Ewch i’r prif gynnwys

Rhwydwaith Ymchwil ar Ddeunyddiau

Rydym yn dod ag ymchwilwyr ynghyd o bob rhan o Brifysgol Caerdydd sydd â diddordeb ym mhob agwedd ar ddeunyddiau.

Rydym yn croesawu ymchwilwyr o bob cefndir sydd â diddordebau sy’n cynnwys:

  • ffiseg
  • cemeg
  • cyfrifiannu
  • priodweddau
  • cymwysiadau
  • hanes
  • cyd-destun cymdeithasol.

Rydym yn astudio strwythur a phriodweddau deunyddiau sydd wedi’u creu a deunyddiau naturiol, y ffordd rydym yn eu defnyddio ac yn teimlo amdanynt, a sut y maent yn llunio'r ffordd rydym yn canfod y byd.

Rydym yn astudio eu synthesis, eu nodweddu, eu priodweddau a'r ffordd y gellir eu defnyddio i ddeall deunyddiau sydd eisoes yn bodoli'n well, a datblygu deunyddiau gwell ar gyfer technolegau yn y dyfodol.

Nodau

  • Dod ag ymchwilwyr ar draws y Brifysgol ynghyd i hyrwyddo cydweithio.
  • Datblygu ymchwil drawsddisgyblaethol newydd, gan bontio rhwng y celfyddydau, y gwyddorau a'r dyniaethau.
  • Hwyluso rhannu offer ac arbenigedd.
  • Hyrwyddo arbenigedd Prifysgol Caerdydd ym maes deunyddiau a chryfhau cysylltiadau â byd diwydiant, llunwyr polisïau ac ymchwilwyr eraill.
  • Ymgysylltu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill i hyrwyddo ymchwil ar ddeunyddiau a chynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o ddeunyddiau.

Cwrdd â’r tîm

Staff academaidd

Digwyddiadau

Gwiriwch yn ôl am ddigwyddiadau sydd i ddod.

Arddangosfa’r Labordy Gwydnwch a Nodweddu (DURALAB)

Dyddiad: 12 Rhagfyr 2023

Lleoliad: Yr Ysgol Peirianneg, Adeilad y Frenhines.

Bydd y gweithdy hwn yn ymchwilio i alluoedd y DURALAB, sef cyfleuster profi newydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Y DURALAB yw'r cyfleuster cyntaf sy’n cyflymu’r broses heneiddio yng nghyd-destun deunydd yng Nghymru, ac un o'r ychydig yn y DU. P'un a oes gennych chi ddiddordeb mewn deunydd newydd, neu eisiau profi un sydd wedi’i hen sefydlu, gall DURALAB helpu i ymchwilio i'w priodweddau hirdymor mewn ond ychydig o wythnosau. Gall deunyddiau gael eu rhoi o dan ystod eang o amgylchiadau, megis tymheredd eithafol, rhewi, dadrewi, cyrydiad, pelydrau UV, ac ati ... Ac mae gennym yr ystod o offer nodweddu microstrwythurol ar gael i wneud hyn (microsgop, offer sy’n mesur maint mandyllau, athreiddedd, ac ati...).

Cynhadledd y Rhwydwaith Deunyddiau

Dyddiad: 28 Mawrth 2023
Lleoliad: Yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd

Roedd y gynhadledd yn cynnwys mewnbwn gan y diwydiant ac un o'r cynghorau cyllido gyda golwg ar ddatblygu syniadau a allai arwain at brosiectau ar y cyd; roedd amser i fod i gyflwyno syniadau yn unol â chais aelodau. Yn lle arddangos cyfleusterau neu alluoedd, sy’n cael ei wneud yn aml fel rhan o’n cyfres o weithdai, roeddem yn edrych ar waith sydd wedi codi neu wedi cael ei gefnogi gan ein gweithdai. Roedd yr aelodau'n gwerthfawrogi'r cyfleoedd i rwydweithio, rhyngweithio â'r stondinau noddi a siarad.

