Ewch i’r prif gynnwys

Microsgop ymchwil amlfodd unionsyth

Mae’r Hwb Bioddelweddu, sydd mewn ystafell bwrpasol ar ei newydd wedd, yn cynnig nifer o ficrosgopau ymchwil maes llydan.

Mae’r systemau sydd ar waith yn cynnig amrywiaeth helaeth o dechnegau cyferbynnu optegol gyda’r gallu i gipio delweddau digidol.

Mae’r Olympus BX40 yn addas ar gyfer delweddu maes llachar, maes tywyll, gweddgyferbyniol ac epifflworoleuedd.

Mae’r system yma ar gael i'w ddefnyddio gyda chymorth technegol neu heb gymorth technegol.

Brand/model Olympus BX40 gyda chamera digidol Hamamatsu ORCA Spark
Manylion Addas ar gyfer delweddu maes llachar, maes tywyll, gweddgyferbyniol ac epifflworoleuedd.
Cyfleuster Hwb Ymchwil Bioddelweddu
Ysgol Ysgol y Biowyddorau

Mae gan y microsgop lensys sych x5, x10, x20 a x40, lens drochi olew x100 a hidlyddion RGB ar gyfer epifflworoleuedd. Camera digidol du a gwyn Hamamatsu ORCA Spark a meddalwedd delweddu Olympus cellSens sydd wrth galon y microsgop.

Gwrthrychiaduron

  • 5x/0.15 UMPlanFl
  • 10x/0.30 Ph 1 UPlan FLN
  • 20x/0.50 Ph 1 UPlan FL N
  • 40x/0.75 Ph 2 UPlan FL N

Mae modd i ddefnyddwyr mewnol gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer drwy galendr Outlook ‘BIOSI - E/0.04 - Widefield Microscopy’.

Cliciwch yma i ddysgu sut i gadw lle trwy Outlook.

Bydd eich cais i ddefnyddio’r microsgop yn cael ei adolygu ac yna’i dderbyn/wrthod gan aelod o staff yr Hwb Bioddelweddu.

Cadwch at yr amser sydd wedi’i bennu. Bydd rhaid talu am yr amser sydd wedi’i gadw, o ddefnyddio’r offer neu beidio. Rhaid trefnu i ddefnyddio’r offer am o leiaf 1 awr.

Mae rhaid rhoi rhybudd o 24 awr fan lleiaf os ydych am ganslo. Os dydy’ch chi ddim yn dod i'r sesiwn a drefnwyd, bydd rhaid talu.

I gael manylion am gostau, cysylltwch â’r Hwb - Bioimaginghub@caerdydd.ac.uk

Cyn defnyddio’r offer yn yr Hwb, mae rhaid i bob defnyddiwr gael hyfforddiant a chael eu cofrestru gan staff yr Hwb Bioddelweddu.

Er mwyn cydymffurfio gyda Pholisi Iechyd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd, mae’n ofynnol bod unigolion yn derbyn hyfforddiant priodol cyn defnyddio offer delweddu yr Hwb Bioddelweddu a bod yn effro i’r risgiau sy’n ymwneud â’u defnyddio.

Os oes angen diweddaru eich hyfforddiant, rhowch wybod i aelod o staff wrth ichi gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer a bydd modd inni ei gynnal cyn eich sesiwn.

Mae disgwyl i bawb sy’n defnyddio’r Uned Bioddelweddu ddilyn y canllawiau canlynol. Bydd y rheiny nad ydynt yn cydymffurfio yn colli eu hawliau mynediad:

  • Dim bwyd na diod yn y cyfleuster.
  • Ewch ag unrhyw wastraff gyda chi (gan gynnwys menig labordy) a chewch wared arno’n briodol y tu allan i'r cyfleuster – dydyn ni ddim yn gyfrifol am eich gwastraff.
  • Mae perygl ichi faglu o adael cotiau a bagiau ar lawr yr ystafelloedd delweddu tywyll. Defnyddiwch fachau ar y drysau mewnol, neu gwell fyth, peidiwch â dod a nhw i'r cyfleuster.
  • Peidiwch â defnyddio offer dydych chi ddim wedi’ch hyfforddi i'w defnyddio. Rhaid i bob defnyddiwr ddarllen yr asesiad risg priodol ar gyfer y gwaith priodol a’i ddeall.
  • Mae rhaid gwneud yn siŵr bod pob dyfais storio data USB yn glir o unrhyw feirws cyn eu defnyddio yn unrhyw un o’n systemau.
  • Ar ddiwedd eich sesiwn, sicrhewch fod y systemau’n cael eu diffodd yn gywir a’ch bod yn cofnodi eich oriau defnydd yn gywir yn y gronfa ddata.

Cysylltwch

Dr Anthony J Hayes

Email
hayesaj@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6611

Lleoliad

E/0.04
Sir Martin Evans Building
Rhodfa'r Amgueddfa
CF10 3AX

Oriau agor

Mae’r Hwb ar agor Llun-Gwener 09:00 – 17:00. Am fynediad y tu allan i'r oriau yma, cysylltwch â gweinyddwr y cyfleuster.