Ewch i’r prif gynnwys

Dyrannydd-micro laser Zeiss PALM MicroBeam

Dyrannydd-micro laser mwyaf blaengar cwmni Zeiss yw’r PALM MicroBeam ar gyfer ynysu DNA, RNA a phrotein o doriadau histolegol (cwyr paraffin neu gryo) neu o gelloedd byw.

Brand/model Dyrannydd-micro laser Zeiss PALM MicroBeam
Manylion Microsgop Zeiss Axio Observer wedi’i fotoreiddio’n llawn gyda delweddu maes llachar ac epifflworoleuedd. Dyfais casglu awtomataidd RoboMover. Laser 355nm cyflwr solet amledd triphlyg. Camera digidol Zeiss AxioCam.
Cyfleuster Hwb Ymchwil Bioddelweddu
Ysgol Ysgol y Biowyddorau

Mae’r system wedi’i fotoreiddio’n llawn gyda lensys gwrthrychol x5, x20, x40 a x63 a hidlyddion RGB ar gyfer epifflworoleuedd. Camera digidol lliw Zeiss AxioCam sydd wrth galon y microsgop ynghyd â RoboMover ar gyfer cipio awtomataidd a chasglu samplau sydd wedi’u micro-dyrannu. Mae’r system yn gweithio trwy feddalwedd Zeiss RoboSoftware.

Gwrthrychiaduron

  • 10x/0.50 Fluar
  • 20x/0.40 LD Plan Neofluar
  • 40x/0.60 LD Plan Neofluar
  • 63x/0.75 LD Plan-Neofluar

Laser

  • Laser 355nm cyflwr solet amledd driphlyg

Mae modd i ddefnyddwyr mewnol gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer drwy galendr Outlook ‘BIOSI – HEB Zeiss PALM laser microdissector’.

Cliciwch yma i ddysgu sut i gadw lle trwy Outlook.

Cadwch at yr amser sydd wedi’i bennu. Bydd rhaid talu am yr amser sydd wedi’i gadw, o ddefnyddio’r offer neu beidio. Rhaid trefnu i ddefnyddio’r offer am o leiaf 1 awr.

Mae rhaid rhoi rhybudd o 24 awr fan lleiaf os ydych am ganslo. Os dydy’ch chi ddim yn dod i'r sesiwn a drefnwyd, bydd rhaid talu.

I gael manylion am gostau, cysylltwch â Mark Bishop (bishopm@caerdydd.ac.uk; +44(0)29 2068 8512)

Cysylltwch â Mark Bishop (bishopm@caerdydd.ac.uk; +44(0)29 2068 8512).

Er mwyn cydymffurfio gyda Pholisi Iechyd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd, mae’n ofynnol bod unigolion yn derbyn hyfforddiant priodol cyn defnyddio offer delweddu yr Hwb Bioddelweddu a bod yn effro i’r risgiau sy’n ymwneud â’u defnyddio.

Mae disgwyl i bawb sy’n defnyddio’r Uned Bioddelweddu ddilyn y canllawiau canlynol. Bydd y rheiny nad ydynt yn cydymffurfio yn colli eu hawliau mynediad:

  • Dim bwyd na diod yn y cyfleuster.
  • Ewch ag unrhyw wastraff gyda chi (gan gynnwys menig labordy) a chewch wared arno’n briodol y tu allan i'r cyfleuster – dydyn ni ddim yn gyfrifol am eich gwastraff.
  • Mae perygl ichi faglu o adael cotiau a bagiau ar lawr yr ystafelloedd delweddu tywyll. Defnyddiwch fachau ar y drysau mewnol, neu gwell fyth, peidiwch â dod a nhw i'r cyfleuster.
  • Peidiwch â defnyddio offer dydych chi ddim wedi’ch hyfforddi i'w defnyddio. Rhaid i bob defnyddiwr ddarllen yr asesiad risg priodol ar gyfer y gwaith priodol a’i ddeall.
  • Mae rhaid gwneud yn siŵr bod pob dyfais storio data USB yn glir o unrhyw feirws cyn eu defnyddio yn unrhyw un o’n systemau.
  • Ar ddiwedd eich sesiwn, sicrhewch fod y systemau’n cael eu diffodd yn gywir a’ch bod yn cofnodi eich oriau defnydd yn gywir yn y gronfa ddata.

Cysylltwch

Mr Mark Bishop

Email
bishopm@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2088 8512

Lleoliad

Lab 1.27
Hadyn Ellis Building
Heol Maendy
CF24 4HQ

Oriau agor

Llun i Gwener, 09:00-17:00. Am fynediad tu allan - i’r oriau hyn, bydd rhaid cael hawliau mynediad ar gerdyn.

Adnoddau

    No results were found