Ewch i’r prif gynnwys

Protocolau Ystafell Lân (ar-lein)

Mae'r cwrs hwn yn rhoi trosolwg o sut beth yw gweithio mewn amgylchedd ystafell lân ar gyfer cynhyrchu nanoraddfa. Mae'n ymdrin ag arferion gwaith nodweddiadol yn ogystal ag egwyddorion cyffredinol ar gyfer gweithio'n ddiogel.

Mae hwn yn gwrs ar-lein y gallwch ei wneud yn eich amser eich hun. Bydd yr hyfforddiant yn cymryd tua awr i'w gwblhau.

Bydd yn cael ei gyflwyno trwy amrywiaeth o weithgareddau ar-lein a rhyngweithiol megis fideos byr ac ymarferion i brofi eich gwybodaeth.

Sylwer: Dim ond gyda cherdyn credyd y gallwn dderbyn taliad ar gyfer y cwrs hwn. Byddwch yn derbyn mynediad at ddeunyddiau'r cwrs heb fod yn hwyrach nag wythnos ar ôl gwneud taliad. Bydd gennych fynediad am 1 mis o'r dyddiad y byddwch yn cyrchu'r deunyddiau dysgu am y tro cyntaf.

Dr Daniel Wang, Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) fydd eich hyfforddwr.

Ymrestru ar y cwrs hwn

Dyddiad dechrau Diwrnodau ac amseroedd
29 Ebrill 2024 Cwrs ar-lein 1 awr i'w gymryd yn eich amser eich hun
Ffi
£45 (byddwch yn derbyn mynediad at ddeunyddiau'r cwrs heb fod yn hwyrach nag wythnos ar ôl gwneud taliad)

Ar gyfer pwy mae hwn

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sy'n newydd i'r diwydiant lled-ddargludyddion, neu'r rhai sy'n ystyried gyrfa yn y sector.

Bydd hwn yn arbennig o berthnasol i weithwyr y clwstwr CSconnected a phartneriaid y gadwyn gyflenwi yn ogystal â'r rhai sy'n gweithio i gwmnïau ledled y byd mewn amgylcheddau ystafell lân ar gyfer cynhyrchu nanoraddfa.

Gallai hefyd fod yn berthnasol ar gyfer myfyrwyr ysgol uwchradd/coleg AB ac athrawon/pobl sy’n gweithio gydag ieuenctid sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am weithgynhyrchu ystafell lân.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Mae cynnwys y cwrs hwn yn ymwneud ag ystafelloedd glân ar gyfer cynhyrchu nanoraddfa.

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch chi’n gallu:

  • disgrifio'r gwahanol ddosbarthiadau o gyfleusterau ystafell lân, o ISO1-9 a'r rhai cyfatebol
  • esbonio pam fod angen ystafelloedd glân a pham mae gwahanol fathau o ystafelloedd glân ar gael
  • deall sut mae ystafell lân nodweddiadol yn gweithio
  • gwybod yr egwyddorion cyffredinol sydd eu hangen i fynd i mewn a gweithio mewn amgylchedd ystafell lân
  • egluro pam mae'r egwyddorion hynny'n bwysig
  • disgrifio risgiau iechyd a diogelwch cyffredinol gweithio mewn ystafell lân arferol
  • gwybod sut i liniaru risgiau iechyd a diogelwch cyffredinol a delio â digwyddiadau diogelwch cyffredinol

Pynciau dan sylw

Mae cynnwys y cwrs hwn yn ymwneud ag ystafelloedd glân ar gyfer cynhyrchu nanoraddfa:

  • safonau dosbarthu rhyngwladol ystafell lân
  • yr amrywiaeth o ystafelloedd glân y mae gwahanol sefydliadau'n gweithredu ynddynt
  • yr hyn y mae'r gwahanol ddosbarthiadau'n ei olygu o ran arferion gwaith nodweddiadol
  • egwyddorion cyffredinol gweithio mewn amgylchedd ystafell lân, gan gynnwys:
    • sut i wisgo’r dillad yn gywir
    • sut i fynd i mewn i'r ystafell lân yn gywir
    • sut i lanhau offer yn gywir
    • ymddygiad disgwyliedig
    • sut i weithio mewn ffordd lân
  • llif aer yr ystafell lân a'r broses hidlo
  • risgiau iechyd a diogelwch cyffredinol o weithio mewn amgylchedd ystafell lân, gan gynnwys sut i weithio'n ddiogel gyda gwahanol gemegau
  • delio â digwyddiadau iechyd a diogelwch cyffredinol, megis gollyngiadau cemegol a larymau nwy/tân

Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'w gwblhau yn eich amser eich hun ac ar gyflymder sy’n addas i chi. Nid oes elfen fyw ond byddwch yn cael cyfle i gysylltu â'r tiwtor arweiniol. Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy blatfform dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog. Bydd eich manylion mewngofnodi unigol yn cael eu ebostio atoch ychydig ddyddiau cyn i'ch mynediad at y cwrs ddechrau.

Bydd gennych fynediad at ddeunyddiau'r cwrs am hyd at fis.

Bydd Tystysgrif Cwblhau DPP yn cael ei rhoi i ddysgwyr sy'n cyflawni 70% neu ragor yn y prawf ar ddiwedd y cwrs.

Manteision

Datblygwyd y cwrs hwn gan y Brifysgol mewn cydweithrediad â phartneriaid diwydiant o'r clwstwr CSconnected, clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd sydd wedi'i leoli yn Ne Cymru a'r cyffiniau yn y Deyrnas Unedig, gan ddefnyddio cyllid a ddarparwyd gan Gronfa Cryfder mewn Lleoedd UKRI.