Ewch i’r prif gynnwys

Daeareg Adeileddol ar gyfer Archwilio a Mwyngloddio (ar-lein)

Cwrs ar-lein yn cyflwyno daeareg adeileddol yng nghyd-destun archwilio a mwyngloddio, a sut i gofnodi, dadansoddi a chyflwyno data o'r craidd drilio.

Bydd y cwrs pedair wythnos hwn yn addysgu egwyddorion sylfaenol daeareg adeileddol a sut i ddadansoddi strwythurau creiddiau drilio i chi. Bydd yn pwysleisio pwysigrwydd daeareg adeileddol i'r diwydiant archwilio a mwyngloddio, ac yn dysgu hanfodion beth i'w fesur, dulliau mesur, a sut i gofnodi data.

Yr Athro Thomas Blenkinsop ddatblygodd y cwrs.

Ymrestru ar y cwrs hwn

Dyddiad dechrau Diwrnodau ac amseroedd
13 Mai 2024 Ar-lein. Yn dechrau ar 13 Mai am 09:00 BST
Ffi
£225 (cwrs ar-lein 4 wythnos)

Ar gyfer pwy mae hwn

  • daearegwyr sy’n gweithio ar brosiectau mwyngloddio ac archwilio
  • israddedigion sy’n astudio graddau daeareg ac archwilio

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Rhagolwg ar Ddaeareg Adeileddol ar gyfer Archwilio a Mwyngloddio

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, dylai’r cyfranogwyr allu gwneud y canlynol:

  • disgrifio’n glir pam mae dadansoddi adeileddol mor bwysig i archwilio mwynol
  • adnabod ffurfiannau’r mathau mwyaf cyffredin o adeileddau a geir mewn cerrig wedi’u hanffurfio
  • disgrifio gweithdrefnau drilio sylfaenol a’r cyfyngiadau posibl ar weithio gyda chreiddiau drilio
  • gwybod am y gwahanol offer a ddefnyddir i fesur adeileddau mewn creiddiau drilio
  • adnabod a mesur nodweddion adeileddol mewn creiddiau drilio
  • cofnodi, cyflwyno a dadansoddi’r data’n hyderus
  • cysylltu adeileddau â rheolyddion tebygol ar gyrff mwynol

Pynciau dan sylw

  • geometreg a ffurfiant adeileddau mewn cerrig wedi’u hanffurfio
  • adeileddau a welir mewn creiddiau drilio
  • cyflwyniad i ddrilio a chyrff mwynol
  • mesuriadau adeileddol ar gyfer creiddiau drilio
  • dull systematig ac unedig ar gyfer mesur adeileddau planar a llinol
  • cofnodi, dadansoddi a chyflwyno mesuriadau adeileddol o greiddiau drilio

Offer

Ni fydd angen unrhyw offer arbenigol arnoch ond bydd rhaid i chi gael mynediad at gyfrifiadur gyda chyswllt gwe cyflymder uchel.

Cyflwyniad

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno’n gyfan gwbl ar-lein.

  • bydd cyfranogwyr yn defnyddio erthyglau wedi’u darlunio, fideos, cwisiau a fforwm trafod ar-lein
  • bydd sesiwn fyw yn cael ei threfnu yn ystod y cwrs, a fydd yn cael ei harwain gan yr Athro Tom Blenkinsop. Bydd hon hefyd ar gael fel recordiad
  • mae pob wythnos yn cynnwys 13-15 o weithgareddau a ddylent gymryd 10 i 20 munud yr un
  • bydd y fforwm ar-lein yn galluogi cyfranogwyr i drafod cwestiynau â’i gilydd a thiwtor, heb amserlen gyfyngedig. Bydd tiwtor yn ymateb i gwestiynau penodol ymhen 72 awr fan hwyraf. Anogir y cyfranogwyr i ddefnyddio’r fforwm ar-lein i gyflwyno eu profiadau mewn mannau penodol yn y cwrs

Manteision

Nid yw’r wybodaeth a gyflwynir yn y cwrs hwn ar gael yn gynhwysfawr gan ffynonellau eraill.

Mae’r cwrs hwn wedi’i ddatblygu gan yr Athro Tom Blenkinsop, academydd yn ein Hysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd. Mae gan Tom 30 mlynedd o brofiad o ddadansoddi adeileddol. Mae llawer o hyn wedi’i gynnal yng nghyd-destun ymgynghori ynghylch problemau gyda mwyneiddio hydrothermol ar gyfer cwmnïau mwyngloddio mawr.

Drwy’r profiad hwn, mae wedi datblygu dull unedig a systematig o ddadansoddi adeileddol, sy’n cynnwys dulliau newydd a syml o ddelio ag adeileddau fel llinelliadau, plygiadau a pharthau croeswasgu.

Mae'r fethodoleg wedi'i hamlinellu yn Daeareg Adeileddol Diwydiannol: Egwyddorion, Technegau ac Integreiddio.*

Mae’r cwrs hwn yn addysgu sut i weithredu’r dull ar lefel ymarferol.

*Blenkinsop, T. O. M., Doyle, M., a Nugus, M. (2015). A unified approach to measuring structures in orientated drill core. Yn Richards, F. L., Richardson, N. J., Rippington, S. J.,Wilson,R.W.&Bond, C. E. (golygwyr) Industrial Structural Geology: Principles, Techniques and Integration. Y Gymdeithas Ddaearegol, Llundain, Cyhoeddiadau Arbennig, 421.

Cynigiwn borth i fusnesau fanteisio ar yr ystod eang o arbenigedd sydd ym Mhrifysgol Caerdydd.