Ewch i’r prif gynnwys

Grŵp Ymchwil Ymddygiadol CARBS

Ein nod yw gwneud ymchwil ryngddisgyblaethol (seminarau, gweithdai, ac ati) sy'n canolbwyntio ar ddylunio, cymhwyso a dadansoddi dulliau ymchwil arbrofol sy’n mynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol.

Bydd y grŵp yn dod â chydweithwyr a myfyrwyr ôl-raddedig o sawl pwnc at ei gilydd i gyflwyno ceisiadau rhyngddisgyblaethol am gyllid yn ogystal â meithrin prosiectau ymchwil a chyfleoedd datblygu.

Wrth wraidd cenhadaeth y grŵp mae’r gwerth creiddiol sef meithrin diwylliant gwaith sy'n arwain at ymchwil ym maes busnes ac economeg sy’n rhyngddisgyblaethol ac yn amlddisgyblaethol. Gan ganolbwyntio ar fethodoleg dylunio arbrofol sy’n cael ei defnyddio mewn sawl disgyblaeth ym maes busnes ac economeg, bydd y grŵp yn mynd ati i greu strwythur lle gall academyddion a myfyrwyr ôl-raddedig ddysgu, uwchsgilio a thrafod y datblygiadau diweddaraf ym maes dyluniadau arbrofol.

Yn ail, bydd y grŵp yn meithrin ysbryd critigol lle gall cydweithwyr greu ceisiadau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol am gyllid yn ogystal â phrosiectau ymchwil.

Amcanion

  • ceisiadau ar y cyd i gonsortia grantiau ac ymchwil rhyngddisgyblaethol
  • trefnu gweithdai a chynadleddau rhyngwladol
  • trefnu seminarau gwyddonol rheolaidd a chyfnodau ymweld byr ar gyfer ysgolheigion rhyngwladol blaenllaw (golygyddion cyfnodolion)
  • digwyddiadau gwerth cyhoeddus i ledaenu barn gytbwys ym maes ymddygiad ymhlith llunwyr polisïau, cyrff anllywodraethol a busnesau
  • rhaglen fentora ad-hoc i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn ymchwil ymddygiadol

Ymchwil

Byddwn ni’n creu grŵp ymchwil bythefnosol lle gall yr aelodau:

  • gyflwyno prosiectau cyfredol
  • cael/rhoi adborth a meithrin gwaith ar y cyd
  • trafod papurau dylanwadol mewn cyfnodolion o safon uchel sy'n defnyddio methodolegau ymchwil arbrofol ac yn adnabod eu cryfderau a'u gwendidau
  • trefnu sesiynau gwyntyllu syniadau sy’n meithrin gwaith ar y cyd er mwyn mynd i'r afael â phroblem gymdeithasol benodol amlwg yn ogystal â datblygu ceisiadau am gyllid

Rydyn ni’n bwriadu cydweithio â llunwyr polisïau a chynrychiolwyr busnes i fynd i'r afael â'r heriau mwyaf dybryd sy’n berthnasol iddyn nhw gan ddefnyddio’r gwyddorau ymddygiadol.

Yn y grŵp mae aelodau sydd wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithgarwch ymchwil o'r fath yn y gorffennol. Er enghraifft:

  • ar y cyd â Llywodraeth Armenia a’r Cenhedloedd Unedig, lluniwyd ymyriadau i gynyddu nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn sgrinio canser ceg y groth yn Armenia
  • ar y cyd ag Awdurdodau Treth yn Tsieina, lluniwyd ymyriadau i gynyddu cydymffurfiaeth treth
  • ar y cyd â'r Cenhedloedd Unedig, lluniwyd ymyriadau i ffrwyno'r galw am fagiau plastig untro mewn archfarchnadoedd
  • ar y cyd ag awdurdodau lleol yn y Weriniaeth Tsiec, aseswyd canlyniadau'r farchnad lafur yn sgîl rhaglenni Ailgartrefu Cyflym (lleihau digartrefedd) drwy hap-dreial rheoli

Prosiectau

Mae'r grŵp eisoes yn cydweithio’n diwyd â Sbarc ac Y Lab i ddatblygu cynigion ymchwil megis gwerthuso ansoddol ar gyfer y prosiect peilot yng Nghymru ynghylch yr incwm sylfaenol cyffredin (UBI) ac ehangu Lab Ymddygiadol Sbarc ("y lab yn y maes".

Cwrdd â'r tîm

Prif ymchwilydd

Staff academaidd

Publications

Camau nesaf

Ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Mae ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth i ni gweithio ar draws disgyblaethau er mwyn ymgodymu â phrif heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi ac ein hamgylchedd.

Ymchwil ôl-raddedig

Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r rhyddid i chi i archwilio pwnc arbennig mewn dyfnder ymhlith ymchwilwyr blaenllaw.

Ein heffaith ymchwil

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi sylw i rai o'r meysydd lle rydym yn cael effaith ymchwil gadarnhaol.