Ewch i’r prif gynnwys
Cadi Thomas

Ms Cadi Thomas

(hi/ei)

Rheolwr Academaidd

Ysgol y Gymraeg

Email
ThomasCR9@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 29208 70637
Campuses
Adeilad John Percival , Ystafell 1.55, Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU
cymraeg
Siarad Cymraeg

Trosolwyg

Fel Rheolwr Academaidd Ysgol y Gymraeg rwy'n arwain ein Tîm Cefnogaeth Academaidd. Mae'r tîm yn cefnogi amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys recriwtio a derbyn myfyrwyr, ymrestru, cefnogi addysgu, cofnodion myfyrwyr, achosion myfyrwyr, llais y myfyrwyr a materion asesu ac adborth. Rwy’n gweithio’n agos gyda Chyfarwyddwr Addysgu a Dysgu ac Arweinydd Asesu ac Adborth yr Ysgol i gefnogi dysgu ac asesu.

Rhwng Tachwedd 2019 ac Ebrill 2020, roeddwn ar secondiad yn yr Ysgol fel Cydlynydd Prosiect Cenedlaethol y Cynllun Mentora Myfyrwyr y Gymraeg a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Fel rhan o’r rôl, arweiniais ar recriwtio a hyfforddi i gynnal rhaglenni mentora ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd mewn ysgolion ledled Cymru.

Bywgraffiad

Yn wreiddiol o Ynys Môn, dechreuais fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2009 fel myfyrwraig israddedig. Graddiais mewn Cymraeg a Hanes yn 2012 cyn cwblhau MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yma yn Ysgol y Gymraeg. Bum yn gweithio yn Swyddfa Recriwtio Myfyrwyr y Brifysgol am gyfnod cyn symud i Ysgol y Gymraeg fel y Swyddog Cefnogaeth Academaidd ym mis Mawrth 2015. Rhwng Tachwedd 2019 ac Ebrill 2020, bum ar secondiad yn yr Ysgol fel Cydlynydd Prosiect Cenedlaethol y Cynllun Mentora Myfyrwyr y Gymraeg a arianwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rwyf yn fy swydd bresennol fel Rheolwr Academaidd yr Ysgol ers mis Tachwedd 2020.

Anrhydeddau a dyfarniadau

Yn 2020 cefais fy enwebu gan fyfyrwyr ar gyfer gwobr Aelod o Staff Mwyaf Ysbrydoledig yng Ngwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr Undeb y Myfyrwyr. Yn 2023 cyrhaeddais rhestr fer y categori Aelod o staff Gwasanaethau Proffesiynol y Flwyddyn yn yr un Gwobrau.

Aelodaethau proffesiynol

Aelod Achrededig o Gymdeithas Gweithwyr Proffesiynol Addysg Uwch (AHEP)