Ewch i’r prif gynnwys

Zeiss Lightsheet Z.1

Mae’r Zeiss Lightsheet Z.1 yn system ficrosgop plân oleuo sengl (SPIM) o’r radd flaenaf ar gyfer gwaith delweddu aml-liw, 3D neu 4D o samplau fflworoleuol trwchus (sbesimynau byw, sefydlog wedi’u gloywi) gyda chydraniad gofodol-amseryddol uchel.

Brand/model Zeiss Lightsheet Z.1
Manylion System ‘barod i fynd’ wedi’i hintegreiddio’n llawn ar gyfer microsgopeg fflworoleuol haen olau gyda rheolaeth amgylcheddol.
Cyfleuster Hwb Ymchwil Bioddelweddu
Ysgol Ysgol y Biowyddorau

System ‘barod i fynd’ wedi’i hintergreiddio’n llawn ar gyfer microsgopeg fflworoleuol. Mae gan y microsgop optegau golau x5 a x10 ac optegau canfod x5, x10, x20 a x63 gyda siambrau sampl ar gyfer samplau sy wedi’i gloywi, samplau byw neu sefydlog. Mae gan y system 6 llinell laser a 5 modiwl hidlo sydd yn caniátau cyffroad o ystod eang o brobiau fflworoleuol o 405nm i 638nm.

Mae delweddau’n cael eu casglu trwy ddau gamera sCMOS PCO Edge cydraniad uchel. Mae’r system wedi’i awtomeiddio’n llawn trwy feddalwedd Zeiss Zen ag iddo feddalwedd arivis Vision4D ar gyfer cymwysiadau rendro 3D/4D blaengar. Mae rheolaeth amgylcheddol lawn ar gael ar gyfer deori ar sail tymheredd a CO2.

Gwrthrychiaduron

Optegau goleuo

  • 5x/0.1
  • 10x/0.2

Optegau canfod

  • 5x/0.16 EC Plan-Neofluar; Pellter gweithio = 5.6mm
  • 10x/0.5 W Plan Apo; Pellter gweithio = 3.7mm (trochi dŵr)
  • 20x/1.0 Pan Neofluar Corr; Pellter gweithio = 5.6mm
  • 20x/1.0 W Plan Apo; Pellter gweithio = 2.4mm (trochi dŵr)
  • 63x/1.0 W Plan Apo; Pellter gweithio = 2.1mm (trochi dŵr)

Laserau

  • 405nm (20mW)
  • 445nm (25mW)
  • 488nm (30mW)
  • 515nm (20mW)
  • 561nm (20mW)
  • 638nm (75mW)

Mae modd i ddefnyddwyr mewnol gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer drwy galendr Outlook ‘BIOSI – E/0.03 – Confocal Microscopy/Lightsheet’.

Cliciwch yma i ddysgu sut i gadw lle trwy Outlook.

Bydd eich cais i ddefnyddio’r microsgop yn cael ei adolygu ac yna’i dderbyn/wrthod gan aelod o staff yr Hwb Bioddelweddu.

Cadwch at yr amser sydd wedi’i bennu. Bydd rhaid talu am yr amser sydd wedi’i gadw, o ddefnyddio’r offer neu beidio. Rhaid trefnu i ddefnyddio’r offer am o leiaf 1 awr.

Mae rhaid rhoi rhybudd o 24 awr fan lleiaf os ydych am ganslo. Os dydy’ch chi ddim yn dod i'r sesiwn a drefnwyd, bydd rhaid talu.

I gael manylion am gostau, cysylltwch â’r Hwb - Bioimaginghub@caerdydd.ac.uk

Cyn defnyddio’r offer yn yr Uned, mae rhaid i bob defnyddiwr gael hyfforddiant a chael eu cofrestru gan staff yr Hwb Bioddelweddu.

Er mwyn cydymffurfio gyda Pholisi Iechyd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd, mae’n ofynnol bod unigolion yn derbyn hyfforddiant priodol cyn defnyddio offer delweddu yr Hwb Bioddelweddu a bod yn effro i’r risgiau sy’n ymwneud â’u defnyddio.

Yn ogystal, mae rhaid i ddefnyddwyr y microsgopau cydffocal sganio laser:

  1. Gael hyfforddiant gan aelod o staff yr Hwb Bioddelweddu (nid yw hyfforddiant anuniongyrchol gan ddefnyddwyr eraill yn ddigonol).
  2. Darllen yr Asesiad Risg diweddaraf ar gyfer yr Hwb Bioddelweddu a’i ddeall
  3. Llenwi ffurflen Ffurflen gofrestru Gweithiwr Laser (Saeseng yn unig)

Os oes angen diweddaru eich hyfforddiant, rhowch wybod i aelod o staff wrth ichi gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer a bydd modd inni’i gynnal cyn eich sesiwn.

Mae disgwyl i bawb sy’n defnyddio’r Uned Bioddelweddu ddilyn y canllawiau canlynol. Bydd y rheiny nad ydynt yn cydymffurfio yn colli eu hawliau mynediad:

  • Dim bwyd na diod yn y cyfleuster.
  • Ewch ag unrhyw wastraff gyda chi (gan gynnwys menig labordy) a chewch wared arno’n briodol y tu allan i'r cyfleuster – dydyn ni ddim yn gyfrifol am eich gwastraff.
  • Mae perygl ichi faglu o adael cotiau a bagiau ar lawr yr ystafelloedd delweddu tywyll. Defnyddiwch fachau ar y drysau mewnol, neu gwell fyth, peidiwch â dod a nhw i'r cyfleuster.
  • Peidiwch â defnyddio offer dydych chi ddim wedi’ch hyfforddi i'w defnyddio. Rhaid i bob defnyddiwr ddarllen yr asesiad risg priodol ar gyfer y gwaith priodol a’i ddeall.
  • Mae rhaid gwneud yn siŵr bod pob dyfais storio data USB yn glir o unrhyw feirws cyn eu defnyddio yn unrhyw un o’n systemau.
  • Ar ddiwedd eich sesiwn, sicrhewch fod y systemau’n cael eu diffodd yn gywir a’ch bod yn cofnodi eich oriau defnydd yn gywir yn y gronfa ddata.

Cysylltwch

Dr Anthony J Hayes

Email
hayesaj@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6611

Lleoliad

BIOSI 2; E/0.03
Sir Martin Evans Building
Rhodfa'r Amgueddfa
CF10 3AX

Oriau agor

Llun i Gwener, 09:00-17:00. Am fynediad tu allan i’r oriau hyn, bydd rhaid cael hawliau mynediad ar gerdyn – cysylltwch â Anthony Hayes (hayesaj@caerdydd.ac.uk) i drefnu.

Adnoddau