Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu ymchwil ac arloesedd yn y Brifysgol yn nigwyddiad Ewropeaidd Dydd Gŵyl Dewi

3 Mawrth 2024

Mae'r Brifysgol wedi arddangos enghreifftiau o'i hymchwil a'i harloesedd blaenllaw mewn digwyddiad a oedd yn rhan o raglen Dydd Gŵyl Dewi Brwsel 2024 Llywodraeth Cymru.

Trefnwyd y digwyddiad gan Rwydwaith Arloesedd Cymru (RhAC) ac Addysg Uwch Cymru Brwsel gyda chymorth rhaglen Cymru Fyd-eang (a ariennir gan Taith). Y nod oedd tynnu sylw at gryfder ac ehangder yr ymchwil a’r arloesedd sy’n digwydd ym mhrifysgolion Cymru.

Roedd y digwyddiad yn pwysleisio ymroddiad Cymru i weithio gyda phartneriaid ar draws Ewrop, yn ogystal â dathlu cysylltiad y DU â rhaglen Horizon.

Dywedodd yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter: “Roedd yn wych gweld gwaith ein hymchwilwyr yn cael ei arddangos i gynulleidfa Ewropeaidd a gweld yr effaith rydym yn ei chael yng Nghymru, yn y DU ac ar draws y byd."

Nawr bod y DU yn gysylltiedig â Horizon Europe, mae'n hanfodol ein bod yn adnewyddu ein perthynas â phartneriaid Ewropeaidd, yn datblygu rhai newydd ac yn gweithio i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd y bydd y berthynas hon yn eu rhoi dros y blynyddoedd nesaf.
Yr Athro Roger Whitaker College Dean of Research
Professor of Mobile and Social Computing

Roedd prosiectau Prifysgol Caerdydd ym meysydd iechyd meddwl, lled-ddargludyddion cyfansawdd a’r amgylchedd adeiledig carbon isel yn rhan o 14 arddangosfa’r digwyddiad ochr yn ochr â phrosiectau o brifysgolion eraill Cymru.

Mewn araith i’r rhai a oedd yn bresennol, a oedd yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol, arweinwyr prifysgolion, arweinwyr meddwl yn y sector ymchwil ac arloesedd a Matthias De Moor, Cynrychiolydd Cyffredinol Fflandrys i’r UE, tynnodd Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford, sylw at barodrwydd Cymru i gymryd rhan weithredol yn Horizon Europe, gan ddefnyddio ei doniau amryfal, ei hadnoddau a’i syniadau i sbarduno mentrau ymchwil arloesol sydd o fudd i’r economi a chymdeithas.

Dywedodd:“Un o rinweddau mwyaf nodweddiadol ein prifysgolion yw pa mor dda y maent yn gwneud ymchwil yr ystyrir ei bod yn cael effaith ragorol yn rhyngwladol. Mae partneriaeth a chydweithio wrth wraidd y llwyddiant hwn – nid yw arloesedd yn digwydd ar ei ben ei hun.”

Tra bod y pandemig a Brexit wedi effeithio ar gysylltiadau byd-eang llawer o ymchwilwyr, mae prifysgolion Cymru’n parhau i fod wedi ymrwymo i gydweithio â phartneriaid Ewropeaidd. Nawr ein bod yn gwbl gysylltiedig â rhaglen Horizon Europe, mae gennym gyfle sylweddol i gryfhau partneriaethau rhyngwladol, denu doniau byd-eang a gwneud gwaith gwyddonol ac arloesol sydd ar flaen y gad, a all sicrhau manteision amlwg i gymdeithas yng Nghymru a thu hwnt.
Y Gwir Anrhydeddus Hon Mark Drakeford Prif Weinidog Cymru

Roedd y digwyddiad yn gyfle i RhAC arddangos y gwaith y mae’n ei wneud i bartneriaid Ewropeaidd. Mae RhAC yn drefniant cydweithredol arloesol rhwng prifysgolion yng Nghymru sy’n hwyluso cydweithio ar draws prifysgolion Cymru, gan harneisio amrywiaeth ymchwil ac arloesedd yng Nghymru i greu effaith economaidd a chymdeithasol ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.