Ewch i’r prif gynnwys

Arbenigedd ymchwil ac arloesi Prifysgol Caerdydd

26 Hydref 2023

Mae dau ddyn yn edrych ar ei gilydd ac yn ysgwyd llaw mewn ystafell gynadledda
Lee Walters, Media Cymru, yn cwrdd â'r Gweinidog Gwyddoniaeth George Freeman yn Lancaster House

Mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn dangos y gorau o’i phrif weithgareddau ymchwil ac arloesi mewn digwyddiad yn Llundain i ddathlu sector addysg uwch bywiog Cymru.

Ymunodd Prifysgol Caerdydd â’r wyth prifysgol arall yng Nghymru ar gyfer yr arddangosfa yn Lancaster House lle bu’r Gweinidog Gwyddoniaeth George Freeman ac Ysgrifennydd Cymru David TC Davies yn bresennol.

Diben yr 20 arddangosfa Ymchwil a Datblygu yn y digwyddiad, a drefnwyd gan Swyddfa Cymru a Rhwydwaith Arloesi Cymru, oedd dangos cryfderau Cymru ac annog buddsoddiadau parhaus ym maes ymchwil yng Nghymru.

Yn ôl yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Arloesi Ymchwil a Menter Prifysgol Caerdydd: "Mae'r digwyddiad yn cyd-fynd â chenhadaeth ddinesig fyd-eang Caerdydd i sicrhau bod ein gwaith yn cael effaith gadarnhaol ar y gymdeithas a'n bod mewn sefyllfa dda i gyfrannu at iechyd, ffyniant, diogelwch a lles cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol."

Yn y digwyddiad, amlygwyd gwaith Media Cymru – consortiwm o 23 o sefydliadau a gefnogir gan y Brifysgol sy'n canolbwyntio ar droi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ganolbwynt byd-eang i arloesi yn y cyfryngau a chanolbwyntio ar dwf economaidd gwyrdd a theg.

Dyma a ddywedodd Lee Walters, Rheolwr Cronfa Media Cymru: "Flwyddyn ers lansio Media Cymru yn gyhoeddus, rydyn ni’n falch o gael 18 o brosiectau ymchwil a datblygu ffyniannus sy’n rhan o’r Consortiwm, sef Ffrwd Arloesi sy'n gweithredu'n llawn ac a fydd yn buddsoddi mwy na £4.5m ym myd diwydiant yn ystod y tair blynedd nesaf. Yn rhan o hyn bydd amserlen fywiog iawn yn llawn digwyddiadau a’r gorau o ymchwil gyfredol y sector. Mae ein gwerthoedd, sef twf teg, gwyrdd a byd-eang, yn cael eu gwireddu yn sgil y rhaglen helaeth hon ac roedd heddiw yn gyfle gwych i ddangos i’r byd ein gweithgarwch ymchwil ac arloesi i lunwyr polisïau."

Yn y digwyddiad, a oedd yn cynnwys prosiectau sy’n amrywio o ddatgarboneiddio ac arloesi seiber i dechnoleg canfod feirysau a lled-ddargludyddion, daeth cynrychiolwyr o Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI), Swyddfa Cymru a'r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg ynghyd i annog mwy o gyllid ar gyfer byd ymchwil yng Nghymru.

Dyma a ddywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies: "Roeddwn i’n falch iawn o groesawu prifysgolion Cymru i'r digwyddiad arbennig iawn hwn a dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i sector addysg uwch. Rwy eisiau i brifysgolion Cymru chwarae rhan hanfodol wrth roi'r DU ar flaen y gad o ran Ymchwil a Datblygu, a mawr obeithiaf fod y digwyddiad hwn wedi ein helpu i wneud cynnydd tuag at y nod cyffredin hwnnw."

Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 - yr asesiad diweddaraf ledled y DU o safon Ymchwil - cydnabuwyd bod 90% o Ymchwil Caerdydd yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol.

Mae Llywodraeth y DU wedi addo buddsoddi bron i £40 biliwn mewn ymchwil a datblygu rhwng 2022 a 2025, gan gynyddu'r cyllid mewn ardaloedd yn y DU y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr o leiaf 40% erbyn 2030.

Dyma a ddywedodd yr Athro Fonesig Ottoline Leyser, Prif Weithredwr UKRI: "Mae prifysgolion Cymru yn hynod lwyddiannus wrth ennill cyllid ymchwil o bob rhan o UKRI, ac mae’r cyfraddau llwyddiant yn debyg i weddill y DU. Mae'r prosiectau hyn yn dangos yn glir sut mae prifysgolion Cymru yn hyrwyddo ymchwil ar draws ystod eang o feysydd ac yn ysgogi arloesi a thwf economaidd, gan fod o fudd i'r DU gyfan a thu hwnt."

Rhannu’r stori hon

Rydym ni’n defnyddio ein gwybodaeth i ddatblygu ymchwil arloesol fydd yn cael effaith ar y byd.