Ewch i’r prif gynnwys

Cyfarwyddiadau i ddefnyddio'r Bocs Brên

Mae'r fideos ar y dudalen hon yn esbonio sut i rhedeg pob un gêm yn y Bocs Brên.

Mae gan bob fideo hyfforddi adran 'Gosod' ac 'Esbonio'. Oedwch y fideo ar ôl y rhan 'Gosod' cyn rhoi cynnig ar y chwarae'r gêm. Yna gallwch wylio'r adran 'Egluro' i'ch helpu i ddeall ystyr y canlyniadau.

Gêm Fwrdd Stroop

Fideo bwrdd stroop

Mae’r gweithgaredd hwn yn defnyddio gêm fwrdd i ddangos 'Effaith Stroop'.

Piniwch fadruddyn y cefn ar yr ymennydd

Fideo coesyn yr ymennydd

Mae’r gêm hon yn edrych ar sut mae ein hymennydd yn addasu i’r byd o’n cwmpas.

Dis Dibynadwy?

Fideo dis

Mae’r gêm hon yn edrych ar sut rydym yn defnyddio ystadegau i helpu i wneud synnwyr o ganfyddiadau ymchwil.

Ddim yn gallu cael gafael ar unrhyw ddis? Gallwch argraffu eich dis 3D eich hun yma.

Drysu Blasau

Fideo dryswch Blasau

Mae’r gweithgaredd hwn yn edrych ar sut rydyn ni’n cyfuno gwybodaeth o wahanol synhwyrau i wneud synnwyr o’r byd.

MRI Rhithwir (VR)

Fideo MRI

Dewch i brofi sut beth yw cael sgan MRI yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC).

Gwyliwch y sgan MRI rhith-wirionedd ar YouTube (bydd angen i chi ddefnyddio'r ap YouTube er mwyn creu'r profiad rhith-wirionedd).