Ewch i’r prif gynnwys

Rhwydwaith Ymchwil Iechyd y Blaned

water droplet reflecting forest

Yn dod ag ymchwilwyr o ystod o ddisgyblaethau ynghyd i ddod o hyd i atebion ar y cyd ar gyfer iechyd pobl ac iechyd y blaned.

Mae ein hamgylchedd byd-eang yn newid ac rydyn ni’n cydnabod bod cysylltiad dwfn rhwng iechyd pobl ac iechyd y blaned. Nod Rhwydwaith Ymchwil y Brifysgol i Iechyd y Blaned yw dod ag academyddion o Goleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd a Choleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ynghyd. Ar y cyd â phartneriaid cyhoeddus a phreifat, rydyn ni’n dod â safbwyntiau a mathau gwahanol o wybodaeth a dealltwriaeth ynghyd i weithredu ar y cyd ar atebion a nodau cyffredin sy'n diogelu iechyd pawb ac sy’n diogelu'r blaned.

Rydyn ni’n canolbwyntio ar sut mae newidiadau yn systemau naturiol y blaned yn rhan bwysig o iechyd pobl. Wrth ddatblygu strategaethau brys newydd i fyw'n gynaliadwy, byddwn ni’n canolbwyntio ar atebion nad ydyn nhw’n niweidio'r amgylchedd. Byddwn ni’n hwyluso'r broses o wella anghydraddoldeb cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ac yn gwella iechyd a datblygiadau byd-eang ar yr un pryd.

Ein gwaith

Bydd Rhwydwaith Ymchwil y Brifysgol i Iechyd y Blaned yn galluogi ymchwilwyr i feddwl am y bylchau sy’n bodoli o ran ein gwybodaeth ryngddisgyblaethol mewn ffordd ddwfn a beirniadol, gan adnabod ac yn ehangu ein cryfderau ym maes Iechyd y Blaned. Bydd yn creu lle i gymunedau ddod at ei gilydd i feddwl, dadlau, creu a gweithredu.

Ymchwil drawsddisgyblaethol

Grŵp ymchwil trawsddisgyblaethol sy’n canolbwyntio ar gamau gweithredu a dadansoddi sy’n ymwneud ag iechyd, y gymdeithas a’r amgylchedd, a hynny er mwyn ystyried yr holl fywyd ar y blaned a'r blaned ei hun. Yn cefnogi gwaith ar y cyd i greu cysylltiadau newydd rhwng prosesau’r blaned a phrosesau bywyd, iechyd pobl ac iechyd pethau byw eraill.

Cydweithio

Gweithio gyda grwpiau, mathau o amgylchedd a phrosesau y mae dirywiad y blaned yn effeithio arnyn nhw er mwyn dod o hyd i atebion y mae mawr eu hangen, a hynny ar y cyd.

Tegwch a brys

Gan sicrhau camau gweithredu brys, teg, cynaliadwy a chysylltiedig.

Themâu

Atebion ar y cyd

Rydyn ni’n ehangu ac yn ychwanegu at y berthynas rhwng iechyd a’r amgylchedd, y gymdeithas, diwylliant a’r economi. Bydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar ganfyddiadau, cysyniadau a moeseg sy'n hyrwyddo gwaith rhyngddisgyblaethol ar y cyd a’r broses o gyfuno hyn ag iechyd y blaned ac iechyd ecolegol.

Deall risgiau, anghydraddoldeb a’r dyfodol

Mae goblygiadau’r newidiadau sy’n digwydd i’r blaned yn rhai cymhleth ac yn creu ansicrwydd. Bydd ein rhwydwaith ymchwil yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng y risgiau a’r ffactorau sy’n achosi straen ar yr amgylchedd ac ar iechyd, yn ogystal ag atebion sydd o fudd i bobl a’r blaned.

Atebion moesegol, cyfiawn a theg

Gallwn ni sicrhau y bydd ymchwil, polisïau ac ymarfer hefyd yn canolbwyntio ar faterion moesegol, rheoleiddiol a chymdeithasol yn ogystal ag ar anghydraddoldeb, a bydd pwyslais arbennig ar ddimensiynau corfforol, meddyliol a chymdeithasol iechyd.

Pobl

Dr Sara MacBride-Stewart

Dr Sara MacBride-Stewart

Lecturer

Email
macbride-stewarts@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 29208 76354
Dr Joanne Lello

Dr Joanne Lello

Senior Lecturer

Email
lelloj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5885