Ewch i’r prif gynnwys

Microsgop Sganio Sleidiau

Mae ein system sganio sleidiau Objective Imaging, sy wedi’i awtomeiddio’n rhannol, yn gallu sganio sleidiau cyfan o doriadau meinwe histolegol ar gyfer dadansoddi ac archifo digidol

Ac yntau’n defnyddio dull sganio raster a ffocysu addasol, mae’r system yn caffael delweddau mosaic tra-fanwl yn gyflym, ar raddfa fawr ac ar gyfraddau ffram camera gan fanteisio ar feysydd delwedd dilyniannol ar draws samplau meinwe. .

Mae’r delweddau mosaic yn gweu yn un ddelwedd clir ar unwaith ac mae modd ei addasu’n hawdd naill i roi trosolwg tra-fanwl neu ar gyfer dewis darn o’r ddelwedd sydd o ddiddordeb penodol i'r defnyddiwr.

Mae’r system yma ar gael i'w ddefnyddio gyda neu heb gymorth technegol.

Brand/model System Sganio Sleidiau Objective Imaging Surveyor
Manylion Mae’r microsgop yn gallu sganio sleidiau cyfan a delweddu mosaic o doriadau histolegol dan olau maes llachar.
Cyfleuster Hwb Ymchwil Bioddelweddu
Ysgol Ysgol y Biowyddorau

Mae i’r sganiwr ficrosgop maes llachar Olympus BX41 gyda gwrthrychiaduron 5x, 10x, 20x a 40x, camera lliw digidol QImaging QICAM Fast 1394 (gyda chyfrifiadur cysylltiol) a phlât arsylwi XYZ OASIS wedi’i fotoreiddio sy’n gallu cael ei reoli gyda ffon reoli neu yn uniongyrchol trwy feddalwedd Surveyor.

Gwrthrychiaduron

  • 4x/0.10 Plan N
  • 10x/0.30 UPlan FL N
  • 20x/0.75 UPlan S Apo
  • 40x/0.75 UPlan FL N

Enghreifftiau Turboscan

Mae modd i ddefnyddwyr mewnol gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer drwy galendr Outlook ‘BIOSI - E/0.04 - Widefield Microscopy’.

Cliciwch yma i ddysgu sut i gadw lle trwy Outlook.

Bydd eich cais i ddefnyddio’r microsgop yn cael ei adolygu ac yna’i dderbyn/wrthod gan aelod o staff yr Hwb Bioddelweddu.

Cadwch at yr amser sydd wedi’i bennu. Bydd rhaid talu am yr amser sydd wedi’i gadw, o ddefnyddio’r offer neu beidio. Rhaid trefnu i ddefnyddio’r offer am o leiaf 1 awr.

Mae rhaid rhoi rhybudd o 24 awr fan lleiaf os ydych am ganslo. Os dydy’ch chi ddim yn dod i'r sesiwn a drefnwyd, bydd rhaid talu.

I gael manylion am gostau, cysylltwch â’r Hwb Bioddelweddu - Bioimaginghub@caerdydd.ac.uk

Cyn defnyddio’r offer yn yr Hwb, mae rhaid i bob defnyddiwr dderbyn hyfforddiant a chael eu cofrestru gan staff yr Hwb Bioddelweddu.

Canllawiau i'r defnyddiwr

Er mwyn cydymffurfio gyda Pholisi Iechyd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd, mae’n ofynnol bod unigolion yn derbyn hyfforddiant priodol cyn defnyddio offer delweddu yr Hwb Bioddelweddu a bod yn effro i’r risgiau sy’n ymwneud â’u defnyddio.

Os oes angen diweddaru eich hyfforddiant, rhowch wybod i aelod o staff wrth ichi gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer a bydd modd inni’i gynnal cyn eich sesiwn.

Mae disgwyl i bawb sy’n defnyddio’r Uned Bioddelweddu ddilyn y canllawiau canlynol. Bydd y rheiny nad ydynt yn cydymffurfio yn colli eu hawliau mynediad:

  • Dim bwyd na diod yn y cyfleuster.
  • Ewch ag unrhyw wastraff gyda chi (gan gynnwys menig labordy) a chewch wared arno’n briodol y tu allan i'r cyfleuster – dydyn ni ddim yn gyfrifol am eich gwastraff.
  • Mae perygl ichi faglu o adael cotiau a bagiau ar lawr yr ystafelloedd delweddu tywyll. Defnyddiwch fachau ar y drysau mewnol, neu gwell fyth, peidiwch â dod a nhw i'r cyfleuster.
  • Peidiwch â defnyddio offer dydych chi ddim wedi’ch hyfforddi i'w defnyddio. Rhaid i bob defnyddiwr ddarllen yr asesiad risg priodol ar gyfer y gwaith priodol a’i ddeall.
  • Mae rhaid gwneud yn siŵr bod pob dyfais storio data USB yn glir o unrhyw feirws cyn eu defnyddio yn unrhyw un o’n systemau.
  • Ar ddiwedd eich sesiwn, sicrhewch fod y systemau’n cael eu diffodd yn gywir a’ch bod yn cofnodi eich oriau defnydd yn gywir yn y gronfa ddata.

Cysylltwch

Dr Anthony J Hayes

Email
hayesaj@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6611

Lleoliad

E/0.04
Sir Martin Evans Building
Rhodfa'r Amgueddfa
CF10 3AX

Oriau agor

Mae’r Hwb ar agor Llun-Gwener 09:00 – 17:00. Am fynediad y tu allan i'r oriau yma, cysylltwch â gweinyddwr y cyfleuster.