Hanfodion Ymchwiliadau Delweddu Diagnostig ar gyfer Atgyfeirwyr Anfeddygol
Cyflwynir y cwrs hwn gan y tîm Radiograffeg a Delweddu Diagnostig (DRI) yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. Nod y cwrs yw rhoi'r wybodaeth arbenigol sydd ei hangen ar weithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd i atgyfeirio pobl ar gyfer ymchwiliadau delweddu diagnostig.
Nod y cwrs hwn yw rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar atgyfeirwyr anfeddygol i allu gofyn am ddelweddu diagnostig yn unol â gofynion IR(ME)R 2024, Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd lleol.
Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gwblhau'r ffurflen isod.
Cofrestru eich diddordebAr gyfer pwy mae hwn
Unrhyw weithwyr Gofal Iechyd cofrestredig sydd angen gofyn am ddelweddu fel rhan o'i rôl.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r wybodaeth arbenigol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol atgyfeirio pobl ar gyfer archwiliadau delweddu diagnostig sy'n berthnasol i'w maes ymarfer.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
Bydd gan y rhai sy'n cwblhau'r cwrs ddealltwriaeth o:
- ffurfio delweddau
- ansawdd delweddau
- dulliau delweddu
- ystyriaethau moesegol a chyfreithiol
- archwilio a llywodraethu clinigol
- canllawiau delweddu cenedlaethol a lleol
Pynciau dan sylw
Mae'r rhaglen ddysgu o hyd hon yn ymwneud â dulliau delweddu, manteision gwahanol ddulliau, risgiau sy'n gysylltiedig â delweddu, defnyddio Systemau Archifo Lluniau a Chyfathrebu (PACS) a deddfwriaeth berthnasol, yn enwedig Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Datguddiadau Meddygol) 2024, ac mae arholiad amlddewis i brofi cymhwysedd. Daw'r cwrs i ben gyda sesiwn yn seiliedig ar senario er mwyn dangos cymhwysedd.
Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno wyneb yn wyneb yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.