Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogi staff a myfyrwyr

Mae ein staff a’n myfyrwyr yn cael cyfoeth o gefnogaeth werthfawr i’w helpu i gyflawni eu potensial.

Datblygu Staff

Rydym yn cefnogi ein staff yn gryf i gyflawni hyd eithaf eu potensial, ac yn eu hannog, beth bynnag yw eu gradd neu eu llwybr gyrfa - i fanteisio ar ystod eang o hyfforddiant ar gyfer eu datblygiad proffesiynol a phersonol. Mae llwybrau cynnydd clir i academyddion ar gyfer llwybrau gyrfa Addysgu ac Ymchwil, ac Addysgu ac Ysgolheictod, ac mae pob aelod o staff yn cael arfarniad blynyddol trwy ein proses Adolygu Perfformiad a Datblygiad.

Cynlluniau staff

Rydym ni’n rhedeg sawl cynllun i hybu datblygiad staff:

Darlithoedd Disglair

Cefnogi academyddion ar ddechrau eu gyrfa sydd am fod yn ddarlithwyr trwy roi profiad o fod yn ddarlithydd Prifysgol amser llawn am 18 mis, ynghyd â hyfforddiant penodol ar arweinyddiaeth.

Dyfodol Caerdydd

Cefnogi academyddion ar ddechrau eu gyrfa i ddatblygu ac archwilio sut gallen nhw gyfrannu at ffurfio dyfodol ein Prifysgol, gan hybu gwaith ar y cyd ar draws disgyblaethau.

Rhaglen Arweinyddiaeth Athrawol

Cefnogi staff athrawol sydd newydd eu dyrchafu neu eu penodi i gaffael a datblygu’r ddealltwriaeth a’r sgiliau sy’n berthnasol i’w rolau arweinyddiaeth academaidd.

Ymgysylltu â’r cyfryngau

Mae arbenigwyr yr Ysgol ar Ymgysylltu â’r Cyhoedd yn rhoi cyflwyniad blynyddol ar ymgysylltu â’r cyfryngau i gefnogi staff sy’n gyfrifol am y gwaith hwnnw.

Cefnogaeth i Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa

Mae cyfoeth o gefnogaeth yn cael ei darparu ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, i’w helpu i ymsefydlu yn eu rôl, i gael hyd i gyllid, ac i ddatblygu cyfleoedd gyrfa. Mae’r gefnogaeth hon yn cynnwys:

  • mentora
  • mynediad i’n llyfrgell o geisiadau am grantiau
  • rhoi darlithoedd gwadd
  • cefnogi trefnu modiwlau
  • ymwneud â’r strategaeth ymchwil ac arweinyddiaeth
  • cefnogaeth wrth ymgeisio am gymrodoriaethau
  • cyfweliadau ffug
  • cyllid cychwynnol
  • ysgoloriaethau PhD.

Mae fforwm Staff Ymchwil yn bodoli er mwyn rhannu profiadau, cyfleoedd, ac anawsterau, ac mae staff ymchwil hefyd yn aelodau o bwyllgorau Ymchwil a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad (ED&I) yr Ysgol.

Lles staff

Ffurfiwyd Grŵp Lles Staff y Brifysgol ym mis Ionawr 2018 i gefnogi a hyrwyddo strategaeth lesiant ar draws ein Prifysgol. Ochr yn ochr â hynny, mae’r Ysgol wedi rhoi ystod o fentrau ar waith i gefnogi staff a chyfrannu at eu lles, (e.e. cyfarfodydd staff anffurfiol, dim cyfarfodydd ar ddydd Gwener a diwrnodau llesiant, Pwyllgor Digwyddiadau Cymdeithasol, adnewyddu ardaloedd ymgynnull, a gwelliannau ergonomaidd i gelfi swyddfa).

Datblygiad a lles myfyrwyr

Fel prifysgol, rydym ni’n darparu cefnogaeth gynhwysfawr i’n holl fyfyrwyr, ac fel Ysgol, rydym ni’n adeiladu ar hynny trwy ddarparu amgylchedd dysgu cyfeillgar, cefnogol i’n myfyrwyr. Ein nod yw darparu sylfaen drylwyr o ran egwyddorion ffiseg a seryddiaeth trwy herio ein myfyrwyr i ddatrys problemau ymarferol a dyfnhau eu dealltwriaeth o wyddoniaeth, gan gyfleu cyffro a phwysigrwydd cyffredinol y pwnc i’r gymdeithas a’r gymuned ehangach.

Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd cadarn y Brifysgol yn cynnwys gwasanaeth penodol ar gyfer ein Hysgol ni, ac mae’n darparu cefnogaeth wyneb yn wyneb ac ar-lein i sicrhau bod modd i’n myfyrwyr gael mynediad at gyngor, profiad a chyflogwyr i roi hwb i’w rhagolygon gyrfa.

Rydym ni’n cynnal Pwyllgor Ôl-raddedigion, yn darparu Cyswllt Anabledd i Ôl-raddedigion, ac yn gwahodd pob myfyriwr i fynychu cyfarfodydd a digwyddiadau sydd i’r holl staff. Mae Modiwl Cymorth Ymchwil Ôl-raddedig ar-lein yn cael ei ddarparu i roi arweiniad ar adolygiadau cynnydd, cyflwyno thesis, amgylchiadau esgusodol, iechyd a diogelwch, llesiant, a dyletswyddau cynorthwy-ydd addysgu.

Mae myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig hefyd yn cael eu cefnogi gan Academi Ddoethurol y Brifysgol, sy’n darparu datblygiad sgiliau ymchwil a sgiliau personol, yn ogystal ag amrywiaeth o ddigwyddiadau cymunedol rhyngddisgyblaeth a chyfleoedd i gael cyllid.