyfnod modern a modern cynnar
  • ymfudo’r Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif a chymunedau Cymreig y tu allan i Gymru
  • adeiladu hunaniaethau Cymreig yn y cyfnod modern
  • effaith diwydiannu ar Gymru
  • diweithdra, polisi cymdeithasol, mudiadau cymdeithasol a gwleidyddol yn enwedig yn ystod dirwasgiad economaidd y 1930au
  • priodas, teulu a hunaniaeth yn y Gymru fodern
  • Cymru a'r Ymerodraeth Brydeinig; buddiannau gwleidyddol a chymdeithasol bonedd Cymru
  • Cymru a'r Rhyfel Cartref a’r Rhyngdeyrnasiad
  • Cymru yn y wladwriaeth Brydeinig Modern Cynnar.

Am ragor o wybodaeth, gweler tudalennau ymchwil Hanes ein gwefan.

Mae gwybodaeth ar brosiectau ymchwil ar gael ar wefan yr Ysgol.

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Rydym yn falch o fod yn rhan o Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr, sydd wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Mae’n addas ar gyfer graddedigion mewn hanes, a disgyblaethau cysylltiedig yn y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol.

Fel rheol, dylai ymgeiswyr fod â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu yn adran uchaf yr ail ddosbarth, neu gymhwyster cyfwerth, mewn pwnc priodol.

Mae croeso mawr i siaradwyr Cymraeg.

Gofynion Iaith Saesneg

IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil, neu gyfwerth. Darllenwch ein canllawiau am ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o fanylion.

Cynghorir unrhyw fyfyriwr sy’n dymuno gwneud cais am Radd Ymchwil Ôl-raddedig mewn Hanes yng Nghaerdydd i gysylltu gyda’r aelod perthnasol o staff i drafod eu diddordebau a’r potensial penodol y gallai Caerdydd ei gynnig i’r myfyriwr yn eu maes arbenigol o astudiaeth. Ar gyfer myfyrwyr sy’n bwriadu gwneud cais am gyllid ariannol (h.y. Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru a De a Gorllewin Lloegr), mae’n hanfodol eu bod yn dechrau cynllunio eu ceisiadau ar y cyd â’r darpar oruchwyliwr cyn gynted â phosibl.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein rhaglenni ymchwil ôl-raddedig, neu os ydych yn ystyried ymgymryd â gradd ymchwil mewn Hanes ac os hoffech siarad â ni am hyn, cysylltwch â'n tiwtor ôl-raddedig, Dr James Ryan.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

School of History, Archaeology and Religion Postgraduate Research Administrative Officer

Administrative contact

Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd

Dr Jasmine Kilburn-Toppin

Dr Jasmine Kilburn-Toppin

Lecturer in Early Modern History

Email
kilburn-toppinj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0414

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig