Ewch i’r prif gynnwys

System Gloywi Meinweoedd X-CLARITY

Mae’r system glanhau meinweoedd X-CLARITY yn gasgliad o systemau awtomataidd ac adweithyddion parod i’w defnyddio i lanhau meinweoedd biolegol i’w paratoi ar gyfer rhaglenni delweddu.

Brand/model Logos Biosystems X-CLARITY
Manylion Mae’r system glanhau meinweoedd X-CLARITY yn gasgliad o systemau awtomataidd ac adweithyddion parod i’w defnyddio i lanhau meinweoedd biolegol i’w paratoi ar gyfer rhaglenni delweddu.
Cyfleuster Hwb Ymchwil Bioddelweddu
Manylion Mae’r system X-Clarity yn cael ei ddefnyddio yn bennaf ar gyfer microsgopeg Haen-olau.

Mae’r X-CLARITY yn cynnwys system bolymeriadu sydd wedi ei gynllunio i sefydlogi y sampl meinwe fel hybrid o hydrogel-meinwe, yn ogystal â system loywi electrofforetig sydd yn glanhau’r meinwe i drylowyder optegol trwy waredu ar y cyfansoddion lipid. Mae’r adweithyddion oll ar gael i’w prynu trwy law Logos Biosystems.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael trwy wefan Logos Biosystems.

Mae modd i ddefnyddwyr mewnol gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer drwy galendr Outlook ‘BIOSI - X-CLARITY’.

Cliciwch yma i ddysgu sut i gadw lle trwy Outlook.

Cadwch at yr amser sydd wedi’i bennu. Bydd rhaid talu am yr amser sydd wedi’i gadw, o ddefnyddio’r offer neu beidio.

Mae rhaid rhoi rhybudd o 24 awr fan lleiaf os ydych am ganslo. Os dydy’ch chi ddim yn dod i'r sesiwn a drefnwyd, bydd rhaid talu.

I gael manylion am gostau, cysylltwch â’r Arweinydd academaidd cyfleusterau delweddu:

Yr Athro Pete Watson
Ebost: watsonpd@caerdydd.ac.uk
Ffôn: +44 (0)29 2087 9042

I gael manylion am hyfforddiant a chefnogaeth, cysylltwch â:

Dr Catherine Hogan
Ebost: hoganc@cardiff.ac.uk

Er mwyn cydymffurfio gyda Pholisi Iechyd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd, mae’n ofynnol bod unigolion yn derbyn hyfforddiant priodol cyn defnyddio offer delweddu yr Hwb Bioddelweddu a bod yn effro i’r risgiau sy’n ymwneud â’u defnyddio.

Cyfrifoldeb yr unigolyn yw cwblhau asesaid risg sydd yn benodol ar gyfer ei raglen o waith.

Mae disgwyl i bawb ddilyn y canllawiau canlynol. Bydd y rheiny nad ydynt yn cydymffurfio yn colli eu hawliau mynediad:

  • Dim bwyd na diod yn y cyfleuster.
  • Ewch ag unrhyw wastraff gyda chi (gan gynnwys menig labordy) a chewch wared arno’n briodol y tu allan i'r cyfleuster – dydyn ni ddim yn gyfrifol am eich gwastraff.
  • Mae perygl ichi faglu o adael cotiau a bagiau ar lawr yr ystafelloedd delweddu tywyll. Defnyddiwch fachau ar y drysau mewnol, neu gwell fyth, peidiwch â dod a nhw i'r cyfleuster.
  • Peidiwch â defnyddio offer dydych chi ddim wedi’ch hyfforddi i'w defnyddio. Rhaid i bob defnyddiwr ddarllen yr asesiad risg priodol ar gyfer y gwaith priodol a’i ddeall.
  • Mae rhaid gwneud yn siŵr bod pob dyfais storio data USB yn glir o unrhyw feirws cyn eu defnyddio yn unrhyw un o’n systemau.
  • Ar ddiwedd eich sesiwn, sicrhewch fod y systemau’n cael eu diffodd yn gywir a’ch bod yn cofnodi eich oriau defnydd yn gywir yn y gronfa ddata.

Cysylltwch

Dr Catherine Hogan

Email
hoganc@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8505

Lleoliad

Labordy 1.27
Hadyn Ellis Building
Heol Maendy
CF24 4HQ

Oriau agor

Llun i Gwener, 09:00-17:00

Adnoddau