Ewch i’r prif gynnwys

Gofal lliniarol wrth y drws ffrynt

Mae nifer y bobl a chanddynt anghenion gofal lliniarol sy'n ceisio cyrchu gwasanaethau gofal heb eu trefnu a gofal brys yn cynyddu o ganlyniad i amrywiaeth o resymau cymhleth. Daw hyn â heriau i dimau gwasanaethau brys, sydd angen rheoli'r symptomau a'r problemau, yn ogystal â chael sgyrsiau sensitif a gwneud penderfyniadau yn gyflym.

Mae gofal lliniarol wrth y drws ffrynt yn rhan o gyfres 'wrth y drws ffrynt' (‘at the front door’). Digwyddiadau DPP a ddarperir gan dîm DPP Prifysgol Caerdydd yw’r rhain, ac maent yn adeiladu ar bortffolio o gyrsiau byr sy’n ymwneud â gofal lliniarol.

Nod y digwyddiad DPP hwn yw tynnu sylw at strategaethau i reoli a chefnogi unigolion a chanddynt anghenion gofal lliniarol cyffredin sy’n ceisio cyrchu gwasanaethau gofal brys a gofal heb ei drefnu. Bydd yn rhoi sgiliau ychwanegol i’r cyfranogwyr i’w cynorthwyo i gyfathrebu mewn sefyllfaoedd o’r fath.

Ar gyfer pwy mae hwn

Mae'r cwrs hwn yn addas i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a pharafeddygon sy'n gweithio ym maes gofal brys neu heb ei drefnu, neu ochr yn ochr â’r gwasanaethau hyn. Ceir croeso i bob aelod o'r tîm amlddisgyblaethol.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Bydd mynd ar y cwrs yn eich galluogi i ddeall y dystiolaeth bresennol ynghylch cleifion ag anghenion gofal lliniarol sy’n ceisio cyrchu gwasanaethau gofal heb ei drefnu, y patrymau atgyfeirio a nodweddion cyffredin yr achosion hyn. Byddwn yn trafod strategaethau cymorth a rheoli ar gyfer yr achosion mwyaf cyffredin, yn ogystal â strategaethau defnyddiol i wella sgiliau cyfathrebu, wedi'u haddasu ar gyfer y cyd-destun hwn lle mae pethau’n symud yn gyflym.

Pynciau dan sylw

Tystiolaeth o anghenion gofal lliniarol unigolion a welir mewn adrannau brys a gafwyd o'r lenyddiaeth a chan Wasanaeth Ambiwlans Cymru, a'r ymateb presennol i anghenion gofal lliniarol.

Y profiad o reoli anghenion gofal lliniarol 'wrth y drws ffrynt'.

Pecynnau cymorth ar gyfer rheoli symptomau, anfon pobl adref a sgiliau cyfathrebu.

Amserlen

08:45Cofrestru.
09:00

Cyflwyniad i’r diwrnod.

TYSTIOLAETH Beth yw sylfaen y dystiolaeth am anghenion gofal lliniarol cleifion sy'n dod i Adrannau Achosion Brys?

09:45TYSTIOLAETH Pam mae pobl ag anghenion gofal lliniarol yn ceisio cyrchu’r Gwasanaethau Brys? Profiad Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
10:30YMARFER Profiad adrannau achosion brys o reoli anghenion gofal lliniarol.
11:00Egwyl am goffi.
11:15GWEITHDY Pecyn cymorth rheoli symptomau.
12:00GWEITHDY Pecyn cymorth ar gyfer y rhai sydd yn barod i fynd adref.
12:30GWEITHDY Sgiliau cyfathrebu ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes mewn sefyllfaoedd brys — pecyn cymorth.
13:00Gwerthuso a chloi.

Manteision

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn meddu ar wybodaeth am y canlynol:

  • y rhesymau arferol pam fod cleifion ag anghenion gofal lliniarol yn ceisio cyrchu gofal heb ei drefnu/ brys
  • sut i reoli unigolion a chanddynt anghenion gofal lliniarol yn effeithiol ac yn briodol mewn adrannau achosion brys/gofal heb ei drefnu
  • datblygu sgiliau cyfathrebu arferol er mwyn cael yr effaith fwyaf posibl yn y lleoliad hwn

Dull cyflwyno

Mae'r cwrs yn cael ei arwain gan aelodau staff adrannau gofal heb ei drefnu a gofal brys, gofal lliniarol a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

The course is led by members of the unscheduled and emergency care departments, palliative care and the Welsh ambulance service.

Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau hyfforddiant meddygol, byr, gan gynnwys Cyflwyniad i Ddermoscopi a Gofal Lliniarol.