Forensic Radiography study day (IAFR members)
Bydd y diwrnod astudio hwn yn rhoi cipolwg ar fyd Meddygaeth Fforensig, gan gynnwys rôl ategol Delweddu Radiolegol, yn y presennol a’r dyfodol.
Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gwblhau'r ffurflen isod.
Cofrestru eich diddordebAr gyfer pwy mae hwn
Mae’r trefniant hwn yn cadw lle ar gyfer aelodau'r IAFR (Cymdeithas Ryngwladol y Radiograffwyr Fforensig) yn unig.
Mae’r Diwrnod Astudio yn targedu Radiograffwyr Diagnostig yn bennaf ond mae’n agored i unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol allai fod â diddordeb mewn Meddygaeth Fforensig a Delweddu Radiolegol.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
Bydd y Diwrnod Astudio cydweithredol unigryw hwn yn rhoi’r cyfle i gynrychiolwyr wrando ar siaradwyr o feysydd Meddygaeth Fforensig, Ffotograffiaeth Fforensig, Delweddu Radiolegol, ynghyd â’r Heddlu a Gwasanaethau Cyfreithiol.
Bydd y prif ddarlithoedd yn cwmpasu rôl delweddu radiolegol ar gyfer cefnogi Meddygaeth Fforensig, CT a’r awtopsi rhithwir, Radiograffeg delweddu pwrpasol a ffotograffiaeth Fforensig.
Bydd siaradwyr gwadd sy’n cynrychioli, Radioleg, Gwasanaethau’r Heddlu a Phatholeg yn galluogi cynrychiolwyr i adael y Diwrnod Astudio chryn dipyn o wybodaeth am gyd-destun ehangach ymchwiliadau fforensig.
Pynciau dan sylw
- meddygaeth fforensig
- awtopsi CT
- radiograffeg delweddu pwrpasol
- ffotograffiaeth fforensig
- ymchwiliad gan yr heddlu