Ewch i’r prif gynnwys

Microsgop fflworoloeuedd gwrthdro ar gyfer delweddu aml-fformat

Mae’r Hwb Bioddelweddu yn gweithredu nifer o ficrosgopau confensiynol maes llydan sy’n  cynnig amrywiaeth helaeth o dechnegau cyferbynnu optegol. Mae’r microsgopau yn rhan o rwydwaith gyfrifiadurol fodern gyda’r gallu i gipio delweddau digidol.

Camera CMOS monocrom Hamamatsu Orca Spark a meddalwedd Olympus cellSens Standard sydd wrth galon ein microsgop gwrthdro epifflworoleuedd Olympus IX71. Mae magwrydd bach ar gael yn yr Hwb hefyd ar gyfer meithrin celloedd dros dro.

Brand/model Microsgop gwrthdro Olympus IX71 gyda chamera digidol Hamamatsu ORCA Spark
Manylion Addas ar gyfer archwilio epifflworoleuedd (RGB) a gweddgyferbyniol o gelloedd a meinweoedd byw neu sefydlog ar sleidiau, dysglau petri a phlatiau aml-bant.
Cyfleuster Hwb Ymchwil Bioddelweddu

Mae gan y microsgop gwrthdro Olympus IX71 wrthrychiaduron 2x, 5x, 20x a 40x a chiwbiau adlewyrchydd RGB ar gyfer epifflworoleuedd. Mae gan y microsgop gamera CMOS monocrom Hamamatsu Orca Spark a meddalwedd delweddu Olympus cellSens.

Gwrthrychiaduron

  • 2x/0.05 Plan
  • 5x/0.15 UMPlan Fl
  • 10x/0.30 Ph1 UPlan Fl
  • 20x/0.40 Ph1 LCPlan Fl
  • 40x/0.60 Ph2 LCPlan Fl
  • 40x/0.60 Ph2 UCPlan FLN
  • 60x/0.70 Ph2 LUCPlan FLN

Mae modd i ddefnyddwyr mewnol gadw lle ar gyfer defnyddio’r offer drwy galendr Outlook ‘BIOSI - Olympus IX71.

Cliciwch yma i ddysgu sut i gadw lle trwy Outlook.

Bydd eich cais i ddefnyddio’r microsgop yn cael ei adolygu ac yna’i dderbyn/wrthod gan aelod o staff yr Hwb Bioddelweddu.

Cadwch at yr amser sydd wedi’i bennu. Bydd rhaid talu am yr amser sydd wedi’i gadw, o ddefnyddio’r offer neu beidio. Rhaid trefnu i ddefnyddio’r offer am o leiaf 1 awr.

Mae rhaid rhoi rhybudd o 24 awr fan lleiaf os ydych am ganslo. Os dydy’ch chi ddim yn dod i'r sesiwn a drefnwyd, bydd rhaid talu.

I gael manylion am gostau, cysylltwch â’r Hwb - Bioimaginghub@cardiff.ac.uk

Cyn defnyddio’r offer yn yr Hwb, mae rhaid i bob defnyddiwr gael hyfforddiant a chael eu cofrestru gan staff yr Hwb Bioddelweddu.

Er mwyn cydymffurfio gyda Pholisi Iechyd a Diogelwch Prifysgol Caerdydd, mae’n ofynnol bod unigolion yn derbyn hyfforddiant priodol cyn defnyddio offer delweddu yr Hwb Bioddelweddu a bod yn effro i’r risgiau sy’n ymwneud â’u defnyddio.

Mae disgwyl i bawb sy’n defnyddio’r Uned Bioddelweddu ddilyn y canllawiau canlynol. Bydd y rheiny nad ydynt yn cydymffurfio yn colli eu hawliau mynediad:

  • Dim bwyd na diod yn y cyfleuster.
  • Ewch ag unrhyw wastraff gyda chi (gan gynnwys menig labordy) a chewch wared arno’n briodol y tu allan i'r cyfleuster – dydyn ni ddim yn gyfrifol am eich gwastraff.
  • Mae perygl ichi faglu o adael cotiau a bagiau ar lawr yr ystafelloedd delweddu tywyll. Defnyddiwch fachau ar y drysau mewnol, neu gwell fyth, peidiwch â dod a nhw i'r cyfleuster.
  • Peidiwch â defnyddio offer dydych chi ddim wedi’ch hyfforddi i'w defnyddio. Rhaid i bob defnyddiwr ddarllen yr asesiad risg priodol ar gyfer y gwaith priodol a’i ddeall.
  • Mae rhaid gwneud yn siŵr bod pob dyfais storio data USB yn glir o unrhyw feirws cyn eu defnyddio yn unrhyw un o’n systemau.
  • Ar ddiwedd eich sesiwn, sicrhewch fod y systemau’n cael eu diffodd yn gywir a’ch bod yn cofnodi eich oriau defnydd yn gywir yn y gronfa ddata.

Cysylltwch

Dr Anthony J Hayes

Email
hayesaj@cardiff.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6611

Lleoliad

E/0.05
Sir Martin Evans Building
Rhodfa'r Amgueddfa
CF10 3AX

Oriau agor

Llun i Gwener, 09:00-17:00. Am fynediad tu hwnt i’r oriau hyn, cysylltwch â swyddog gweinyddu’r cyfleuster.