Ewch i’r prif gynnwys

Cyfraith wrth y Drws

Yn cael ei gynnal mewn cydweithrediad â'r Gwasanaeth Amddiffyn, nod y cwrs hwn yw mynd i'r afael â rhai o'r sgiliau ymarferol sylfaenol sydd eu hangen ar feddygon ar bob cam o'u hymarfer clinigol, megis ysgrifennu datganiadau crwner a rheoli cwynion yn effeithiol, yn ogystal â rhoi sylw i rai o egwyddorion craidd esgeulustod clinigol a'r broses Ardystio Marwolaeth, fel y gellir gwneud y prosesau a'r llwybrau hanfodol hyn yn fwy eglur.

Er y bydd meddygon yn wynebu heriau meddygol-gyfreithiol rheolaidd trwy gydol eu gyrfaoedd, ychydig o hyfforddiant sy'n bodoli yn yr ysgol feddygol. Gall enghreifftiau meddygol-gyfreithiol gymryd sawl ffurf, er enghraifft cymhwyso deddfwriaeth berthnasol i ymarfer clinigol, rheoli cyfyng-gyngor moesegol a chyfreithiol, ateb pryderon a chwynion, cynorthwyo'r Crwner i ysgrifennu datganiadau, a rhoi tystiolaeth neu fod yn rhan o’r broses esgeulustod clinigol.

Ni fydd llawer o feddygon yn ymwneud â rheoli digwyddiadau difrifol, cwynion nac achosion Crwner nes eu bod yn cyrraedd lefel ymgynghorwyr, ac ar yr adeg honno, gellir cael tybiaethau eu bod yn hyddysg yn y sgiliau hynny, er gwaetha’r ffaith mai cyfyngedig oedd yr hyfforddiant oedd ar gael yn y maes. Gall hyn achosi pryder a gorbryder diangen.

Nod y cwrs hwn yw cynyddu sgiliau a hyder wrth gymhwyso theori meddygol-gyfreithiol i senarios bob dydd.

Ymrestru ar y cwrs hwn

Dyddiad dechrau Diwrnodau ac amseroedd
22 Mai 2024 09:00 - 17:30
Ffi
£65

Ar gyfer pwy mae hwn

Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer pob meddyg ar unrhyw lefel, o fyfyrwyr meddygol i hyfforddai a meddygon teulu/ymgynghorwyr, sy'n teimlo y byddent yn elwa o arbenigedd meddygol-gyfreithiol a sgiliau ymarferol.

Mae'r hyfforddiant diwrnod o hyd hwn yn digwydd wyneb yn wyneb a bydd yn cael ei gyflwyno trwy ddarlithoedd a sesiynau gweithdy llai i hyrwyddo rhagor o drafodaeth a phrofiadau a rennir rhwng y sawl sy’n bresennol.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Mae'r cwrs undydd hwn wedi'i gynllunio ar gyfer meddygon ar bob lefel beth bynnag fo’u profiad. Byddwn yn ymdrin â'r sgiliau ymarferol sylfaenol sydd eu hangen i leihau risgiau mewn ymarfer bob dydd. Nod y cwrs hwn yw rhoi gwell dealltwriaeth i ddysgwyr o senarios meddygol-gyfreithiol, yn ogystal â sut y gall eich Sefydliad Amddiffyn Meddygol gefnogi ymarferwyr.

Pynciau dan sylw

  • y gwir am ymchwiliadau’r Cyngor Meddygol Cyffredinol a’r prosesau sy’n sail iddynt
  • cyflwyniad i’r canllawiau newydd ar ymarfer meddygol da ar gyfer 2024
  • deall peryglon y cyfryngau cymdeithasol yn y proffesiwn meddygol
  • goroesi’r broses ddisgyblu
  • gweithdai ar sgiliau ymarferol megis ysgrifennu myfyrdodau, ysgrifennu adroddiadau a datganiadau meddygol-gyfreithiol yn achos ymchwiliadau i ddigwyddiadau difrifol / yr Ombwdsman

Manteision

Erbyn diwedd y cwrs, dylai myfyrwyr meddygol a meddygon fod â gwybodaeth feddygol-gyfreithiol sylfaenol fydd o gymorth iddynt wrth ymwneud â thasgau ymarferol ac yn helpu i leihau pryder wrth wynebu cyfyng-gyngor meddygol-gyfreithiol.

Mae'r cwrs yn un wyneb yn wyneb; bydd hyn yn caniatáu trafodaethau a rhannu syniadau/heriau gyda chyfoedion.

Lleoliad

Adeilad Morgannwg
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA

Rydym yn cynnig ystod eang o gyrsiau hyfforddiant meddygol, byr, gan gynnwys Cyflwyniad i Ddermoscopi a Gofal Lliniarol.