Digwyddiad ar y cyd gyda Plastics and Environment URN - “Polymerau, Plastigau ac Etifeddiaeth Amgylcheddol”

Dyddiad: 7 Rhagfyr 2022

Lleoliad: SCLT, Prif Adeilad

Gydag areithiau byr, posteri'n cyflwyno astudiaethau manylach, a digon o gyfle am drafodaethau dan arweiniad ac yn anffurfiol, roedd y gweithdy hwn ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn defnyddio, creu, nodweddu a deall polymerau, plastigau a deunyddiau sy'n cynnwys plastig o bob math. Roedd y cyflwyniadau’n ymwneud â chanfod, nodweddu, meintioli ac effeithiau plastigau yn yr amgylchedd naturiol, yr economi gylchol a’r gwerth a roddir ar blastig fel deunydd, sut mae newidiadau mewn gwybodaeth a dealltwriaeth yn llywio datblygiad plastigau yn y dyfodol, ac astudiaethau achos o ddeunyddiau uwch sy’n defnyddio priodweddau unigryw polymerau a phlastigau i gyfansoddion, peirianneg a chymwysiadau gofal iechyd.

Deall arwynebau: offer newydd ar gyfer ymchwilio i ddeunyddiau newydd a nano

Dyddiad: 27 Medi 2022

Lleoliad: Canolfan Ymchwil Drosi

Wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn nodweddu arwynebau ffisegol a chemegol, rhoddodd y seminar hwn drosolwg o’r offerwaith sbectrosgopeg a microsgopeg sydd bellach ar gael trwy Ganolfan Ymchwil Drosi newydd y Brifysgol. Mae'r dulliau'n cynnwys sbectrosgopeg cydberthyniad ffoton pelydr-X (XPS), microsgopeg electron (gan gynnwys y STEM newydd a gywirir ar sail eithriad) a galluoedd newydd mewn sbectrosgopeg Raman wedi'i gwella ar y blaen (TERS) a microsgop grym cenedlaethol-unigryw ffoto-ysgogedig (PiFM). Roedd teithiau o amgylch y cyfleusterau hefyd ar gael.

Nanoddeunyddiau Magnetig a Chymwysiadau

Dyddiad: 8 Tachwedd 2021

Lleoliad: Ar-lein

Roedd y symposiwm yn cynnwys nifer o gyflwyniadau gan yr adran Cemeg, Ffiseg a Pheirianneg a ddilynwyd gan drafodaeth a alluogodd pobl i rwydweithio, cysylltu â chydweithwyr, a rhannu syniadau.

Siaradwr y cyfarfod llawn oedd yr Athro Nguyen Tk Thanh (FRSC, FINstP, FIMMM, FRSB) o Goleg Prifysgol Llundain sy'n Athro Nanoddeunyddiau mewn Labordy Biomagnetig a Nanoddeunyddiau Gofal Iechyd.

Symposiwm Bach Deunyddiau Mandyllog

Dyddiad: 12 Ionawr 2021

Lleoliad: Ar-lein

Roedd y symposiwm yn canolbwyntio ar ddeunyddiau mandyllog gyda siaradwyr gwadd o Brifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Caerfaddon.

Cynhadledd y Rhwydwaith Deunyddiau

Dyddiad: 23 – 24 Ionawr 2020
Lleoliad: Gwesty St Pierre, Cas-gwent

Cynhelir cynhadledd nesaf y Rhwydwaith ar 23 a 24 Ionawr 2020 yng Ngwesty St Pierre, Cas-gwent. Manylion pellach i’w cyhoeddi, gan gynnwys galwad am bosteri a siaradwyr.

Darlith Llywydd Cymdeithas Deunyddiau Casnewydd a'r Cylch

Dyddiad: 8 Hydref 2019

Bydd Dr Salvador Eslava (Prifysgol Caerfaddon) yn cyflwyno’r ddarlith gyntaf y flwyddyn, Darlith Llywydd Cymdeithas Deunyddiau Casnewydd a'r Cylch, “Creu Deunyddiau ar ffurf Ffotoelectrodau ar gyfer Tanwyddau Solar”

Bydd lluniaeth bys a bawd am ddim a’r cyfle i rwydweithio i ddilyn.

Ateber erbyn: Nick.Webb@cogent-power.com

Darlith Cymdeithas Deunyddiau Casnewydd a'r Cylch

Dyddiad: 12 Tachwedd 2019
Amser: 18:00
Lleoliad: Ysgol Peirianneg S1.32, CF24 3AA

Bydd Dr Ana Neves yn cyflwyno ail ddarlith rhaglen Cymdeithas Deunyddiau Casnewydd a'r Cylch 2019. “O Ddeunyddiau Traul i Goncrit: Defnyddio Deunyddiau Graffin a 2D”

Bydd lluniaeth bys a bawd am ddim a’r cyfle i rwydweithio i ddilyn.

