Ewch i’r prif gynnwys

Efelychu Galaethau yn rhifiadol

Problem gymhleth iawn yw sut mae’r galaethau wedi ymffurfio a’r ffordd maen nhw wedi esblygu. Mae hyn yn hynod o gysylltiedig ag esblygiad y Bydysawd ei hun ar y raddfa fawr, yn ogystal ag ymffurfiad ac esblygiad y biliynau bychain bach o sêr yn y galaethau eu hunain.

Mae'r ymwneud agos hwn yn rhychwantu sawl ffordd o ystyried maintioli o ran dwysedd, graddfeydd ac amser, sy’n golygu mai’r ymwneud hwn yw un o'r pynciau mwyaf heriol ym maes astroffiseg.

Yng Nghaerdydd, rydyn ni’n defnyddio efelychiadau rhifiadol arepo o alaethau sy’n deillio o efelychiadau cosmolegol, a hynny er mwyn dilyn a deall y ffordd maen nhw’n ymffurfio, yn tyfu ac yn esblygu, yn ogystal â'u dibyniaeth ar eu hamgylchedd rhyng-galactig lleol. Rydyn ni hefyd yn cynnal efelychiadau rhifiadol pwrpasol o alaethau sbiral unigol cyfagos, gan ddefnyddio lefelau o eglurdeb uchel iawn, er mwyn canfod ffiseg fanwl y broses o sêr yn ymffurfio (ar raddfeydd is-barsec) mewn cyd-destun galaethol ar raddfa fawr.

Dr Freeke van de Voort

Dr Freeke van de Voort

Royal Society University Research Fellow & Lecturer
Cardiff Hub for Astrophysics Research and Technology

Email
vandevoortf@caerdydd.ac.uk