Ewch i’r prif gynnwys

Microsgop ymchwil unionsyth

Mae’r Hwb Bioddelweddu, sydd mewn ystafell bwrpasol ar ei newydd wedd, yn cynnig nifer o ficrosgopau ymchwil maes llydan.

Mae’r systemau sydd ar waith yn cynnig amrywiaeth helaeth o dechnegau cyferbynnu optegol gyda’r gallu i gipio delweddau digidol.

Mae’r Olympus BX50 yn addas ar gyfer delweddu maes llachar ac epifflworoleuedd. Mae gan y microsgop lensys x2, x5, x10, x20, x50, lens drochi olew x100 a hidlyddion RGB.

Mae’r system yma ar gael i'w ddefnyddio gyda chymorth technegol neu heb gymorth technegol.

Brand/model Olympus BX50
Manylion Addas ar gyfer delweddu maes llachar ac epifflworoleuedd.
Cyfleuster Hwb Ymchwil Bioddelweddu
Ysgol Ysgol y Biowyddorau

Mae gan y microsgop lensys x2, x5, x10, x20, x50, lens drochi olew x100 a hidlyddion RGB ar gyfer epifflworoleuedd. Camera digidol lliw Jenoptik ProgRes a meddalwedd ategol sydd wrth galon y microsgop. Mae’r cyfrifiadur cysylltiedig wedi’i ddelweddu a’i rhyngweithio er mwyn trosglwyddo ffeiliau data yn hawdd.

Gwrthrychiaduron

  • 2x/0.05 Plan
  • 5x/0.15 UMPlan Fl
  • 10x/0.30 MPlan FLN
  • 20x/0.50 UPlan Fl
  • 50x/0.50 LMPlan Fl
  • 100x/1.30 UPlan FLN Oil (iris)

Mae modd i ddefnyddwyr mewnol gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer drwy galendr Outlook ‘BIOSI – E/0.04 – Widefield Microscopy’.

Cliciwch yma i ddysgu sut i gadw lle trwy Outlook.

Bydd eich cais i ddefnyddio’r microsgop yn cael ei adolygu ac yna’i dderbyn/wrthod gan aelod o staff yr Hwb Bioddelweddu.

Cadwch at yr amser sydd wedi’i bennu. Bydd rhaid talu am yr amser sydd wedi’i gadw, o ddefnyddio’r offer neu beidio. Rhaid trefnu i ddefnyddio’r offer am o leiaf 1 awr.

Mae rhaid rhoi rhybudd o 24 awr fan lleiaf os ydych am ganslo. Os dydy’ch chi ddim yn dod i'r sesiwn a drefnwyd, bydd rhaid talu.

I gael manylion am gostau, cysylltwch â’r Hwb - Bioimaginghub@caerdydd.ac.uk

Cyn defnyddio’r offer yn yr Hwb, mae rhaid i bob defnyddiwr gael hyfforddiant a chael eu cofrestru gan staff yr Hwb Bioddelweddu.

Er mwyn cydymffurfio gyda Pholisi Iechyd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd, mae’n ofynnol bod unigolion yn derbyn hyfforddiant priodol cyn defnyddio offer delweddu yr Hwb Bioddelweddu a bod yn effro i’r risgiau sy’n ymwneud â’u defnyddio.

Os oes angen diweddaru eich hyfforddiant, rhowch wybod i aelod o staff wrth ichi gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer a bydd modd inni ei gynnal cyn eich sesiwn.

Mae disgwyl i bawb sy’n defnyddio’r Uned Bioddelweddu ddilyn y canllawiau canlynol. Bydd y rheiny nad ydynt yn cydymffurfio yn colli eu hawliau mynediad:

  • Dim bwyd na diod yn y cyfleuster.
  • Ewch ag unrhyw wastraff gyda chi (gan gynnwys menig labordy) a chewch wared arno’n briodol y tu allan i'r cyfleuster – dydyn ni ddim yn gyfrifol am eich gwastraff.
  • Mae perygl ichi faglu o adael cotiau a bagiau ar lawr yr ystafelloedd delweddu tywyll. Defnyddiwch fachau ar y drysau mewnol, neu gwell fyth, peidiwch â dod a nhw i'r cyfleuster.
  • Peidiwch â defnyddio offer dydych chi ddim wedi’ch hyfforddi i'w defnyddio. Rhaid i bob defnyddiwr ddarllen yr asesiad risg priodol ar gyfer y gwaith priodol a’i ddeall.
  • Mae rhaid gwneud yn siŵr bod pob dyfais storio data USB yn glir o unrhyw feirws cyn eu defnyddio yn unrhyw un o’n systemau.
  • Ar ddiwedd eich sesiwn, sicrhewch fod y systemau’n cael eu diffodd yn gywir a’ch bod yn cofnodi eich oriau defnydd yn gywir yn y gronfa ddata.

Cysylltwch

Dr Anthony J Hayes

Email
hayesaj@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6611

Lleoliad

E/0.04
Sir Martin Evans Building
Rhodfa'r Amgueddfa
CF10 3AX

Oriau agor

Mae’r Hwb ar agor Llun-Gwener 09:00 – 17:00. Am fynediad y tu allan i'r oriau yma, cysylltwch â gweinyddwr y cyfleuster.