Ateber erbyn:- Nick.Webb@cogent-power.com

Gweithdy ar y cyd CITER-CMRN - Bioddeunyddiau: o'r labordy i erchwyn y gwely

Dyddiad: Dydd Mercher 27 Tachwedd 2019
Amser: 12:00 – 17:00
Lleoliad: Darlithfa, Adeilad Haydn Ellis

Nod y gweithdy hanner diwrnod hwn yw helpu academyddion i ddefnyddio technolegau eu bioddeunydd yn y clinig er lles y claf. Dyma'r amcanion:

1. Deall llwybr rheoleiddiol bioddeunyddiau yn well
2. Dysgu am ystod o fodelau cyn-glinigol GLP i ddangos diogelwch ac effeithlonrwydd bioddeunyddiau
3. Deall y broses o ddatblygu a chofrestru prawf clinigol yn achos bioddeunydd
4. Ymgyfarwyddo â llwybrau ariannu a chefnogaeth i ddefnyddio bioddeunyddiau yn y clinig
5. Gwrando ar brofiadau o lygad y ffynnon gan academyddion sydd wedi masnacheiddio/troi bioddeunyddiau at ddefnydd arall

Mae cofrestru yn hanfodol, cofrestrwch drwy eventbrite gan ddefnyddio'r cyfrinair: CITERCMRN.

Cynhadledd y Rhwydwaith Deunyddiau

Dyddiad: 23 – 24 Ionawr 2020
Lleoliad: Gwesty St Pierre, Cas-gwent

Cynhelir cynhadledd nesaf y Rhwydwaith ar 23 a 24 Ionawr 2020 yng Ngwesty St Pierre, Cas-gwent. Manylion pellach i’w cyhoeddi, gan gynnwys galwad am bosteri a siaradwyr.

Darlith Llywydd Cymdeithas Deunyddiau Casnewydd a'r Cylch

Dyddiad: 8 Hydref 2019
18:00
Lleoliad: Ysgol Peirianneg S1.32, CF24 3AA

Bydd Dr Salvador Eslava (Prifysgol Caerfaddon) yn cyflwyno’r ddarlith gyntaf y flwyddyn, Darlith Llywydd Cymdeithas Deunyddiau Casnewydd a'r Cylch, “Creu Deunyddiau ar ffurf Ffotoelectrodau ar gyfer Tanwyddau Solar”

Bydd lluniaeth bys a bawd am ddim a’r cyfle i rwydweithio i ddilyn.

Ateber erbyn: Nick.Webb@cogent-power.com

Sesiwn arddangos microsgop digidol Keyence

Dyddiad: 2 Hydref 2019
Amser: 11:30
Lleoliad: Adeilad y Frenhines S/0.14

Bydd Benjamin Bryant o Keyence UK Ltd yn ymweld â ni yn ein labordy ac yn cyflwyno sesiwn arddangos offer microsgop digidol y cwmni. Mae croeso i bawb sydd â diddordeb. Gallwch ddod â'ch samplau eich hun i brofi galluoedd y system.

Cynhadledd Penodiadau diweddar ym maes Gwyddor Deunyddiau 2019

Dyddiad: 9-10 Medi 2019
Lleoliad: Prifysgol Lerpwl

Cynhaliwyd Cynhadledd Penodiadau Diweddar ym maes Gwyddor Deunyddiau ym Mhrifysgol Caerdydd y llynedd. Cynhelir y gynhadledd eleni yn Lerpwl ac rydym yn ei hargymell yn fawr i unrhyw un sy’n ymchwilydd ôl-ddoethurol neu’n ddarlithydd sy'n gweithio ym maes gwyddor deunyddiau yn Lerpwl.

Gweithdy Rhyngwladol ar Gemeg a Defnyddio Cromofforau Organig at ddibenion eraill

Dyddiad: 3-4 Gorffennaf 2019
Lleoliad: Ysgol Cemeg, Darlithfa Cemeg Fach, Prif Adeilad, Plas y Parc

Nod y gweithdy yw rhoi cipolwg ar yr ymchwil ddiweddaraf, cyfnewid gwybodaeth a gwybod am sut mae cromofforau moleciwlaidd a deunyddiau organig yn cael eu defnyddio at ddibenion diwydiannol. Yn y rhaglen ddeuddydd bydd darlithoedd gwadd gan arweinwyr ym maes synthesis, nodweddu a defnyddio cromosomau organig o'r sectorau academaidd a byd diwydiant at ddibenion eraill.

