Ewch i’r prif gynnwys

Amgueddfa cyfrifiadura retro dros dro

12 Mawrth 2024

Ffotograff o gonsol chwarae retro Dragon 32
Yn y digwyddiad ddydd Mercher, 13 Mawrth 2024 yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd, bydd y rhai sy’n bresennol yn gallu chwarae gwyddbwyll ar y consol Dragon 32 a wnaed yng Nghymru

Bydd offer cyfrifiadurol retro a thechnoleg hanesyddol gysylltiedig o’r 1960au hyd heddiw yn cael eu harddangos mewn amgueddfa dros dro ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bydd yr amgueddfa ‘byw’ yn cynnwys cyfrifiaduron, caledwedd a meddalwedd gwbl weithredol o’r holl ddegawdau.

Bydd rhwydwaith cyfrifiadurol y Brifysgol o’r gorffennol ynghyd â chaledwedd ymchwil hanesyddol a phresennol hefyd yn cael eu harddangos.

Dywedodd Laurence Semmens, trefnydd y digwyddiad a chydymaith addysgu yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg: “Canolbwynt yr arddangosfa gyfan fydd ein dewis o galedwedd o uwch-gyfrifiadur Atlas.

“Atlas oedd un o uwch-gyfrifiaduron cyntaf y byd. Roedd mewn defnydd o 1962 – pan honnwyd mai dyma oedd y cyfrifiadur mwyaf pwerus yn y byd – hyd at 1972.”

Ffotograff o galedwedd o uwch-gyfrifiadur Atlas
Dyma galedwedd o uwch-gyfrifiadur Atlas – credwyd mai dyma oedd y cyfrifiadur mwyaf pwerus yn y byd pan gafodd ei ryddhau ym 1962

Bydd y myfyriwr PhD Matthew Moloughney hefyd yn arddangos cysyniadau rhaglennu a ddefnyddiwyd yn rhan o’i ymchwil ôl-raddedig yn yr amgueddfa.

Bydd y rhai sy’n bresennol yn gallu chwarae gemau retro ar gonsolau fel Dragon 32 (a wnaed yng Nghymru), Commodore 64, Sega Mega Drive a Super Nintendo Entertainment System, gan gynnwys gemau ar gyfrifiaduron Windows.

Ychwanegodd Mr Semmens: “Rydyn ni’n clywed sôn am gemau retro’n aml pan fydd pobl wedi ailddarganfod gemau o’u plentyndod ac yn teimlo’n hiraethus.

“Mae ein hamgueddfa’n rhoi cyfle prin hefyd i edrych ar y peiriannau oedd yn pweru ein gweithleoedd, sefydliadau addysgol a chartrefi, ynghyd â’r caledwedd sylfaenol sydd wedi datblygu i ddod yn dechnoleg hollbresennol a chyfarwydd.”

Mae’r amgueddfa ar agor i’r cyhoedd ddydd Mercher, 13 Mawrth 2024 yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd, a hynny yn ystafell 0.34 yn Abacws.

Rhannu’r stori hon

Mae gan yr Ysgol, sy'n blaenoriaethu ymchwil, enw da am addysgu ardderchog a gweithgareddau ymchwil medrus rhyngwladol.