Ewch i’r prif gynnwys

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymuno â Rhwydwaith Prifysgolion Turing

22 Mai 2023

Delwedd du a gwyn o logo Rhwydwaith Prifysgolion Turing. Mae'r testun yn darllen: Aelod o Rwydwaith Prifysgolion Turing.
Mae Rhwydwaith Prifysgol Turing yn rhoi’r cyfle i holl brifysgolion y DU sydd â diddordeb ym maes gwyddor data a deallusrwydd artiffisial ymgysylltu a chydweithio â’r Sefydliad a’i rwydweithiau ehangach.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymuno â rhwydwaith o brifysgolion ledled y DU, a sefydlwyd gan Sefydliad Alan Turing, sy’n arbenigo ym maes gwyddor data a deallusrwydd artiffisial.

A hithau’n un o’r 36 o brifysgolion a ddewiswyd i fod yn rhan o Rwydwaith Prifysgol Turing, mae gan Brifysgol Caerdydd gryn gapasiti ymchwil ym maes gwyddor data a deallusrwydd artiffisial yn ei hysgolion academaidd, ei sefydliadau ymchwil arloesi a’i phartneriaethau strategol gyda byd diwydiant.

Disgwylir i gyfleoedd ymchwil ar y cyd, mynediad at gyllid, mwy byth o amlygrwydd a rhannu gwybodaeth fod ymhlith manteision bod yn aelod o’r rhwydwaith peilot a fydd yn ehangu yn nes ymlaen eleni.

Dyma a ddywedodd yr Athro Jonathan Gillard, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Mathemateg ac Arweinydd Rhwydwaith Prifysgolion Turing yng Nghaerdydd: “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gryfhau ein perthynas hirsefydlog â Sefydliad Alan Turing drwy ymuno â Rhwydwaith Prifysgolion Turing.

Mae bod yn aelod yn arwydd bod Caerdydd yn arweinydd ym maes ymchwil gwyddor data a deallusrwydd artiffisial ac mae’n dyst i’r cyfraniadau sylweddol rydyn ni wedi’u gwneud wrth ddefnyddio’r disgyblaethau hyn i fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn ym maes awtomeiddio, gofal iechyd, gweithgynhyrchu a systemau rhybuddio am beryglon naturiol ymhlith heriau eraill yma yng Nghymru, ledled y DU a thramor.

Yr Athro Jonathan Gillard

“Bydd y bartneriaeth yn ein helpu i ddatblygu’r arbenigedd hwn ymhellach yn ogystal â meithrin diwylliant o gydweithio ac arloesi ar draws rhwydweithiau ehangach y Sefydliad sy’n cynnwys prifysgolion a sefydliadau ymchwil.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld yr hyn y gallwn ni ei gyflawni gyda’n gilydd.”

Prosiect ar y cyd rhwng prifysgolion, y llywodraeth, a byd diwydiant yw Sefydliad Alan Turing, ac mae’n gweithio’n agos gyda phartneriaid o’r sectorau hyn i gyflawni ei agenda ymchwil. Mae'n darparu rhaglenni hyfforddi ac addysg ym maes gwyddor data a deallusrwydd artiffisial i helpu i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr ac ymarferwyr yn y meysydd hyn.

Mae'r rhwydwaith yn rhan hollbwysig o strategaeth newydd Sefydliad Alan Turing, sy'n anelu at newid y byd er gwell ym maes gwyddor data a deallusrwydd artiffisial.

Mae’n cefnogi’r Sefydliad i gyflawni’r tri nod uchelgeisiol sydd ganddo:

  • datblygu ymchwil o safon fyd-eang a'i defnyddio i fynd i’r afael â heriau cenedlaethol a byd-eang
  • datblygu sgiliau at y dyfodol
  • ysgogi sgwrs gyhoeddus ar sail gwybodaeth

Dyma a ddywedodd Donna Brown, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Academaidd Sefydliad Alan Turing: “Rydyn ni’n hynod o falch o allu lansio rhwydwaith newydd o brifysgolion ledled y DU sy’n arbenigo ym maes gwyddor data a deallusrwydd artiffisial drwy Rwydwaith Prifysgolion Turing.

"Mae'r rhwydwaith yn hollbwysig i gyflawni Strategaeth y Sefydliad yn llwyddiannus, mae'n grymuso’r ffaith ein bod yn gynullydd cenedlaethol ym maes gwyddor data a deallusrwydd artiffisial, ac yn creu’r cyfle i gydweithio’n ystyrlon pan fydd ein diddordebau yn cyd-fynd â’i gilydd ar draws ymchwil ac arloesi, sgiliau ac ymgysylltu."