Seminar ymchwil

Dyddiad: 2 Gorffennaf 2019
Lleoliad: Ysgol Peirianneg S1.25, CF24 3AA

Bydd Dr Iuliia S Elizarova yn siarad ar 'Gweithgynhyrchu haen-ar-haen ym maes serameg – Her Rheoli Amlraddfa'.

Bydd yr Athro Eduardo Saiz, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwch-serameg Strwythurol, hefyd yn bresennol, felly dewch draw am sgwrs a thrafodaeth ddiddorol a'r cyfle i drin a thrafod thema drawsbynciol ehangach deunyddiau ym Mhrifysgol Caerdydd yn y dyfodol.

Gweithdy Mecaneg Amlffiseg

Dyddiad: 26 Mehefin 2019
Lleoliad: Ysgol Peirianneg S/1.22, Adeiladau'r Frenhines, The Parade

Hwn fydd gweithdy cyntaf thema drawsbynciol yr Ysgol Peirianneg - mecaneg amlffiseg. Bydd yn cynnwys dau brif siaradwr, sgyrsiau gan gydweithwyr sy'n ymchwilio i wahanol agweddau ar fecaneg amlffiseg, a’r cyfle i rwydweithio.

Gweithdy modelu deunyddiau

Dyddiad: 11 Mehefin 2019
Lleoliad: Prif Adeilad, Plas y Parc
Digwyddiad i aelodau o staff Prifysgol Caerdydd

Daeth y digwyddiad hwn â modelwyr ynghyd o ddisgyblaethau gwahanol sy'n defnyddio offer gwahanol er mwyn ysgogi cyfnewid syniadau am dechnegau ac i hyrwyddo cydweithio.

Ynghlwm wrth y pynciau a’r technegau modelu a drafodwyd yn y gweithdy roedd yr Elfen Feidraidd yn ogystal â modelu elfennau arwahanol (DEM), microfecaneg, lluosogi macrograciau, deinameg foleciwlaidd, deinameg cwantwm, rheoleg, yn ogystal â dadffurfio cramen a mantell y Ddaear.

Siaradwr y sesiwn lawn oedd Catherine O'Sullivan, Athro yn adran geotechneg Adran Peirianneg Sifil ac Amgylcheddol Coleg Imperial Llundain. Mae ei hymchwil yn defnyddio DEM yn ogystal â thechnegau arbrofol gan gynnwys tomograffeg microgyfrifiadurol.

Rhoddwyd gwobr am y poster gorau yn hael gan y noddwyr Rockfield, a ddyfarnwyd i Adam Beall o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd.

Pontio'r bwlch: Deunyddiau a materoldebau

Dyddiad: 8 Mai 2019
Lleoliad: Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan
Digwyddiad i aelodau o staff Prifysgol Caerdydd

Roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar ddod â gwyddor deunyddiau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol ynghyd, gyda'r nod o sbarduno sgyrsiau a allai ehangu cyfleoedd ymchwil ac arwain at brosiectau cydweithio newydd.

Trefnwyd y sesiwn ryngddisgyblaethol ar sail themâu Amser, Newid a Gwerthoedd, gan gynnig y cyfle i’r sawl a gymerodd ran ystyried eu gwaith o safbwynt newydd a dod â dulliau, patrymau a thechnegau cyferbyniol at ei gilydd.

Daeth y gweithdy i ben pan gafwyd dangosiad preifat ac unigryw o Gweithdy, lle arbennig sy’n dathlu sgiliau gwneuthurwyr ar draws miloedd o flynyddoedd ac yn ystyried sut mae pethau wedi cael eu gwneud o bren, clai, carreg, metel, planhigion a thecstilau.

