Ewch i’r prif gynnwys

Hwb Ymchwil Bioddelweddu

Microsgopeg cydffocal yn yr Hwb Ymchwil Bioddelweddu

Mae’r Hwb Ymchwil Bioddelweddu yn darparu'r offer delweddu digidol ac arbenigedd technegol diweddaraf ar gyfer archwilio samplau biolegol.

Mae’r Hwb yn cynnig y gwasanaethau technegol canlynol: ffotograffiaeth ddigidol, delweddu macrosgopeg, technegau microsgopeg confensiynol (maes llachar, maes tywyll, gweddgyferbyniaeth, cyferbyniad ymyrraeth wahaniaethol, golau polar, ac epifflworoleuedd), sganio sleidiau cyfan, a microsgopeg sganio laser cydffocal tra-fanwl.

Offer

Enw Brand/model Manylion
Microsgop sganio laser cydffocal gyda gallu cyd-raniad tra-fanwl Microsgop cydffocal unionsyth Zeiss LSM880 gyda Airyscan System gydffocal sganio cyflym diweddaraf, tra-fanwl ar gyfer delweddu sbectrosgopeg cydberthyniad fflworoloeuedd (FCS) a delweddu oes fflworoleuedd (FLIM).
System ddelweddu celloedd byw amlfodd ar gyfer microsgopeg cydffocal tra-fanwl, confensyniol a mewnbwn uchel. Microsgop awtomataidd Zeiss Cell Discoverer 7 Mae microsgop Zeiss Cell Discoverer 7 yn system ddelweddu awtomataidd integredig sy’n gallu dadansoddi pob math o samplau, o gelloedd byw i organebau model bychain, trwy dechnegau dadansoddi cydffocal aml-ddimensiwn tra-fanwl, aml-fformat, mewnbwn uchel. Mae iddo reolaeth amgylcheddol llawn ar gyfer delweddu celloedd byw ac yn addas ar gyfer rhaglenni sgrinio amlbeth, recordio treigl amser ynghyd â phrofion trin delweddau.
Zeiss Lightsheet Z.1 Zeiss Lightsheet Z.1 System ‘barod i fynd’ wedi’i hintegreiddio’n llawn ar gyfer microsgopeg fflworoleuol haen olau gyda rheolaeth amgylcheddol.
Microsgop Cydffocal Disg Troelli Microsgop gwrthdro modurol Olympus IX71 Delweddydd cydffocal Crest Optics X-Light V2; Banc laser tair llinell Cairn Research (405nm; 488nm; 561nm); camera digidol Hamamatsu ORCA Flash 4 CMOS gyda holltydd delwedd M-View Gemini
Microsgop sganio laser cydffocal gyda stand gwrthdro System gydffocal Leica TCS SP2 AOBS Mae’r system SP2 yn cynnwys microsgop gwrthdro (Leica DMIRE2) gyda system reolaeth amgylcheddol Solent Scientific ar gyfer delweddu celloedd byw.
System Gloywi Meinweoedd X-CLARITY Logos Biosystems X-CLARITY Mae’r system glanhau meinweoedd X-CLARITY yn gasgliad o systemau awtomataidd ac adweithyddion parod i’w defnyddio i lanhau meinweoedd biolegol i’w paratoi ar gyfer rhaglenni delweddu.
System ddelweddu bioymoleuedd/fflworoleuedd aml-donfedd Biospace Lab PhotonIMAGER Optima System ddelweddu optegol, amser real (bioymoleuedd a fflworoleuedd) ar gyfer astudiaethau cinetig ac arbrofion arhydol o systemau/modelau synthetig a meinweoedd byw.
Gweithfan Cyfrifiadur Imaris Bitplane Imaris 9.9 for Cell Biologists Gweithfan cyfrifiadur sy’n rhedeg Imaris 9.9 for Cell Biologists.
Dyrannydd-micro laser Zeiss PALM MicroBeam Dyrannydd-micro laser Zeiss PALM MicroBeam Microsgop Zeiss Axio Observer wedi’i fotoreiddio’n llawn gyda delweddu maes llachar ac epifflworoleuedd. Dyfais casglu awtomataidd RoboMover. Laser 355nm cyflwr solet amledd triphlyg. Camera digidol Zeiss AxioCam.
