Ewch i’r prif gynnwys

Gweithio gyda’r gymuned

UCAN

Mae gweithio gyda chymunedau lleol, byd-eang a difreintiedig yn rhan o bwy ydym ni. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymuned, drwy hyrwyddo a gwella gofal llygaid i'r cyhoedd.

Mae hyn yn golygu rhoi cyngor a thriniaeth i gleifion ein clinig llygaid, hyrwyddo optometreg i ddisgyblion ysgol a chydweithio gyda darparwyr gwasanaethau eraill i wella gofal llygaid. Rydym hefyd yn cydweithio gyda gwirfoddolwyr sy'n cymryd rhan mewn treialon clinigol, elfen hanfodol ar gyfer ein gwaith ymchwil.

Ein cymuned leol

Gweithio gydag ysgolion

Rydym yn gweithio gydag ysgolion uwchradd lleol i hyrwyddo disgyblaeth optometreg a phynciau gwyddoniaeth cysylltiedig eraill trwy gyflwyno cyflwyniadau, gweithdai a chyngor gyrfaoedd. Mae digwyddiadau diweddar yn cynnwys Ffair Iechyd Ysgol Fitzalan, Ffair Yrfaoedd Caerllion a Digwyddiad Gyrfaoedd Grangetown.

Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r cyrff proffesiynol, Optometreg Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i hyrwyddo optometreg fel gyrfa.

Os hoffech i aelod o staff neu fyfyriwr siarad yn eich ysgol, cysylltwch â ni yn optomadmissions@cardiff.ac.uk.

UCAN (Unique Creative Arts Network)

Rydym yn falch o gynnal Cynyrchiadau UCAN, cwmni perfformio creadigol a chydweithredol ar gyfer plant dall a rhannol ddall, pobl ifanc a'u ffrindiau.

I anrhydeddu Dr Maggie Woodhouse, ein hymchwilydd arloesol wnaeth arwain y ffordd yng ngofal iechyd llygaid pobl gyda Syndrom Down, lansiodd UCAN Glwb Maggie's yma yn 2012.

Digwyddiadau

Rydym yn cynnal digwyddiadau gofal llygaid yn aml fel Cynhadledd Cymru a'r Gorllewin, cyfarfodydd Congres Brydeinig Optometreg a Gwyddorau'r Golwg a Chynhadledd Flynyddol Gofal Llygaid Cymru.

Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau rydym ni'n eu cynnal, cysylltwch â ni ar +44 (0)29 2087 4374 neu optomschooloffice@cardiff.ac.uk.

Gwaith rhyngwladol

Mae nifer o'n myfyrwyr wedi gweithio i elusen Vision Aid Overseas yn Zambia, diolch i gynllun bwrsariaeth wedi ei sefydlu gan Irvine Aitchison, un o sefydlwyr Dollond & Aitchison. Mae'n myfyrwyr wedi gweithio ochr yn ochr ag optometryddion cymwysedig i ddarparu gwasanaethau allgymorth angenrheidiol mewn cymunedau lleol gwledig gan gynnwys hyfforddi nyrsys lleol a gweinyddu sbectolau i gleifion.

Ar ôl dwy flynedd yn Zambia, gallaf werthfawrogi bellach pa mor werthfawr yw ein gwasanaethau optegol yma yn y DU. Gwelais batholeg na welwyd adref, enillais well dealltwriaeth o driniaethau a datblygais fy sgiliau fferyllol.

Ciara Hankins Myfyriwr Bwrsariaeth IAMF, 2013