Ewch i’r prif gynnwys

System ddelweddu celloedd byw amlfodd ar gyfer microsgopeg cydffocal tra-fanwl, confensyniol a mewnbwn uchel.

Mae microsgop Zeiss Cell Discoverer 7 yn system ddelweddu gaeedig, cyfan a pharod sy’n defnyddio technoleg LED a thechnolegau sganio laser cydffocal fel ei gilydd, gyda chyffroad fflworoleuedd o uwchfioled i goch pell. Mae’n system amlbwrpas sy’n cynnal rhaglenni amlbeth yn ogystal â dulliau dadansoddi aml-ddimensiwn ar gyfer amryw o gyd-destunau a fformatau sampl.

Brand/model Microsgop awtomataidd Zeiss Cell Discoverer 7
Manylion Mae microsgop Zeiss Cell Discoverer 7 yn system ddelweddu awtomataidd integredig sy’n gallu dadansoddi pob math o samplau, o gelloedd byw i organebau model bychain, trwy dechnegau dadansoddi cydffocal aml-ddimensiwn tra-fanwl, aml-fformat, mewnbwn uchel. Mae iddo reolaeth amgylcheddol llawn ar gyfer delweddu celloedd byw ac yn addas ar gyfer rhaglenni sgrinio amlbeth, recordio treigl amser ynghyd â phrofion trin delweddau.
Cyfleuster Hwb Ymchwil Bioddelweddu

Mae gan y microsgop Cell Discoverer 7 wrthrychiaduron awto-ffocws ac awto-wirio sy’n medru chwyddo delweddau o 2.5x hyd at 100x (gweler isod). Mae iddo 7 sianel cyffroi LED, 4 laser ynghyd â chamera CMOS monocrom Zeiss Axiocam 712. Ar ben hynny, mae iddo sganiwr cydffocal cyfres LSM900 sy’n ymgorffori 2 ganfodydd GaAsP a chanfodydd Airyscan2 sydd â gallu delweddu tra-fanwl – gweler isod.

Mae iddo reolaeth amgylcheddol llawn gyda mynediad ar gyfer trosglwyddo samplau ar echel. Ar ben hynny, mae’n cynnal system ddelweddu aml-fformat deallus (h.y. mae modd defnyddio sleidiau, sleidiau siambr, dysglau, platiau ayyb). Cyfres meddalwedd Zen sy’n gefndir i’r migrosgop sydd hefyd yn cynnwys modiwlau are gyfer adlunio delweddau ac animeiddio 3D/4D; sganio sbectrol, dadansoddi a meintoli cyd-leoleiddiad; dat-gymysgu sbectrol a llun-gannu (FRAP, FRET), dadymdroelliad a dysgu peirianyddol.

Gwrthrychiaduron

Dyma ystod chwyddo’r system: 2.5x, 5x, 10x, 20x, 25x, 40x, 50x, 100x

Cyffroad LED

Cyffroad LED 385nm, 420nm, 470nm, 511nm, 567nm, 590nm, 625nm

Cyffroad Laser

Llinellau laser 405nm, 488nm, 561nm, 640nm

Canfodyddion

  • Camera CMOS monocrom Zeiss Axiocam 712
  • Sganiwr laser cydffocal LSM900 gyda 2 ganfodydd GaAsP yn ogystal â chanfodydd Airyscan2 sydd yn darparu cydranniad gofodol 1.7x heibio terfyn diffreithiant yn x, y a z a gwelliant 8x mewn cymhareb signal i sŵn.

Mae modd i ddefnyddwyr mewnol gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer drwy galendr Outlook ‘BIOSI – E/0.03 – Confocal Microscopy/Lightsheet’.

Cliciwch yma i ddysgu sut i gadw lle trwy Outlook.

Bydd eich cais i ddefnyddio’r microsgop yn cael ei adolygu ac yna’i dderbyn/wrthod gan aelod o staff yr Hwb Bioddelweddu.

Cadwch at yr amser sydd wedi’i bennu. Bydd rhaid talu am yr amser sydd wedi’i gadw, o ddefnyddio’r offer neu beidio. Rhaid trefnu i ddefnyddio’r offer am o leiaf 1 awr.

Mae rhaid rhoi rhybudd o 24 awr fan lleiaf os ydych am ganslo. Os dydy’ch chi ddim yn dod i'r sesiwn a drefnwyd, bydd rhaid talu.

I gael manylion am gostau, cysylltwch â’r Hwb - Bioimaginghub@cardiff.ac.uk

Cyn defnyddio’r offer yn yr Hwb, mae rhaid i bob defnyddiwr gael hyfforddiant a chael eu cofrestru gan staff yr Hwb Bioddelweddu.

Er mwyn cydymffurfio gyda Pholisi Iechyd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd, mae’n ofynnol bod unigolion yn derbyn hyfforddiant priodol cyn defnyddio offer delweddu yr Hwb Bioddelweddu a bod yn effro i’r risgiau sy’n ymwneud â’u defnyddio.

Yn ogystal, mae rhaid i ddefnyddwyr y microsgopau cydffocal sganio laser:

  1. Gael hyfforddiant gan aelod o staff yr Hwb Bioddelweddu (nid yw hyfforddiant anuniongyrchol gan ddefnyddwyr eraill yn ddigonol).
  2. Darllen yr Asesiad Risg ar gyfer y CD7 a’i ddeall.

  3. Llenwi ffurflen Cofrestru Gweithiwr Laser (Registration of Laser Worker form)

Os oes angen diweddaru eich hyfforddiant, rhowch wybod i aelod o staff wrth ichi gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer a bydd modd inni ei gynnal cyn eich sesiwn.

Mae disgwyl i bawb sy’n defnyddio’r Uned Bioddelweddu ddilyn y canllawiau canlynol. Bydd y rheiny nad ydynt yn cydymffurfio yn colli eu hawliau mynediad:

  • Dim bwyd na diod yn y cyfleuster.
  • Ewch ag unrhyw wastraff gyda chi (gan gynnwys menig labordy) a chewch wared arno’n briodol y tu allan i'r cyfleuster – dydyn ni ddim yn gyfrifol am eich gwastraff.
  • Mae perygl ichi faglu o adael cotiau a bagiau ar lawr yr ystafelloedd delweddu tywyll. Defnyddiwch fachau ar y drysau mewnol, neu gwell fyth, peidiwch â dod a nhw i'r cyfleuster.
  • Peidiwch â defnyddio offer dydych chi ddim wedi’ch hyfforddi i'w defnyddio. Rhaid i bob defnyddiwr ddarllen yr asesiad risg priodol ar gyfer y gwaith priodol a’i ddeall.
  • Mae rhaid gwneud yn siŵr bod pob dyfais storio data USB yn glir o unrhyw feirws cyn eu defnyddio yn unrhyw un o’n systemau.
  • Ar ddiwedd eich sesiwn, sicrhewch fod y systemau’n cael eu diffodd yn gywir a’ch bod yn cofnodi eich oriau defnydd yn gywir yn y gronfa ddata.

Cysylltwch

Dr Anthony J Hayes

Email
hayesaj@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6611

Lleoliad

E/0.03
Sir Martin Evans Building
Rhodfa'r Amgueddfa
CF10 3AX

Oriau agor

Llun i Gwener, 09:00-17:00. Am fynediad tu allan i’r oriau hyn, bydd rhaid cael hawliau mynediad ar gerdyn – cysylltwch â Anthony Hayes (hayesaj@caerdydd.ac.uk) i drefnu.

Adnoddau