Cynhadledd agoriadol Rhwydwaith Deunyddiau Caerdydd

Dyddiad: 17-18 Ionawr 2019
Lleoliad: St Pierre Marriot Hotel and Country Club
Digwyddiad i aelodau o staff Prifysgol Caerdydd

Roedd hwn yn gyfle i gasglu ynghyd y rheini ohonom sydd â diddordeb mewn deunyddiau o bob rhan o Brifysgol Caerdydd. Roedd yn cynnwys ymchwilwyr sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio deunyddiau, dylunio a datblygu deunyddiau, a nodweddu, modelu neu ddeall deunyddiau. Roedd yn gyfle i gydweithwyr ddangos eu hymchwil, rhannu meysydd o ddiddordeb a chael gwybod pwy sydd â'r wybodaeth, yr arbenigedd neu'r offer i helpu.

Yr Athro David Taylor, Athro Peirianneg Deunyddiau yng Ngholeg y Drindod Dulyn, oedd ein siaradwr yn y sesiwn lawn, ac mae ei arbenigedd ymchwil yn cynnwys biobeirianneg, peirianneg fforensig a lludded a deunyddiau a chydrannau sy’n hollti.

Gweithdy nodweddu deunyddiau

Dyddiad: 5 Rhagfyr 2018
Lleoliad:
Prif Adeilad, Plas y Parc
Digwyddiad i aelodau o staff Prifysgol Caerdydd

Nodweddu deunyddiau yw'r prosesau eang a chyffredinol a ddefnyddiwn i ymchwilio i strwythur a phriodweddau deunyddiau, eu profi a’u mesur. Mae'n hollbwysig i'n dealltwriaeth wyddonol o ddeunyddiau peirianneg.

Dangosodd y gweithdy sut mae'r potensial helaeth hwn i nodweddu deunyddiau yn caniatáu i Brifysgol Caerdydd greu effaith a gydnabyddir yn rhyngwladol ym maes ymchwil deunyddiau, boed yn swmp-ddeunyddiau strwythurol neu gatalysis atomau sengl.

Yn y darlithoedd a gyflwynwyd yn ystod y gweithdy trafodwyd dulliau arbrofol a oedd yn rhychwantu diffreithiant / sbectrosgopeg pelydr-X o'r radd flaenaf, peirianneg newydd ym maes microdonau a phrotocolau uwch ym maes cyseiniant sbin magnetig niwclear/electronau.

Digwyddiad lansio’r rhwydwaith

Dyddiad: Mehefin 2018
Lleoliad:
FFORWM, Yr Ysgol Peirianneg

Daeth y digwyddiad undydd hwn ag ymchwilwyr o bob rhan o'r Brifysgol at ei gilydd i weld cyfuniad o bosteri, cael sgyrsiau ar wib, rhwydweithio ar sail un i un a thrafod yn anffurfiol. Ymhlith y sesiynau roedd:

  • materoldebau a nodweddu
  • prosesu a gweithgynhyrchu a nanoddeunyddiau
  • dyfeisiau a deunyddiau meddal
  • deunyddiau strwythurol a modelu.

Roedd yn ddechrau gwych i raglen digwyddiadau’r rhwydwaith a amlygodd ehangder y gweithgarwch ym maes ymchwil deunyddiau ledled y Brifysgol a chafwyd cryn drafodaeth o ran cydweithio yn y dyfodol yn ogystal ag awgrymiadau ar gyfer digwyddiadau’r rhwydwaith yn y dyfodol.

Meet the team

Cysylltwch â ni

Contact us to get involved, discuss an idea for an event, or find shared equipment or expertise.

Contact us

Ysgolion

Ysgol y Biowyddorau

Yn Ysgol y Biowyddorau ceir diwylliant deinamig ac ysgogol ar gyfer dysgu ac ymchwil ac mae gennym gyfleusterau modern o safon yn ogystal â staff o'r radd flaenaf.

Yr Ysgol Cemeg

Mynd i’r afael â heriau gwyddonol pwysig yr 21ain ganrif yw diben ein hymchwil a’n haddysg sydd ar flaen y gad yn rhyngwladol.

Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd

Rydym wedi ymrwymo i gyrraedd y safonau uchaf ym maes ymchwil ac addysg ac i gynnig cyd-destun cyfoethog ac amrywiol dan arweiniad ymchwil lle gall yr holl staff a myfyrwyr gyflawni eu potensial llawn er budd y gymdeithas.

Yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth

Rydym wedi hen ennill ein plwyf ym maes rhagoriaeth ymchwil ac addysgu o'r radd flaenaf.

Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol

Rydym yn un o ysgolion fferylliaeth gorau'r DU ac mae gennym enw da yn rhyngwladol am safon ein hymchwil.

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.