Ewch i’r prif gynnwys

System ddelweddu bioymoleuedd/fflworoleuedd aml-donfedd

Mae’r Biospace Lab PhotonIMAGER Optima yn system ddelweddu in vivo cenhedlaeth nesaf  ar gyfer bioymoleuedd a fflworoleuedd. Mae modd iddo ddelweddu sbectrwm-llawn, o las i is-goch-agos yn nulliau bioymoleuedd a fflworoleuedd (detholiad di-dor o donfeddau cyffroad o 450nm – 1000nm).

Brand/model Biospace Lab PhotonIMAGER Optima
Manylion System ddelweddu optegol, amser real (bioymoleuedd a fflworoleuedd) ar gyfer astudiaethau cinetig ac arbrofion arhydol o systemau/modelau synthetig a meinweoedd byw.
Cyfleuster Hwb Ymchwil Bioddelweddu
Ysgol Ysgol y Biowyddorau

Siambr ddelweddu gwrth-olau gyda phlât cynorthwyol aml-safle (sy’n galluogi delweddu macro hyd at ddimensiynau celloedd); camera CCD dwys gyda lens facro f/1.2-22; olwyn hidlen cyffroad gyda hidlydd pasio 16 band: 400-800nm (ystod lledband25nm); olwyn hidlen allyriant gyda 15 hidlydd; dadgymysgydd sbectrol.

Mae modd i ddefnyddwyr mewnol gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer drwy galendr Outlook ‘BIOSI - Biospace Lab Photon Imager’.

Cliciwch yma i ddysgu sut i gadw lle trwy Outlook.

Cadwch at yr amser sydd wedi’i bennu. Bydd rhaid talu am yr amser sydd wedi’i gadw, o ddefnyddio’r offer neu beidio. Rhaid trefnu i ddefnyddio’r offer am o leiaf 1 awr.

Mae rhaid rhoi rhybudd o 24 awr fan lleiaf os ydych am ganslo. Os dydy’ch chi ddim yn dod i'r sesiwn a drefnwyd, bydd rhaid talu.

Defnyddwyr mewnol

Cysylltwch â Dr Lee Parry: parryl3@caerdydd.ac.uk/ +44 (0)29 2068 8017 neu Dr Patrick Hardinge: hardingep@caerdydd.ac.uk / +44 (0)29 2087 9396

Defnyddwyr allanol

Cysylltwch â Dr Lee Parry: parryl3@caerdydd.ac.uk/ +44 (0)29 2068 8017 neu Dr Patrick Hardinge: hardingep@caerdydd.ac.uk / +44 (0)29 2087 9396

Cysylltwch â Dr Lee Parry: parryl3@caerdydd.ac.uk/ +44 (0)29 2068 8017 neu Dr Patrick Hardinge: hardingep@caerdydd.ac.uk / +44 (0)29 2087 9396

Er mwyn cydymffurfio gyda Pholisi Iechyd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd, mae’n ofynnol bod unigolion yn derbyn hyfforddiant priodol cyn defnyddio offer delweddu yr Hwb Bioddelweddu a bod yn effro i’r risgiau sy’n ymwneud â’u defnyddio.

Cyfeiriwch at Asesiad Risg Biospace PhotonIMAGER Optima

Mae disgwyl i bawb sy’n defnyddio’r Uned Bioddelweddu ddilyn y canllawiau canlynol. Bydd y rheiny nad ydynt yn cydymffurfio yn colli eu hawliau mynediad:

  • Dim bwyd na diod yn y cyfleuster.
  • Ewch ag unrhyw wastraff gyda chi (gan gynnwys menig labordy) a chewch wared arno’n briodol y tu allan i'r cyfleuster – dydyn ni ddim yn gyfrifol am eich gwastraff.
  • Mae perygl ichi faglu o adael cotiau a bagiau ar lawr yr ystafelloedd delweddu tywyll. Defnyddiwch fachau ar y drysau mewnol, neu gwell fyth, peidiwch â dod a nhw i'r cyfleuster.
  • Peidiwch â defnyddio offer dydych chi ddim wedi’ch hyfforddi i'w defnyddio. Rhaid i bob defnyddiwr ddarllen yr asesiad risg priodol ar gyfer y gwaith priodol a’i ddeall.
  • Mae rhaid gwneud yn siŵr bod pob dyfais storio data USB yn glir o unrhyw feirws cyn eu defnyddio yn unrhyw un o’n systemau.
  • Ar ddiwedd eich sesiwn, sicrhewch fod y systemau’n cael eu diffodd yn gywir a’ch bod yn cofnodi eich oriau defnydd yn gywir yn y gronfa ddata.

Cysylltwch

Dr Lee Parry

Email
parryl3@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8017

Lleoliad

BIOSI 3, 5.09
Sir Martin Evans Building
Rhodfa'r Amgueddfa
CF10 3AX

Oriau agor

Cysylltwch â Dr Lee Parry: parryl3@caerdydd.ac.uk/ +44 (0)29 2068 8017