Ewch i’r prif gynnwys

Israddedig

Bydd ein rhaglenni MOptom yn rhoi'r wybodaeth wyddonol a chlinigol i chi gofrestru yn optometrydd gyda'r Cyngor Optegol Cyffredinol.

Sesiwn ymarferol israddedig
Sesiwn ymarferol israddedig

Rydym yn cynnig rhaglenni gradd pedair a phum mlynedd sy'n arwain at gael gradd MOptom mewn Optometreg. Nod y ddau gwrs yw darparu'r sgiliau clinigol gofynnol i chi i sicrhau bod anghenion gofal sylfaenol y cyhoedd yn cael eu diwallu i'r safon uchaf.

Byddwch yn dod yn gyfarwydd â sawl agwedd ar ofal optometrig, gan gynnwys archwiliadau llygaid cyffredinol, dosbarthu sbectolau, ffitio lensys cyffwrdd, anhwylderau golwg deulygad, golwg gwan, cyflyrau lliwiau annormal, ac optometreg bediatrig.

Cyflogadwyedd

Fel optometrydd cymwysedig, bydd gennych amrywiaeth eang o opsiynau gyrfaol i chi gyda chyfleoedd gwych i gynyddu. Mae ymarfer preifat, gwasanaeth llygaid yr ysbyty, addysgu, ac ymchwil yn rhai o'r gyrfaoedd sydd ar gael i raddedigion optometreg. Mae cofrestru hefyd yn agor posibiliadau i weithio dramor gan fod cymhwyster Optometreg o'r DU yn uchel ei barch yn fyd-eang.

Mae angen offer arbenigol er mwyn astudio'r BSc Optometreg.