Microsgop ymchwil unionsyth wedi’i awtomeiddio’n llawn Microsgop Olympus BX61 gyda chamera digidol Hamamatsu ORCA Spark Addas ar gyfer delweddu maes llachar, cyferbyniad ymyrraeth gwahaniaethol ac epifflworoleuedd. Mae’r system wedi’i fotoreiddio’n llawn gyda llwyfan symudol sy’n caniatáu caffael cyfresi data delweddau 3D.
Microsgop ymchwil amlfodd unionsyth Olympus BX40 gyda chamera digidol Hamamatsu ORCA Spark Addas ar gyfer delweddu maes llachar, maes tywyll, gweddgyferbyniol ac epifflworoleuedd.
Microsgop ymchwil unionsyth Olympus BX50 Addas ar gyfer delweddu maes llachar ac epifflworoleuedd.
Microsgop fflworoloeuedd gwrthdro ar gyfer delweddu aml-fformat Microsgop gwrthdro Olympus IX71 gyda chamera digidol Hamamatsu ORCA Spark Addas ar gyfer archwilio epifflworoleuedd (RGB) a gweddgyferbyniol o gelloedd a meinweoedd byw neu sefydlog ar sleidiau, dysglau petri a phlatiau aml-bant.
Microsgop unionsyth ar gyfer microsgopeg maes llachar ac epifflworoleuedd Microsgop maes llachar ac epifflworoleuedd Leica DMLB Addas ar gyfer dadansoddiad histolegol a dadansoddiad epifflworoleuedd amlsianel (RGB) o samplau meinwe ar sleidiau.
Microsgop unionsyth maes llachar Microsgop Leica DMRB maes llachar Addas ar gyfer microsgopeg cyffredinol maes llachar.
Microsgop Sganio Sleidiau System Sganio Sleidiau Objective Imaging Surveyor Mae’r microsgop yn gallu sganio sleidiau cyfan a delweddu mosaic o doriadau histolegol dan olau maes llachar.
Microsgop sganio sleidiau mewnbwn uchel wedi’i awtomeiddio System Sganio Sleidiau Olympus VS200 Mae’r microsgop yn medru cynnal gwaith sganio mewnbwn uchel a phwytho sleidiau cyfan o doriadau meinwe histolegol yn awtomatig gan ddefnyddio dulliau goleuo maes llachar, gweddgyferbyniol, maes tywyll, polar ac epifflworoleuedd aml-blecs (DAPI, FITC, Cy3 a Cy5).
System chwyddo aml-ddelwedd System Olympus SZX12 chwyddo stereo Yn addas ar gyfer delweddu maes llachar ac epifflworoleuedd o samplau bychain megis mowntiau cyfan, platiau meithriniad, jelïau neu thoriadau meinwe mawr.
System Ddelweddu Chwyddo Macro System Ddelweddu Chwyddo Macro Addas ar gyfer gwaith delweddu maes golau llachar o samplau bychain megis mowntiau cyfan, platiau meithriniad, jelïau neu thoriadau meinwe mawr.
Argraffydd 3D Ultimaker 3 Extended Argraffydd 3D Ultimaker 3 Extended Argraffydd 3D sydd yn dyddodi haenau o blastid (LPD); maes gweithio o 215 x 215 x 300mm; cydraniad argraffu 20-200 micron. Meddalwedd Z-Suite sy’n derbyn ffeiliau .stl obj, .dxf a .3mf.
Fflworosbectromedr Nano Drop 3300 Thermo Scientific Fflworosbectromedr Nano Drop 3300 Thermo Scientific Fflworosbectromedr cyfaint micro; Tri deuod golau (LED): Uchafswm cyffroad: Uwch-fioled: 365nm; Glas: 470nm; Gwyn; 460-650nm; Cydraniad sbectrol: 8nm; Amser mesur: 2-10 eiliad
Ffotograffiaeth Ddigidol Nikon D90 SLR ddigidol Mae’r Nikon D90 yn addas ar gyfer ffotograffiaeth gyffredinol neu ddelweddu macro.

Cysylltwch

Dr Anthony J Hayes

Email
hayesaj@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6611

Lleoliad

  • Sir Martin Evans Building
    Rhodfa'r Amgueddfa
    CF10 3AX