Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn sicrhau tair Cymrodoriaeth Turing

21 Mawrth 2024

Tri ffotograff o Gymrodyr Turing Prifysgol Caerdydd – yr Athro Monjur Mourshed, Dr Jenny Kidd a’r Athro Steven Schockaert (o’r chwith i’r dde)
O’r chwith i’r dde: Yr Athro Monjur Mourshed, Dr Jenny Kidd a’r Athro Steven Schockaert yw Cymrodyr Turing cyntaf Prifysgol Caerdydd ar ôl i’r sefydliad ddod yn rhan o Rwydwaith Prifysgolion Turing yn 2023

Mae tri o ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi’u penodi’n Gymrodyr Turing gan Sefydliad Alan Turing – sefydliad cenedlaethol y DU ar gyfer deallusrwydd artiffisial a gwyddor data.

Mae’r Athro Monjur Mourshed, yr Athro Steven Schockaert a Dr Jenny Kidd yn rhan o garfan newydd o 51 o Gymrodyr Turing sy’n dod o brifysgolion a chanolfannau ymchwil ledled y DU.

Y tri ohonynt yw Cymrodyr Turing cyntaf Prifysgol Caerdydd ar ôl i’r Brifysgol ymuno â Rhwydwaith Prifysgolion Turing yn 2023.

Nod cynllun Cymrodoriaethau Turing yw tyfu ecosystem gwyddor data a deallusrwydd artiffisial y DU drwy gefnogi, cadw a datblygu gyrfaoedd y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr blaenllaw, a hynny wrth gyfrannu at nodau strategol cyffredinol Sefydliad Alan Turing.

Mae diddordebau ymchwil y cymrodyr newydd yn cynnwys popeth o astudiaethau esblygiadol, geneteg ddynol, cyfiawnder ynni a dyfodol dinasoedd i golli bioamrywiaeth.

Mae’r Athro Mourshed yn arbenigwr ym maes peirianneg gynaliadwy yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd.

Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar integreiddio gwyddor data a deallusrwydd artiffisial er mwyn gwella effeithlonrwydd adnoddau a’r broses datgarboneiddio adeiladau clyfar a dinasoedd hyd yr eithaf. Mae’n arbenigo mewn datblygu a gweithredu offer wedi’u pweru gan ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer rhagweld paramedrau ynni a pharamedrau amgylcheddol, cyfrannu at strategaethau sero net cenedlaethol a datblygu dulliau arloesol o greu gefeilliaid digidol cynrychioliadol o adeiladau.

Mae’r Athro Schockaert yn gweithio yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd, lle mae ei ymchwil ym maes deallusrwydd artiffisial yn canolbwyntio ar brosesu iaith naturiol, rhesymu synnwyr cyffredin, dysgu cynrychiolaeth a deallusrwydd artiffisial niwro-symbolig.

A hithau’n Ddarllenydd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, mae Dr Kidd yn gwneud ymchwil ym meysydd rhyngddisgyblaethol treftadaeth ddigidol a’r cyfryngau digidol. Mae hyn yn cynnwys ymchwilio i’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yng nghyd-destunau diwylliant a threftadaeth. Mae ei hymchwil bresennol yn canolbwyntio ar ddatblygiadau ym maes cyfryngau synthetig a chwestiynau cysylltiedig nid yn unig ynghylch ymddiriedaeth a llafur ond ar gyfer cof unigol, cyfunol a diwylliannol.

Dywedodd yr Athro Jonathan Gillard, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Mathemateg ac Arweinydd Rhwydwaith Prifysgolion Turing ym Mhrifysgol Caerdydd: “Llongyfarchiadau mawr i Monjur, Steven a Jenny ar lwyddo i sicrhau cymrodoriaethau, a hynny’n rhan o brif gynllun Sefydliad Alan Turing. Gobeithio mai nhw fydd y cyntaf o nifer o Gymrodyr Turing ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Mae’r cymrodoriaethau’n cydnabod eu harbenigedd ym meysydd deallusrwydd artiffisial, gwyddor data a’r gymdeithas ddigidol. Maen nhw hefyd yn cefnogi eu gwaith ar draws ffiniau disgyblaethol, sy’n hollbwysig i sicrhau bod ein hymchwil yn cael effaith mewn cymdeithas, yn yr economi ac yn yr amgylchedd.”

Mae’r model newydd ar gyfer Cymrodoriaethau Turing wedi’i anelu at ymchwilwyr sefydledig y mae eu diddordebau ymchwil yn cyd-fynd â blaenoriaethau Sefydliad Alan Turing ym maes gwyddoniaeth ac arloesedd, sydd i’w gweld yn strategaeth y sefydliad.

Yn ogystal â chymryd rhan yng nghymuned ymchwil ryngddisgyblaethol a chydweithredol Sefydliad Alan Turing, bydd y cymrodyr newydd hefyd yn cefnogi gwaith ym meysydd sgiliau ac ymgysylltu â’r cyhoedd.

Dywedodd yr Athro Mark Girolami, Prif Wyddonydd Sefydliad Alan Turing: “Mae’n bleser mawr gen i groesawu carfan newydd o Gymrodyr Turing o bob rhan o’n Rhwydwaith Prifysgolion i gydnabod y ffaith maen nhw yw’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr sy’n arwain y byd ym meysydd gwyddor data a deallusrwydd artiffisial (a meysydd cysylltiedig).

“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at weld ein cymuned gwyddoniaeth ac arloesedd amrywiol a bywiog yn elwa o’u cyfraniadau enfawr a’r rôl hollbwysig y byddan nhw’n ei chwarae yn y gwaith o gyflawni strategaeth Sefydliad Alan Turing, wrth i ni geisio newid y byd er gwell drwy wyddor data a deallusrwydd artiffisial.”

Penodwyd Cymrodyr Turing yn dilyn galwad agored. Rhagwelir y bydd galwad agored bob blwyddyn.

Rhannu’r stori hon

Gwybodaeth am sut y gall y Sefydliad Arloesedd Trawsnewid Digidol gynorthwyo eich gwaith.